±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Byd y Nofelydd
Adolygiad o Byd y Nofelydd- cyfweliadau gydag awduron cyfoes o Gymru gan Sioned Puw Rowlands. Y Lolfa. £8.95

Adolygiad gan Glyn Evans
Does yna ddim amheuaeth fod gan y rhan fwyaf ohonom ddiddordeb ysol mewn cael gwybod mwy am awduron gweithiau llenyddol sydd wedi'n plesio ac, yn wir, hyd yn oed awduron llyfrau nad ydynt wedi taro deuddeg.

captionY gynneddf hon sy'n peri ein bod yn ymweld a chartrefi a chynefinoedd yr awduron hyn ac yn mynd i wrando arnyn nhw yn siarad amdanynt eu hunain.

Chwilio yr ydym ni am y pethau sy'n mynd i egluro inni pam y maen nhw'n sgrifennu fel maen nhw.

Deg o nofelwyr
A siarad yn gyffredinol, ychydig o gyfle a gawn ni bobl gyffredin i gyfarfod â'r awduron a siarad â nhw yn uniongyrchol hyd yn oed mewn gwlad fechan fel Cymru.

Ar sail hyn yn unig mae croeso i'r gyfrol hon lle mae Sioned Puw Rowlands yn holi deg o nofelwyr ar ein rhan.

.Yn y gyfrol, Angharad Tomos sy'n tanlinellu'r ffaith i hwn fod yn ymarferiad gwerth chweil.

Mae hi'n sôn amdani'i hun yn defnyddio hanner traethawd ysgol am Wuthering Heights i sôn am fywyd caled Charlotte Bronte ond ei hathro Saesneg, Gareth Miles, yn dadlau nad oedd â wnelo hynny ddim â'r gwaith ei hun ond y dylai'r gwaith gael ei feirniadu "am ei werth llenyddol a dim byd allanol, hunangofiannol," meddai .

"Ond wnaeth hynny ddim fy stopio rhag cymryd diddordeb ysol ym mywydau sgwenwyr," meddai Angharad, "a dydw i ddim yn meddwl y byddai Charlotte Bronte wedi sgwennu'r hyn a wnaeth heblaw ei bod wedi byw y bywyd hwnnw."

Mwy na dim ond hanes
Mae Sioned Puw Rowlands yn gwneud mwy na mynd ar ôl hanes awduron. Wrth holi Aled Islwyn, Christopher Meredith, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Robin Llywelyn, Martin Davis, William Owen Roberts, Bethan Gwanas, Niall Griffiths ac Owen Martell mae'n mynd ar ôl pethau sy'n amrywio o natur y beiros a'r penislau mae rhai ohonyn nhw yn eu defnyddio i berthynas nofelwyr a chyhoeddwyr a golygyddion ac o ddylanwadau i densiynau rhwng awduron a'i gilydd.

Mae Mihangel Morgan yn cyfaddef nad ydi o'n dod ymlaen ag Aled Islwyn er enghraifft a bod "rhyw fath o elyniaeth" pan yw'n cyfarfod â "rhai fel Angharad Tomos".
Mae llwyddiant cyfrol fel hon yn dibynnu cymaint ar yr holwr ag ar yr atebwr wrth gwrs.

Peryg mawr yw i'r naill fynd yn siwdaidd, ymhonnus; ac er y gallai hynny siwtio'r mwyaf hunandybus o awduron a fyddai'n ymhyfrydu mewn tindroi yn yr un cywair byddai'n dân ar groen rhai erailll.

Er bod digon o olion o hynny yma rhaid cyfaddef fod hynny ynddo'i hun yn medru bod yn ddiddorol ac yn ddifyr i ni'r darllenwyr mewn rhyw ffordd wyrdroedig.

At ei gilydd, fodd bynnag, mae'r trafod yn ddigon difyr, treiddgar a dadlennol gydag ambell i berl fel ymosodiad Aled Islwyn ar awduron ifainc proffesiynol syth o goleg:
"Yn ddwy a thair ar hugain oed, beth ddiawl wyddon nhw am ddrewdod bywyd, ar wahân i gynnwys eu cewynnau eu hunain? Trwy rannu a phrofi a dysgu disgyblaethau bywyd mae doniau'n cael eu hogi," meddai.

Nid yw ond naturiol fod arwyddion amlwg i'r holwraig ei chael yn haws i dynnu sgwrs gydag ambell un na'i gilydd a'r ymateb braidd yn ddiamynedd weithiau i rai o'i chwestiynau.

Ateb swta
Difyr i ni yw ymateb swta Mihangel Morgan i gegiad o gwestiwn.
"Ond wrth weld dy waith ar dy silff lyfrau mewn Eidaleg, ydi dy chwilfrydedd di ddim yn cael ei ddeffro i ddarllen mwy o lenyddiaeth yr Eidal, er enghraifft? Fel ffordd o ddychmygu sut mae dy waith yn ffitio yn y cyd-destun Eidalaidd? Fyddi di ddim yn meddwl pwy fydd cyfoedion Melog, er enghraifft, yn ei fywyd newydd?" ydi'r llond ceg o gwestiwn sy'n cael dwy frawddeg o ateb,
"Sori s'da fi ddim byd i weud am hynna. Ti moyn i fi draethu yn hir ar ffrindiau melog yn yr Eidal, ond wi jyst ddim eisiau."

Mae bob amser yn ddyrys ar holwg pan fo'r cwestiwn yn hwy na'r ateb!

Ond a'i chymryd drwyddi draw mae Byd y Nofelydd yn gyfrol sy'n aml yn ddifyr, weithiau'n ddadlennol ac ar adegau'n bryfoclyd.

Nid yw ond i'w ddisgwyl, mae'n debyg, fod Sioned Puw Rowlands yn cael gwell hwyl ar holi ambell un na'i gilydd ac arwydd o lwyddiant y llyfr fel ymarferiad o gyhoeddi cyfweliadau holi ac ateb yw fod rhywun yn teimlo'r berthynas gydag ambell i nofelydd yn ymddangos yn ddigon diamynedd aâ'r cwestiynau.

Wnai ddim enwi neb byddai'n gan y byddai'n ddiddorol i ddarllenwyr ganfod ai dyna eu profiad hwythau.

Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed Sioned Puw Rowlands, "Nid pwrpas y gyfrol yw bod yn ffenest siop i awduron gorau Cymru, ond codi cwestiynau am y broses o ysgrifennu ac o fynd ati i lunio nofel. Dewisais amrywiaeth o nofelwyr er mwyn cael amrywiaeth o brofiadau," meddai.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý