±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gororau'r Iaith
Adolygiad Grahame Davies o Gororau'r Iaith - R.S.Thomas a'r Traddodiad Llenyddol Cymraeg gan Jason Walford Davies. Gwasg Prifysgol Cymru, 2003, £17.50. tt. 350.


Ychwanegiad swmpus at yr astudiaeth o waith R. S. Thomas
Ffigwr ar ororau dau ddiwylliant oedd R.S.Thomas, mae'n sicr, ac addas o'r herwydd yw teitl yr astudiaeth hynod drylwyr hon o'r gyfeiriadaeth Gymraeg yn ei waith.

Clawr y llyfrFel y gwyddys, magwraeth Saesneg a Seisnig a gafodd R.S.Thomas, a dim ond wedi iddo gael ei ddeg ar hugain y'i deffrowyd i ddysgu'r Gymraeg, yr iaith y daeth ef, maes o law, i fod yn lladmerydd tanbaid drosti.

Serch hynny, erbyn iddo ei dysgu, roedd yn rhy hwyr iddo ddiwreiddio'r Saesneg fel iaith ei farddoniaeth, a thrwy gydol ei yrfa hir fel bardd, fe deimlir y rhwystredigaeth hon rhwng ei ymlyniad at y Gymraeg a'i anallu i'w defnyddio yn ei gerddi.

Dwy duedd
Ceir tuedd gan feirniaid, rhai Saesneg yn bennaf, i ddibrisio Cymreictod y bardd aruthrol fawr hwn, gan weld ei genedligrwydd a'r wleidyddiaeth gysylltiedig fel dim mwy na rhyw hynodrwydd lleol dibwys.
Mae'n amlwg i'r Cymry mai camgymeriad yw hynny.

Ar ran beirniaid Cymraeg, wedyn, ceir tuedd yn aml iawn i ganolbwyntio ar y Cymreictod hwnnw, gan ei weld fel rhywbeth cwbl ganolog i waith y bardd. Pa un a yw hwnna'n gambwyslais sy'n fwy dadleuol, ac mae'r gyfrol hon yn gyfraniad swmpus i'r drafodaeth ar y pwnc.

Cymreictod yn eilbeth?
Yn fy astudiaeth innau, Sefyll yn y Bwlch, a ymddangosodd yn 1999 fel rhan o'r un gyfres â'r gyfrol hon, sef cyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig dan olygyddiaeth John Rowlands, ceisiais ganfod y tir canol rhwng y ddau begwn yma, gan gydnabod pwysigrwydd y Cymreictod ond gan ddadlau mai eilbeth ydoedd i brif flaenoriaeth Thomas, sef amddiffyn bywyd yr ysbryd yn erbyn modernrwydd dienaid.

Dadleuais mai prif swyddogaeth y Gymraeg i Thomas oedd i fod yn "storfa o ddelweddau achlysurol cyfleus" i'w defnyddio yn y frwydr gyda modernrwydd.

Y Gymraeg yn greiddiol?
Nid da gan Jason Walford Davies y dehongliad hwnnw, a ddisgrifir yn ei gyfrol yntau fel un "cwbl gyfeiliornus." Dadleua ef fod y Gymraeg yn greiddiol i weledigaeth ac ysbrydoliaeth y bardd ac fe â ati i ddwyn toreth o dystiolaeth gerbron i ddangos mor eang ac mor hydreiddiol oedd y gyfeiriadaeth Gymraeg yn ei waith.

O ddarllen y dystiolaeth hon, does dim dwywaith gen i y bues i'n anghywir yn fy llyfr innau - wrth gyfeirio at fersiwn Saesneg gynnar o waith Davies - i ddibrisio maint y gyfeiriadaeth honno.

Mae Davies wedi dangos ei fod yn helaethach ac yn ddyfnach nag y gallaswn fod wedi ddychmygu.

Dof yn ôl yn y man at y cwestiwn o safle Cymreictod yn hierarchaeth gwerthoedd Thomas, ond mae'n dda gen i gydnabod imi gael fy ngoleuo'n sylweddol iawn ar bwnc helaethrwydd y gyfeiriadaeth.

Dangos am y tro cyntaf
Wrth ddwyn i olau dydd y cyfoeth yma o gyfeiriadaeth, fe ddengys yr awdur am y tro cyntaf lawer o ddeunydd hynod ddadlennol am R.S.Thomas a'i waith, megis llythyr ganddo at Saunders Lewis o 1979:
R S Thomas"Yr ydych wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ers pryd y deuthum i wybod amdanoch..."
Dyma ychwanegiad gwych i ysgolheigion eraill yn gweithio yn y maes.

Rhennir y gyfrol fanwl hon rhwng pum prif bennod, gan ddelio'n drylwyr gyda materion megis dewis Thomas o ddyfyniadau, o fwyseiriau ac o gyfieithiadau. Dangosir fel y bu'r Gymraeg yn ffrwd gyson o ysbrydoliaeth i Thomas gydol ei yrfa farddonol aeddfed.

Rhyfeddu at fanylder
Canmoliaethus yw cywair y gyfrol ar y cyfan, gyda chymeradwyaeth ymhlyg yn y cofnodi diflino ar y gyfeiriadaeth Gymraeg.

Serch hynny, nid yw'n gwbl anfeirniadol, a gall fod yn ddigon crafog am waith ei wrthrych. Er enghraifft, disgrifir y gerdd Border Blues fel: "enghraifft bur oportiwnistaidd a hwyrfrydig o dafleisio barddonol yn y dull Modernaidd. "
I'r dim.

Wedyn, disgrifir syniad Thomas mai unig swyddogaeth barddoni yn Gymraeg yw i gynnal fflam Cymreictod fel "[g]olwg frawychus o gyfyngedig." Ac nid yw'r awdur ychwaith yn ymatal rhag nodi'r adegau - nid anaml - pan fu i Thomas gamddyfynnu o'r Gymraeg.
Mae'n gydwybodol iawn yn gosod sic wrth gwt nifer o ddyfyniadau.

Ni allaf ond rhyfeddu at fanylder yr ymchwil, a'r ffaith bod yr awdur wedi llwyddo i ganfod ffynonellau hollol ddilys i gyfeiriadaeth Thomas yn y testunau mwyaf anhygyrch, o'r Hengerdd, drwodd i benillion gwerin hyd at erthyglau mewn cyfnodolion diflanedig.
Anodd gen i gredu bod llawer o gyfeiriadau wedi dianc rhag ei lygad craff.

Cerddi newydd
Dantaith ychwanegol yn y gwaith yw'r cerddi anghasgledig niferus a ddefnyddir i ddarlunio'r ddadl. Mae rhai ohonynt yn drawiadol iawn, megis hon, The Need o 1968, gyda geiriau sy'n ddigon i sobri unrhywun a weithia ym myd y diwylliant Cymraeg:Oh I know them: reputable men,
Makers of verse, scholars, lecturers,
But without power, ineffectual.
None of them will ever set a bomb
Alight or bring disaster
On England. I see them going
About their business, borrowing a glory
From the setting of the Welsh sun.

Da yw'r geiriad gofalus yna, Makers of verse, sy'n gynnil iawn yn gwadu i'r llenorion hyn y teitl poets.

Oes gwendidau?
Astudiaeth fanwl, drylwyr a helaeth iawn, felly. Oes gwendidau?

Oes. Nid digon o bell ffordd i wrthbwyso cyfraniad hynod y llyfr hwn i'n hadnabyddiaeth o Thomas. Ond cystal eu nodi, a chystal cydnabod y gwneir hyn gan un sy'n anghytuno o hyd â'r ddadl bod Cymreictod mor uchel ar restr blaenoriaethau Thomas ag a honnir yn y llyfr hwn ac un, o'r herwydd, na fydd yn gyndyn i gofnodi mannau gwan. Os mai ychydig o wendidau a nodir, felly, bid sicr mai ychydig o wendidau sydd.

Fel mewn llawer o achosion, deillia'r gwendidau o'r cryfderau. Eir yn rhy bell gyda'r gyfeiriadaeth mewn rhai achosion yn fy marn i, er enghraifft gyda geiriau digon cyffredin yn cael eu hawlio fel dolenni cyswllt gyda rhyw ffynhonnell Gymraeg.

Hefyd, tueddir i fod yn rhy hael wrth dybio mai ffynhonnell Gymreig sydd i ryw ran neu'i gilydd yng ngwaith Thomas. Teimlais weithiau fod yr awdur yn priodoli i Thomas ei rinweddau ef ei hun, sef ei wybodaeth hynod fanwl o lenyddiaeth Gymraeg, gan hawlio adleisiau rhwng cerddi Thomas a barddoniaeth Gymraeg nad oes sicrwydd y buasai R.S.Thomas ei hun yn ymwybodol ohonynt.

Mewn man arall, dyheais am weld agor y ffenestr ar ystafell gaeedig y byd Cymraeg, pan sonnir am drafodaeth Bobi Jones ar Mewn Dau Gae Waldo Williams, gan ddyfynnu:

"Ni ellir llai na chasglu mai'r un weledigaeth (onid cerdd Waldo ei hun) a ysgogodd R.S.Thomas i ddweud mewn cyfweliad gyda John Ormond yn 1972: 'The half-glimpsed turrets, the glimpses of this eternal ultimate reality which one gets in Wales when the sun suddenly strikes through a gap in the clouds and falls on some small field and the trees around. There is a kind of timeless quality about this, one feels'."

Wel efallai. Ond yr hyn sydd gennym i gysylltu'r dyfyniad hwnnw â Mewn Dau Gae yw'r sôn am gae, a goleuni a'r diamser. A yw hwnna'n ddigon i wneud y cysylltiad? Yn enwedig pan mai cryfach o lawer yn y dyfyniad hwnnw ywr cyfeiriadau amlwg at gerdd Francis Thomson, The Hound of Heaven:
I dimly guess what Time in mists confounds,
Yet ever and anon, a trumpet sounds
From the hid battlements of Eternity.
Those shaken mists a space unsettle, then
Round the half-glimpsèd turrets, slowly wash again.

Byddwn wedi croesawu cydnabod cryfder y gyfeiriadaeth Saesneg yn y dyfyniad hwnnw y byddai Davies wrth gwrs wedi bod yn ymwybodol ohono - o gymharu â'r gyfeiriadaeth Gymraeg.

Amlygu'r annhebygol
Ofnaf weithiau i'r anhygyrch, onid yr annhebygol, gael eu hamlygu yn hytrach na'r amlwg. Yn y drafodaeth ar ddarlith Thomas, Abercuawg, teimlais i'r gwrth-fodernrwydd amlwg yn y testun gael ei ddibrisio wrth osod y Cymreictod yn y canol, ond mater o ddehongliad ydy hynny.

Fel y dywedais, mân wendidau yn codi o gryfderau'r gwaith yw'r rheiny. Er na siglodd fy nghred nad yr uchaf o flaenoriaethau Thomas fel bardd mo Cymreictod, mae'r gwaith hwn gan Jason Walford Davies yn gampwaith o fanylder a chraffter, ac yn ychwanegiad swmpus iawn i'r gweithiau beirniadol ar Thomas a'i waith.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý