±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Twm Morys

Adnabod Awdur:
Twm Morys


Bardd ac awdur y nofel Ein Llyw Cyntaf


Dydd Iau, Medi 20, 2001

Enw:
Twm Morys.

• Beth yw eich gwaith?
Bardd.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gwneud gwaith ymchwilydd a sgwennwr sgriptiau i Radio Cymru; bysgio; darlithio yn Llydaw; cyflwyno rhaglenni teledu, bron iawn i gyd ar fydr ac odl!

0 ble’r ydych chi’n dod?
O Lanystumdwy.

• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn Llanystumdwy.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Dwi ddim yn meddwl mai 'mwynhau' ydi'r gair iawn. Rhywbeth sy'n digwydd ichi ydi addysg.

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Cael fy nghomisiynu wnes i i drosi nofel gan Jan Morris. Dwi wedi cydweithio o'r blaen efo hi. (Tydw i'n fab iddi, wedi'r cwbwl!) Y gwaith mawr bob tro ydi addasu'r darnau fasai'n amlwg i ddarllenwyr Cymraeg, heb newid gormod ar y stori.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cyfrol o farddoniaeth o dan y teitl Ofn Fy Het; cyfrol arall o farddoniaeth ar y cyd efo'r Prifardd Iwan Llwyd o dan y teitl Eldorado. Ysgrif i Wasg Gregynog o dan y teitl Grwyne Fawr.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Welsh Fairy Book gan W. Jenkyn Thomas

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Byddaf, yn amal.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, Robin Llywelyn. Yn Saesneg, yr Americanwr Raymond Carver.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Ugeiniau ohonyn nhw! Chwedlau'r Mabinogi yn un.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dafydd ap Gwilym

• Pa un yw eich hoff gerdd?
O waith Dafydd, Achau Hiraeth.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Heddiw: nid yw Duw mor greulon ag y dywed hen ddynion (Dafydd ap) Ond fory, pwy wyr?

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Yn rhyfedd iawn, dwi wrth fy modd efo hen ffilmiau du a gwyn Saesneg, fel Brief Encounter, neu ffilmiau rhyfel yn dangos y Natsis yn colli'r dydd. Fydda'i ddim yn gwylio'r teledu ryw lawer, ond cefais flas ar C'mon Mid Ffild, wrth reswm, a Talcen Caled hefyd.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Mae Ifas y Tryc, a Gwydion y Mabinogi, a Glendower Shakespeare, a'r Soldiwr Da Sweig, a Ponsiws Peilot hefyd, yn hoff gymeriadau gen i.

Fy nghas gymeriad ydi'r snichyn Rhys Meigen.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Glanaf o bawb, pysgodyn.

• Pa un yw eich hoff air?
Sgwarnog.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i chwarae jaz ar y piano. Mi fydda'i'n medru yn amal mewn breuddwydion!

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Sgwarnocach na rhai.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy nhrwyn.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Ar hyn o bryd, y bardd Leonard Cohen. Am ei fod o'n taro deuddeg bob gafael. Ond arwyr eraill i mi ydi Iolo Morgannwg a Loyd Jorj.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Glyn Dwr, wrth reswm pawb.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Loyd Jorj! A'r hyn faswn i'n ei ddweud ydi: Dowch am beint i'r Ffedars!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adra i Eifionydd, am fy mod i wedi treulio llawer iawn gormod o amser yn crwydro.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Mynd efo Elis Gwyn yn ei gwch. Codi cimwch o gawell. Mynd â fo adra mewn pwcad o dan swp o wymon. Dweud diolch wrth ei daflu o i'r dwr berwedig. Gadael iddo oeri wedyn. Ei sglaffio efo toman o datws Chwilog, a menyn Llyn.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cynganeddu, buta bwyd y môr, a'r hyn y bydd pob dyn iach yn ei wneud efo enaid hoff cytûn.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

• Pa liw yw eich byd?
Glas.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Bod yr iaith Gymraeg yn cael yr un hawl i fyw â slumod. Dach chi wedi clywed, hwyrach, fod darn go fawr o'r lôn osgoi heibio Llanllyfni ar gau, er ei bod yn barod, rhag dychryn y slumod sy'n magu eu cywion o dan un o'r pontydd.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Hon ydi ei enw o. Mae o ar y gweill ers rhai blynyddoedd. Llyfr am Gymru, y wlad a'r chwedl. Ond dwi'n teimlo 'mod i'n dal yn rhy ifanc i'w sgwennu o.

• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Er gwaetha' cyfaddawd y seindorf…'

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy