±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr y Flwyddyn 2007 - sylwadau'r beirniaid
Sut y dewisodd John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam restr hir Llyfr y Flwyddyn 2007?
  • Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2007

  • Sylwadau'r tri beirniad Cymraeg: John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam wedi eu llunio gan John Rowlands.



    Bu'r misoedd diwethaf yn rhai hynod brysur i ni fel beirniaid, ond bu'n gyfnod difyr iawn serch hynny. Wrth gwrs mae'r tri ohonom - Elinor Jones, Gwion Hallam a minnau - yn ddarllenwyr brwd beth bynnag, ond fel arfer mae gennym ddewis beth i'w ddarllen.

    Darllen i bwrpas
    Y tro hwn roeddem yn gorfod darllen i bwrpas, a bocseidiau o lyfrau yn cyrraedd yn rheolaidd o swyddfa'r Academi yng Nghaerdydd. Hyd yn oed os nad oedd llyfr at ein dant, roeddem yn benderfynol o'i ddarllen drwyddo, gan geisio gosod ein rhagfarnau ar y naill du dros dro, er mwyn tegwch.

    Bu tipyn o gyfnewid negeseuon ar e-bost neu lythyrau trwy'r post malwen, a thipyn o drafod dros y ffôn cyn seiadu wyneb yn wyneb.

    Roedd yn ymddangos i mi fod y tri ohonom yn bur wahanol i'n gilydd - o ran cefndir ac o ran oed, ac felly doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau sut y byddem ni'n cyd-dynnu. Ond rwy'n falch o ddweud i'n trafodaethau fynd yn hwylus dros ben.

    Wrth gwrs roedd rhaid gwyntyllu ambell egwyddor a barn yn drwyadl, ac roedd raid wrth beth cyfaddawdu yma a thraw, ond daethom drwyddi'n syndod o dda, a llwyddo i gyflwyno Rhestr Hir o ddeg llyfr heb ormod o anghytuno.

    Cystadleuaeth deg?
    Fe ellid dadlau nad yw hon yn gystadleuaeth deg o gwbl.

    Roeddem yn gorfod mesur a phwyso llyfrau a berthynai i gategorïau cwbl wahanol i'w gilydd.

    Sut y mae modd cymharu cyfrol o farddoniaeth a llyfr o feirniadaeth?

    Buasai wedi bod yn llawer haws dewis Nofel y Flwyddyn, er bod hynny hefyd yn anodd.

    Fe ddywedwyd o'r blaen - ac fe ddywedir eto - bod angen mwy nag un gystadleuaeth: un ar gyfer ffuglen, un ar gyfer barddoniaeth, un ar gyfer beirniadaeth, a beth am hunangofiannau, cofiannau a llyfrau hanes?

    Gosod y gystadleuaeth ar wahân
    Wedi dweud hynny, onid yr ehangder yma - a'r amrywiaeth yng nghategorïau'r llyfrau - yw un o'r pethau sy'n gosod y gystadleuaeth yma ar wahân i aml i gystadleuaeth debyg.

    Ac os mai chwilio am 'Lyfr Cymraeg y flwyddyn' yw'r nod - onid yw'n bosib i gyfrol o farddoniaeth neu gofiant, i gyfrol academaidd neu nofel 'boblogaidd' godi i'r safon hwnnw ym meddwl y beirniaid?

    Llyfr y flwyddyn am wn i yw'r llyfr - beth bynnag ei fwriad neu ei fath - sydd wedi symud a chyffroi a chyfoethogi bywyd y darllenwr (neu'r beirniaid) fwyaf.


    Eleni, roedd dau lyfr da iawn yn cael eu torri allan o'r gystadleuaeth. Mae Cydymaith Caneuon Ffyddgan Delyth Morgans yn werth ei gael ar bob aelwyd ddiwylliedig, ond cyfeirlyfr ydyw, nid llyfr i'w ddarllen o glawr i glawr. Roedd Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan yn apelio'n fawr iawn atom, ond y mae rhannau helaeth o'r gyfrol honno hefyd yn gyfeiriadol.

    Hunangofiannau
    Un peth a'n trawodd am lyfrau 2006 oedd y doreth o hunangofiannau oedd yn eu plith. Rhaid i mi ddweud imi ddarllen y rheini'n awchus, ond yn bennaf oherwydd chwilfrydedd.

    Wrth gwrs, roeddwn i fy hun yn perthyn i'r un genhedlaeth â'r awduron fwy neu lai, ac felly'n gallu uniaethu'n weddol, ac roedd clych atgof yn canu yn fy mhen yn gyson.

    Eto, llyfrau i'w darllen unwaith oedden nhw ar y cyfan, cyfrolau i ddifyrru'r amser a dim mwy.

    Cyn lleied o farddoniaeth
    Syndod oedd gweld cyn lleied o gyfrolau o farddoniaeth a gyhoeddwyd yn 2006.

    Gydag enwau fel James Nicholas, Dafydd John Pritchard, Karen Owen ac Aled Lewis Evans ymysg y rhai a gyhoeddodd gyfrol y llynedd, mae'n wir nad oedd yr un gyfrol wael yn eu mysg, ond i ni'n tri, barddoniaeth gynnil ac iasol John Fitzgerald yn unig a fynnodd ei lle yn y Rhestr Hir.

    Testun lyfrau
    Fe all cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, hanes yr eisteddfod neu'r Orsedd, hanes gwleidyddiaeth neu hanes y canu poblogaidd fod yn amhrisiadwy o'u bath, ond rhaid wrth ryw wreiddioldeb syniadol neu sbonc arbennig yn yr arddull i'w codi o fod yn destunlyfrau i fod yn Llyfrau'r Flwyddyn.

    Blwyddyn y nofel
    O ran nifer, mae'n debyg mai blwyddyn y nofel oedd y llynedd.

    Ond peth sydd yr un mor wir yw fod y nofelau a gyhoeddwyd mor amrywiol nes ymddangos fel petaent yn perthyn i ffurfiau (genres) cwbl wahanol i'w gilydd.

    Bydd dim ond enwi rhai ohonyn nhw'n ddigon i argyhoeddi unrhyw un o hynny:
    mae nofel ôl-fodernaidd Aled Jones Williams, Ychydig Is Na'r Angylion, mor wahanol ag y gall unrhyw beth fod i nofel hanes Gwen Pritchard Jones, Dygwyl Eneidiau, a nofel ymenyddol Tony Bianchi, Esgyrn Bach, am y pegwn arall â Ffydd Gobaith Cariad Llwyd Owen.

    Gwion Hallam yn cyhoeddi enwau'r deg llyfr yn Ninbych Un ffenomen go anghyffredin oedd fod Llwyd Owen wedi cyhoeddi dwy nofel o fewn yr un flwyddyn. Mewn theori, gallem fod wedi gosod y ddwy ar y Rhestr Hir. O osod un yn unig, yna codid y cwestiwn - pa un?
    Bu galed y bygylu!

    Meddyliwch wedyn am nofelau mor wahanol â Brithyll Dewi Prysor, Glas Hazel Charles Evans, Fyny Lawr Meleri Wyn James, Lladd Amser Lyn Ebenezer, Euog Llion Iwan, Gwe o Gelwyddau Delyth George, Atyniad Fflur Dafydd, Pili Pala Catrin Dafydd, Hi Oedd Fy Ffrind Bethan Gwanas, Rhoces Fowr Marged Lloyd Jones ac Y Ddraig Goch Emlyn Roberts.

    Storiau byr
    Heb sôn am y doreth o nofelau, roedd yna hefyd gyfrolau o storïau byrion gan Ioan Kidd a Daniel Davies. Gallwch ddychmygu bod cryn dipyn o gnoi cil a dadlau wedi bod am y cynhaeaf ffuglennol yna.

    Wedi medru dewis ugain
    Yn gam neu'n gymwys (ac rwy'n siŵr y bydd llawer o drafod ac o anghytuno gyda'n dewis ni'n tri - a da hynny), mae hanner y Rhestr Hir yn nofelau.

    Ceir dau gofiant, un hunangofiant, un gyfrol o farddoniaeth ac un ffeithlen.

    Buasai'n hawdd bod wedi llunio Rhestr Hir o ugain cyfrol, gan fod nifer o lyfrau'n crefu am gael eu cynnwys, a ninnau'n gorfod dethol deg yn unig.

    Ond yr oedd yn rhaid cadw at y nifer penodedig.

    Beth nesaf?
    Y cam nesaf i ni'n tri fel beirniaid fydd darllen y llyfrau yna eto, yn fwy hamddenol y tro hwn efallai, a cheisio penderfynu ar Restr Fer o dri.

    Rydym yn benderfynol o adael i'r llyfrau ymlwybro unwaith eto trwy'n hymwybyddiaeth, gan obeithio y bydd tri ohonynt yn ein hargyhoeddi mai hwy sy'n haeddu bod ar y brig.

    Diolch am wledd o ddarllen, llongyfarchiadau calonnog i'r deg awdur a gyrhaeddodd y Rhestr Hir a diolch am lawer o ddanteithion eraill gan yr awduron na chyrhaeddodd y rhestr y tro hwn.

  • Cliciwch YMA i weld y rhestr a sylwadau eraill.

    .



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý