鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwyn Thomas - blwyddyn bardd
Gwyn Thomas yn edrych yn ol dros ei flwyddyn yn Fardd Cenedlaethol

Bu Gwyn Thomas yn edrych yn 么l dros ei flwyddyn Fardd Cenedlaethol Cymru mewn sgwrs gyda Dei Tomos ar 鲍鱼tv Radio Cymru, nos Sul, Gorffennaf 15, 2007.

Y gerdd gyntaf
Dywedodd iddo sgrifennu "rhyw bymtheg neu well o gerddi" yn ystod ei flwyddyn; rhai wedi eu comisiynu yn arbennig.

Dywedodd mai ei gerdd gyntaf yn Fardd cenedlaethol oedd un am ferch ifanc a laddwyd gan geffyl yn rhoi ei harennau i'w chwaer ac achub bywyd honno.

"Roeddwn i'n meddwl, efo'r holl newyddion enbyd yna sydd o'n cwmpas ni y dyddiau hyn ei bod hi'n iechyd inni gael newydd am bobl dda . . . ac roeddwn i'n meddwl fod hynny yn beth priodol iawn i unrhyw fardd cenedlaethol i wneud," meddai.

Dolch am Brunstrom
O bosib mai un o'i gerddi mwyaf dadleuol oedd un yn diolch am Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru.

"Do, mi es i ati i sgwennu cerdd i Richard Brunstrom. Sais ydi o 'de, a mynd ati i ddysgu Cymraeg!

"Mae o wedi gweddnewid y sefyllfa rhwng pobl a'r heddlu yng ngogledd Cymru, er efallai nad ydi'r Daily Post yn ei hoffi o.

"Pan sgwennais i'r gerdd yna roedd yna ryw aelod seneddol yn y gogledd ddwyrain yna ddim yn hoffi hynny ychwaith." Pobl yn y geiriau
Bu'n trafod hefyd absenoldeb pobl yn y llyfr o luniau am Flaenau Ffestiniog y cyhoeddodd gerddi ar eu cyfer.

"Does yna ddim pobl yn y lluniau ond mae yna bobl yn y geiriau sy'n cyd-fynd a'r lluniau," meddai. Y Gelli
Un o uchelbwyntiau ei flwyddyn oedd ymweld 芒 Gwyl y Gelli - ac er yn wyl Seisnig yn ei hanfod pwysleisiodd bwysigrwydd bod yno:

"Doeddwn i erioed wedi bod yno o'r blaen.

"[Ym mhabell yr Academi] mi wnaethom ni wneud darlleniadau oedd yn Gymraeg i gyd wedyn roedd yna ddarlleniadau gan rhyw saith, wyth, o feirdd - a rhai ohonyn nhw yn feirdd oedd wedi ennill Gwobr Nobel a phethau felly - yn un o'r pebyll mawr yma ar y nos Sul ac wrth gwrs mi glywodd rheini Gymraeg hefyd. . .

"Mae'n dibynnu ar bobl i fynd yno a gwneud pethau yn Gymraeg yn ogystal a'u dehongli i bobl eraill. "Os ydych chi'n troi cefn ar bethau dydych chi ddim am fod yno wedyn, nac ydych - mae gofyn ichi ymwthio.

"A dydi pobl ddim am eich cau chi allan beth bynnag. Maen nhw eisiau ichi fod yno ac mae'n bosib gwneud llwyddiant o'r peth," meddai.

Ar fatiau cwrw
Yn ystod y flwyddyn gwlwyd cyhoeddi cerddi ganddo ar fatiau cwrw:

"Roedd hwn yn un o'r pethau wnaethom ni s么n amdano ar y dechrau un; sef cael cerddi yng ngolwg pobl mewn rhyw fannau cyhoeddus ac yn y blaen ac roeddwn i wedi awgrymu nifer o bethau - ac eisiau pethau gan feirdd cyfoes.

"Ond pethau byr oedd eisiau oedd yn ffitio ar fatiau cwrw ac yn y blaen ac mi wnes i ddewis rhai hen benillion a'u cyfieithu nhw hefyd ac mae yna un neu ddau o bytiau bach gen i," meddai.

Yn America
Ymweliad a wnaeth argraff arno yn ystod y flwyddyn oedd un 芒 Monument Valley.

Bu'n s么n am ei ymateb o weld Indiaid Cochion - "Mae'n well ganddyn nhw gael eu galw yn hynny nag yn frodorion gwreiddiol" - yn cael tynnu eu lluniau.

Cadw'r lleisiau
Dywedodd mai un o'r pethau yr oedd yn arbennig o falch ohonynt oedd cynllun i ddiogelu lleisiau beirdd.

"Fel un o'r giamocs ar y dechrau cyntaf mi wnes i s么n ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn recordio lleisiau beirdd achos fel yr ydw i wedi dweud hyd at syrffed yr oeddwn i wedi methu a chael gafael ar lais R Williams Parry.

"A dyma Dafydd John Pritchard o'r Llyfrgell Genedlaethol yn dweud y byddai o yn hoffi cydweithredu ar hyn ac mae yna feirdd wedi cael eu recordio yn barod ac mi fydd yna fwy yn digwydd.

"Mae hyn yn bwysig oherwydd mae yna wahaniaeth yn y ffordd y mae beirdd yn darllen eu gwaith a'r ffordd y mae pobl eraill yn ei ddarllen a dwi'n meddwl eich bod yn dod yn nes at y ffordd iawn pan yw bardd yn darllen ei waith ei hun - hyd yn oed os ydi o'n darllen yn weddol giami!" meddai.

Ei hunangofiant
Dywedodd unwaith eto na fydd yn ychwanegu at ei hunangofiant - gan fod y cyfnod wedi Bywyd Bach yn fwy cymhleth ac aneglur yn ei feddwl .

"Ac mae'n bosib sathru mwy o gyrn - nid bod gen i ots am hynny."



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 鲍鱼tv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy