±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhywfaint o Anfarwoldeb
Robin Chapman yn trafod bywyd a gwaith nofelydd y dewiswyd ei nofel yn Llyfr y Ganrif.


Ar y naill law mae'n awdur Llyfr y Ganrif ac yn cael ei gydnabod yn arloeswr y nofel Gymraeg fodern ond ar y llaw arall mae penderfyniad Islwyn Ffowc Elis i beidio a dal ati i sgrifennu yn ddirgelwch llenyddo sy'n peri dryswch i lawer.

Mae llyfr newydd yn mynd i'r afael a'r dirgelwch hwnnw.

Wedi cychwyn mor rhyfeddol o lwyddiannus nid yn unig fel nofelydd ond fel dramodydd radio hynod boblogaidd rhoddodd y gorau i sgrifennu cyn cyflawni yr addewid yr oedd pawb wedi ei weld yn ei waith.

Ac er iddo ef ei hun ddweud ei fod yn gweithio ar nofel fawr i goroni ei yrfa ni welodd hi byth olau dydd.

Dim rhyfedd felly fod diddordeb arbennig mewn bywgraffiad sydd newydd ei gyhoeddi gan T. Robin Chapman, Rhywfaint o Anfarwoldeb.

Meddai'r awdur "Mae'n amhosibl dychmygu ffurfafen lenyddol (na gwleidyddol na diwylliannol ehangach) Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif hebddo."

Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn Nyffryn Ceiriog yn 1924 ac mae'n byw heddiw yn Llanbedr Pont Steffan lle treuliodd bymtheng mlynedd yn ddarlithydd coleg.

Dylanwad Maldwyn

Yr oedd yn gwbl addas mai yn Y Babell Lên ym Meifod yr wqythnos diwethaf y tynnwyd sylw at Rhywfaint o Anfarwoldeb gan y cyhoeddwyr ac y traddodwyd darlith amdano gan Robin Chapman.

Yn ystod ei gyfnod yn weinidog ym yng nghapel y Wesleaid ym Meifod yn y pumdegau y daeth y syniad iddo am yr enwocaf o'i nofelau, Cysgod y Cryman

Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ac yntau'n byw yn Llanfair Caereinion, yr ysgrifennwyd nofel sydd wedi hudo darllenwyr Cymraeg ym mhob degawd ers hynny.

Y sbardun i sgrifennu

Dywedodd Robin Chapman nad oes gronyn o amheuaeth mai ei brofiad o fyw yn Llanfair oedd y sbardun i ysgrifennu.

"Sylwodd llawer o adolygwyr a beirniaid bod harddwch Maldwyn yn gymeriad pwysig yn y gyfrol," meddai llefarydd o Wasg Gomer.

"Bron mor bwysig â Harri Vaughan, y prif gymeriad, mab fferm cyfoethog a breintiedig, sy'n fyfyriwr yn y Brifysgol ym Mangor ond sy'n dod o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth ac o'r herwydd yn troi ei gefn ar werthoedd ei dad - a'i gyfoeth," meddai.

Fel hyn y cofnodir y cefndir gan Islwyn Ffowc ei hunan, yng nghyfrol Robin Chapman:
Dau ddosbarth yn unig oedd yn fy hen ardal i, sef y bobl gyffredin a'r sgweier o Sais oedd yn byw yn y Plas. Ond yn y rhan hon o Faldwyn yr oedd graddfeydd cymdeithasol cymhleth. Nid Saeson oedd yn y ffermydd mawr, ond Cymry Cymraeg glân gloyw. Ac eto roedd y pentrefwyr yn edrych i fyny at y ffermwyr mawr a'u teuluoedd.

"Isaac Roberts y gof" ond "Mr Jones y Parc". Y ffermwyr mawr hyn oedd arweinwyr y gymdeithas, un efallai'n gynghorydd sir ac yn ynad heddwch, y lleill yn ddiaconiaid ne'n flaenoriaid yn y capeli.

Mi feddyliais, "Beth petai gan un o'r ffermwyr mawr hyn fab disglair, ac yntau, er ei anfon i ysgol breifat. . . yn mynd i'r Brifsgol ym Mangor, fy hen goleg i, lle byddai holl blant gogledd Cymru'n mynd yn y pedwar degau, ac yno'n troi'n erbyn crefydd a gwlediyddiaeth ryddfrydol ei deulu, oni fyddai cythrwfwl yn y teulu a'r ardal?

Llyfr y Ganrif

Dyna gychwyn y bestseller Cymraeg sydd wedi gwerthu bron i 50,000 ac a ddewiswyd gan ddarllenwyr Cymru yn llyfr Cymraeg y ganrif adeg dathliadau'r mileniwm.

Ar ben hynny, Islwyn Ffowc Elis oedd y llenor Cymraeg cyntaf i fentro ennill ei fywoliaeth o ysgrifennu a bu'n gyfrifol am weddnewid barn pobol am yr hyn yr oedd hi'n bosib ac yn dderbyniol ysgrifennu amdano yn Gymraeg.

Ond dydi'r darlun ddim mor syml a hynny gan i'r awdur hynod boblogaidd hwn gilio i'r cyrion ar yr union adeg yr oedd disgwyl am Y Nofel fawr ganddo.

Mae'n enciliad na chafodd erioed ei egluro'n llawn.

Rhywfaint o Anfarwoldeb : Bywgraffiad Islwyn Ffowc gan Robin Chapman. Gwasg Gomer.

Holi Robin Chapman

Cyfle i chi fynegi barn - ebostiwch


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý