| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwenynen Bigog gan Meleri Wyn James Adolygiad Ian Edwards o Gwenynen Bigog gan Meleri Wyn James. Gomer. £6.99.
Ydi gwyddoniaeth yn gwneud gormod dros gleifion sy'n ddifrifol wael ac yn gwybod eu bod nhw'n marw?
Dyma gwestiwn canolog nofel Meleri Wyn James, Gwenynen Bigog.
Dywedodd mai'r profiad o weld ei thad yn dioddef a marw o ganser y llynedd a'i sbardunodd i'w sgrifennu.
Ni all y prif gymeriad, Rhiannon, sy'n dioddef sglerosis ymledol - MS (multiple sclerosis)- weld na symud ond mae hi'n dal i allu clywed popeth gan gynnwys holl gyfrinachau'r teulu.
Un o'r cyfrinachau hynny sy'n arwain at ei llofruddiaeth ar ddiwrnod priodas ei merch, Sera.
Stori ddirgelwch yw Gwenynen Bigog a gyhoeddir gan Wasg Gomer gyda'r awdur yn defnyddio ôl-fflachiadau i ddatguddio'n raddol gyfrinachau'r cymeriadau.
Mae'n codi cwestiynau pigog, a yw'r proffesiwn meddygol yn gyffredinol yn gwneud gormod i gadw pobol sy'n wael ofnadwy yn fyw.
"Er hynny nid nofel drist a diobaith yw hon gan fod yna ddigon o hiwmor a chyffro ynddi hefyd," meddai'r cyhoeddwyr.
Hi oedd Nofel Mis Awst Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyma sylwadau Ian Edwards amdani: Ar rai adegau rhaid cyfaddef fod darllen Gwenynen Bigog, nofel ddiweddaraf Meleri Wyn James, yn brofiad hynod voyeuraidd.
Mae'r awdur ifanc o Aberystwyth wedi llwyddo i ddod a'i darllenwyr i mewn i fywyd teulu sy'n cael ei rwygo'n ddarnau gan salwch MS (Sglerosis Ymledol) mewn ffordd mor effeithiol mae'n anodd peidio â theimlo eich bod yn ymyrryd a'u preifatrwydd.
Efallai bod y radd yma o realaeth yn ganlyniad uniongyrchol i brofiad yr awdur yn gweld ei thad yn marw o ganser y llynedd.
Ond mae yna lawer iawn mwy na hynny i'r nofel ddirgelwch anarferol hon gyda chyfres o gyfrinachau o orffennol amheus yn arwain at lofruddiaeth ar ddiwrnod priodas.
Wrth ddarllen y nofel cefais y teimlad fod y salwch sy'n cadw'r prif gymeriad, Rhiannon, yn gaeth i'w gwely yn fwythair am y teimlad o fod yn gaeth i deulu.
Daw hyn drosodd orau yn yr olygfa lle mae Rhiannon yn cael ei chau allan o'r teulu wedi genedigaeth ei merch.
Ond er bod y nofel hon yn un bwerus iawn ac yn codi cwestiynau am natur cariad teuluol ac ynglyn â'r proffesiwn meddygol a dulliau o ofalu am gleifion nad oes gwella iddyn nhw y mae rhywbeth yn eisiau.
Y brif broblem yw'r defnydd o ôl-fflachiadau ar gyfer dweud y stori.
Er bod hyn ar y naill law yn ffordd anarferol o ddweud y stori gall hefyd roi'r argraff o fyfyriwr uchelgeisiol yn ceisio dangos ei hun mewn dosbarth sgrifennu creadigol.
Beth yw eich barn chi?
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|