±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Owain Sion

Adnabod Awdur:
Owain Siôn


Awdur Bwli nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl yr Urdd 2001.

Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
• Enw:
Owain Siôn

• Beth yw eich gwaith?
Athro Cymraeg

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfieithydd rhan-amser i Barc Cenedlaethol Eryri

• 0 ble’r ydych chi¹n dod?
Llwyndyrus ger Pwllheli

•ˆLle¹r ydych chi¹n byw yn awr?

Yn symud i Gaerdydd ym mis Awst, ond yn Llwyndyrus ar hyn o bryd.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do yn fawr. Er roedd hi’n gas gen i arholiadau ond roeddwn yn mwynhau ymchwilio a chreu o’r newydd.

•ˆBeth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Bu i ffrind agos i mi fod yn dioddef o’r salwch bwlemia ychydig flynyddoedd yn ôl.

Bum yn ymweld â hi yn yr ysbyty a dod ar draws bechgyn yn dioddef o’r un cyflwr. Hanes myfyriwr ifanc sydd yma ar ddiwedd ei gwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.

Gwelwn ei ddatblygiad yn ystod tymor y Nadolig a sut y mae’r salwch yn cael mwy a mwy o afael arno. Mae’r newid yn ei gymeriad yn dod i’r amlwg a’i berthynas ag eraill.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

Dim eto!

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant

•ˆA fyddwch yn edrych arno’n awr?
Byddaf, ac yn falch ei fod wedi ei ail-argraffu’n ddiweddar ar gyfer cenhedlaeth arall o blant.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Nifer ohonynt – Geriant Vaughan Jones, Mihangel Morgan , Angharad Tomos a Bethan Gwanas.

•ˆA oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Dyddiadur Goara
gan Bethan Gwanas sy’n cael golwg ar fywyd Cymraes yn ceisio ymdopi â gwneud gwyrthiau o dan amgylchiadau anodd iawn.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Gerallt Lloyd Owen a Mei Mac.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Pe bawn i yn artist gan T.Rowland Hughes.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad’ Saunders Lewis.

•ˆPa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm – Stand by Me, nofel gan Stephen King.
Rhaglen deledu – This Life ( y ddwy gyfres) a Big Brother.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Ennyd yn Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos.
Cas - ?

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Teg edrych tuag adref.

• Pa un yw eich hoff air?
Homar

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Medru tynnu llun / bod yn dda ym myd chwaraeon.

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Diog, amyneddgar, ymdrechgar.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Methu gweld drwy bobl annifyr yn syth.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwilym Plas, Llwyndyrus.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Dymchwel Wal Berlin.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dafydd ap Gwilym – ‘Gymri di beint?’

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Lithfaen i lawr i Nant Gwrtheyrn – yr olygfa.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Homar o brôn coctêl, heb y salad.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cyfansoddi, canu, canu’r piano, darllen.

• Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.

• Pa liw yw eich byd?
Glas Golau.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mai pobl leol sydd i gael y cynnig cyntaf ar dai sy’n mynd ar werth ym Mhen Llyn.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd yn reit fuan.

• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Dau gnonyn bach drwg oedd Paladr ac Esgyll.....



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy