鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tinboeth - pwyso a mesur
Dau lenor yn trafod gyda Gwilym Owen
Bu Bethan Gwanas, golygydd Tinboeth yn s么n am y gyfrol ar Wythnos Gwilym Owen ar 鲍鱼tv Radio Cymru, ddydd Llun, 19 Tachwedd, 2007.

Yn dilyn, bu'r ddau lenor, Gwen Pritchard Jones ac Elfyn Pritchard, yn pwyso a mesur y gyfrol wedyn.

Dywedodd Bethan Gwanas i'r syniad am gasgliad o straeon erotig Cymraeg ddod yn sgil poblogrwydd cyfresi fel Sexy Shorts f么r Summer yn Lloegr.

Daeth criw o awduron at ei gilydd yng nghanolfan sgrifennu T欧 Newydd i fwrw'r cynllun ymlaen.

"Ac roeddwn i eisiau pwysleisio mai erotig fuasen nhw ac nid pornograffi," meddai.

"Yn y b么n be ydan ni eisiau ydi llyfr sy'n mynd i werthu'n dda a dyna pam yr aethom ni amdani hi," meddai.

Er i rai o'r awduron gynnwys erotica yn eu gweithiau yn y gorffennol dywedodd bod eraill nad oeddynt erioed wedi sgwennu'n erotig o'r blaen.

"Yr oedd yna rai nad oedden nhw erioed wedi mentro - nac erioed wedi cael y gyts i wneud - falle nad oeddan nhw'n si诺r eu bod nhw'n gallu'i wneud o.

"Felly roedd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw arbrofi ac i weld, yn un peth, os oedden nhw'n lecio sgwennu'r math yma o beth a hefyd os oeddan nhw'n gallu," meddai.

Dywedodd i'r penderfyniad i gyhoeddi'r straeon heb enw gael ei drafod "dipyn go lew" mewn cyfarfodydd.

"O'r cychwyn roeddem wedi meddwl ei gyhoeddi yn ddienw er mwyn rhoi'r rhyddid i bobl sgwennu heb deimlo - wel dyna ichi rywun fel Eigra, enw parchus iawn, tybed a fyddai hynny'n i llyffetheirio hi.

"Fuasa fo ddim iddi hi ac roedd sawl un [ohonom] yn y diwedd yn reit hapus i roi ein henwau wrth ein stori ond bod yna rai eraill oedd yn well ganddyn nhw ein bod ni ddim a dwi'n meddwl fod hynny yn benderfyniad cywir yn y pen draw achos, wel, mae o wedi codi diddordeb yn tydi. . . . ac mae o yn help i werthu'r gyfrol ac mae o yn help i drafod y gyfrol.

"Felly os ydi o yn ysgogi unrhyw fath o drafodaeth ar lyfrau wel mae hynny'n beth da yn tydi."

Er iddi orfod golygu "ambell i air" dywedodd iddi gael ei synnu "fod pawb mor ddiniwed".

"Does yna ddim byd cryfach yn y gyfrol yma na chewch chi mewn ambell i nofel sydd allan Dolig 'ma," meddai gan ychwanegu fod yna "erotica reit ddiddorol" yn nofelau Elin Llwyd Morgan a Gareth F Williams.

Awgrymodd y cyhoeddir ail gasgliad, Tinboethach.

Gwen pritchard Jones Mewn trafodaeth wedyn dywedodd Gwen Pritchard Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eistedddfod Genedlaethol Eryri 2005, iddi hi fwynhau y stori芒u "bron i gyd".

Ond ychwanegodd:
"Doedd rhai ddim cweit beth fyddech chi'n i alw yn erotig doeddan nhw ddim yn cyrraedd y nod fasw'n i'n meddwl.

"Ond ar y cyfan roeddwn i'n chwerthin gryn dipyn.

"Mae rhywbeth erotig i fod i oglais y synhwyrau yn tydi. I fod i godi rhyw nwyd ynddo chi ond weithiau roeddech chi'n teimlo mai dim ond ail ddisgrifio rhyw rhwng cwpwl mewn gwahanol ffyrdd a dim cweit yr elfen chwareus yna fuasech chi yn ei ddisgwyl mewn rhywbeth erotig."

Elfyn Pritchard Ac meddai Efyn Pritchard sydd hefyd yn enillydd cenedlaethol:
"I mi cannwyll yn llosgi'n araf ydi erotica nid tanllwyth yn fflamio yn sydyn- a dyna oedd y prif ai."

Ond ychwanegodd eu bod yn. straeon "digon difyr i'w darllen" heb ofyn llawer gan y darllenydd.

"Dydi eu menter nhw ddim adlewyrchu nac yn cyfiawnhau heip y marchnata," meddai.

Dywedodd mai dwy stori oedd yn sefyll allan iddo fo: Prr am ddawnswraig erotig a disgrifiodd Jasmin ac Eiodin fel "perl" am hen wraig yn ail-fyw profiadau ieuenctid wrth i ddyn drin ei thraed. Stori, meddai, a fyddai'n dal ei thir "mewn un rhyw gyfrol o lenyddiaeth".

Dywedodd Gwen Pritchard Jones y byddai hi yn ychwanegu atynt y stori Dwy. "Roedd honno yn gwneud i mi chwerthin," meddai.

Dywedodd hi hefyd fod naws ddosbarth canol i'r straeon.

Dywedodd y byddai'n barod i ystyried cyfrannu i gyfrol nesaf - a chyhoeddi wrth ei henw hefyd.

Dywedodd Elfyn Pritchard, yntau, "Pe byddwn i'n sgrifennu fel hyn fe fyddwn yn barod i roi fy enw wrtho."

Ond doedd o ddim am i Tinboeth gael ei chynnwys yn rhestr deg llyfr gorau y flwyddyn a chytunodd Gwen Pritchard Jones y byddech yn disgwyl "rhywbeth gwell" ar restr felly.

  • Adolygiad o Tinboeth

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy