鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwraig Orau o'r Gwragedd
Adolygiad o Gwraig Orau o'r Gwragedd gan Enid Pierce Roberts. Gwasg Pantycelyn. 拢5



Mae hwn yn llyfr sy'n haeddu gwell.
Yn haeddu gwell diwyg a chyflwyniad, a chydag ychydig mwy o luniau a mymryn o ddychymyg gallai fod yn gyfrol hynod o hardd.

Clawr y llyfrFel ag y mae, gyda'i glawr llipa nid yw ond megis llyfryn bron yn bamffledaidd ei wedd.

Trueni, gan fod y sgerbwd yma ar gyfer cyfrol frasterog - foethus hyd yn oed. Collwyd cyfle.

Uchelgais pob merch
Darlunio mae'r gyfrol ffordd o fyw yn Nhrefaldwyn yn ystod y cyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol pan oedd "gwybod sut i gadw ty yn fedrus, yn ddarbodus ac yn llwyddiannus" yn uchelgais pob merch

Achos fel yr eglura'r awdur, "i hynny y magwyd hi ac yr hyfforddwyd hi, hyd yn oed merch o deulu uchelwrol."

Ac erbyn yr oeddan nhw'n 15 oed yr oedd disgwyl iddyn nhw fod yn gwybod sut i wneud pob gwaith ty "ac yn fwy na dim, fedru coginio'n dda."

Un o'r rhai a oedd wedi rhagori yn hyn o beth oedd Merryell Williams, meistres ystad eang Ystumcolwyn gyda thiroedd ym mhlwyfi Meifod, Cegidfa, Lanfechain, Llansan-ffraid a'r Trallwng.

A phan yw'n darlunio Merryell Williams fel gwraig ty mae Enid Pierce Roberts yn golygu llawer iawn mwy na rhywun efo dystar, polish a barclod.

Yr oedd hi'n ferch a allai nid yn unig gadw trefn ar ystad fel hon ond ei rhedeg o ddydd i ddydd.

Treuliodd ei hoes yno ac yno y bu farw 13 Ionawr 1702/3, yn 74 oed.

Tair rhan
Rhennir y llyfr yn dair prif ran; y rhan gyntaf yn rhoi'r cefndir i arferion a ffordd y fyw y cyfnod, yr ail ran ym ymwneud a dulliau paratoi a choginio bwyd a'r drydedd ran yn gasgliad eithriadol o ddiddorol o risetiau gan gynnwys rhai meddyginiaethau achos yn y cyfnod hwn yr oedd disgwyl i wraig ty nid yn unig wybod am rinweddau llysiau a phlanhigion ond wybod sut i'w paratoi ar gyfer gwella pob math o anhwylderau.

At bigyn clust y feddyginiaeth fyddai nionyn mewn papur brown wedi ei rostio mewn marwydos gydag olew almonau melys mewn twll yn ei ganol.

"Yna gwasgwch y nionyn drwy liain, cymryd yr hyn a ddaw allan, a rhoi 2 neu 3 diferyn yn y glust ddwywaith."

Mae meddyginiaethau i liniaru'r gowt hefyd, at ffitiau ac "i wneud gwin Saets, sy'n dda iawn at unrhyw wendid yn y gewynnau."

Pethau wrth law
Byd felly oedd o gyda'r bobl yn gymharol dlawd yn byw ar "pa nwyddau a chynnyrch oedd wrth law" a chan mai cymdeithas wledig oedd hi gall rhai o'r prydau a ddisgrifir ymddangos fel gwleddoedd i ni heddiw sydd wedi newid ein ffordd o fyw a'r dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd.
Un peth arwyddocaol yw mai "cynnych lleol" yn ein ieithwedd fodern ni, oedd yr hyn a fwyteid.

"Hyd yn oed yn y plasau lle'r oedd y gwleddoedd mwyaf moethus, ychydig iawn o ddim a brynid ar wah芒n i winoedd a sbeis, ac yng nghefn gwlad, pysgod m么r. Yr oedd y cyfan bron yn gynnyrch yr ardd, y berllan a'r stad, a'r hyn a gynhyrchid gartref oedd i raddau helaeth yn penderfynu sadon byw."

Un canlyniad i hyn oedd nad oedd dim yn cael ei dyfu na ellid gwneud defnydd ohono.

"Rhoid blodau mewn salad a phastai a photes, a'u taenu ar ac o amgylch ambell saig . . . trochid rhai mewn dwr a siwgr i wneud melysion, a gwneid diodydd o amryw. Defnyddid saffron . . . tansi a phernel i liwio bwyd."

Blawd yn ddrud
Camargraff, mae'n ymddangos yw'r syniad o Gymry yn byw ar fwydydd llwy fel uwd a llymru a bara ceirch.

Yn un peth yr oedd blawd yn ddrud a blawd ceirch ymhlith y pethau drutaf.

"Cig oedd y prif fwyd, yr oedd yn rhatach ac yn llawer haws ei gynhyrchu na bara" a dim ond yn ystod y ganrif ddiwethaf y newidiwyd arferion amaethu i godi grawn ac ydau.

"Wrth wneud hyn i gyd collodd llawer o anifeiliaid gwyllt, adar a physgod eu cynefin a'u lloches, ac amddifadwyd llafurwyr cyffredin o gyfran o'u cynhaliaeth."

Cyn hynny, mewn dyddiau pryd na wyddai pobl o ble'r oedd y dorth nesaf yn dod yr oeddynt diolch i Dduw am gwningod.

Paratoi ar gyfer y gaeaf
Nid yn unig yr oedd disgwyl i'r gwragedd gorau o'r gwragedd yn nheitl y llyfr baratoi prydau yn eu tymhorau ond hefyd "ddarparu bwyd digonol i'r teulu a'r gwasanaethyddion ar gyfer hirlwm y gaeaf, a chynaeafu llysiau ar gyfer afiechydon, haint ba damweiniau."

"Y mae'n anodd i ni heddiw, sylweddoli'r niferoedd yr oedd rhaid i'r feistres ddarparu ar eu cyfer. Nid yn unig yr oedd teuluoedd yn llawer mwy . . . byddai meibion a merched dibriod yn aros yn y cartref ac weithiau fab a'i wraig a'i deulu . . . a galli fod yno fodrabedd, neiniau a gweddwon . . ."

Ar fferm gweddol fawr dywed y byddai angen tair dafad y dydd a dau fustach yr wythnos i fwydo pawb!

Dyma'r math o wybodaeth ddifyr sy'n gwneud Gwraig prau o'r Gwragedd yn llyfr mor flasus a diau y bydd ambell un yn cael ei demtio i roi cynnig ar ambell un o'r risetiau yna o'r oes o'r blaen.

Ond diau y bydd angen haneru a hyd yn oed chwarteru rhai o'r mesuriadau ar gyfer gofynion heddiw. Er enghraifft mae'r riset "I wneud dwr Oren "yn gofyn am bedwar chwart o frandi" a'r un faint o ddwr!Glyn Evans


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy