±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gŵyl y Gelli
Rhian Price yng Ngŵyl y Gelli 2007
Ew, mae'r ŵyl 'ma wedi tyfu ers i mi fod yma ddwytha!

Mae'n deg nodi mai ar hen safle'r digwyddiad o amgylch yr ysgol gynradd roedd hynny, ryw bum mlynedd yn ôl, ac fe symudodd yr ŵyl i gyrion y dre' wedi hynny.

O'r herwydd, mae 'na fwy o ddigwyddiadau, a mwy o gyfleoedd i drafod llyfra a gwrando ar lenorion a ffigyrau cyhoeddus, a da o beth yw hynny.

Mae rhai'n barnu'r ŵyl am fod yn rhy Seisnig. Yn sicr, mae literati Llundain yn amlwg iawn ac yn hawdd i'w nabod, yn enwedig y dynion yn eu siwtiau hufen a'u hetiau Panama.

"It's just like Henley-on-Thames, dahling," meddai un ddynes oedd yn amlwg ddim yn hanu o ardal Y Gelli.

Ond mi roedd 'na thipyn o Gymraeg i'w gweld ar y safle, a digon o Gymry Cymraeg yn mwynhau'r arlwy. Roedd criw go lew wedi teithio o'r gogledd - gan gynnwys tua dwsin o aelodau Clwb Darllen Caernarfon.

"Dwi ar fy ffordd i weld yr Hairy Bikers!" meddai un. "A'r pnawn 'ma 'da ni'n mynd i'r dre i siopa."

Chwerthin blewog
Es innau i weld y motobeicwyr blewog hefyd, a chael llond bol o chwerthin yng nghwmni Simon King a Dave Myers, y ddau walltog a barfog o ogledd ddwyrain Lloegr sy'n gwirioni ar goginio.

Hairy Bikers Mae'r ddau'n dal i'w chael hi'n anodd credu fod y ±«Óãtv wedi cytuno i roi miliwn o bunnau iddyn nhw deithio'r byd - ar eu motobeics - a chreu rhaglen deledu am ddulliau paratoi bwyd mewn gwahanol wledydd.

Tasan nhw'n edrych yn gas i'ch cyfeiriad, bysan nhw'n codi ofn mawr arnoch, ond mae'r ddau mor siriol ac agos-atoch-chi, does dim peryg o hynny.

"Roedd 'na amheuaeth 'mod i'n cael hartan pan oeddan ni yn India," meddai Simon.

"O, do! Roedd hynny mor ddoniol!" atebodd Dave, heb arlliw o gydymdeimlad.

"Dwi'n cofio dim, blaw am gael panig wrth fynd heibio llun o'r Fam Teresa yn yr ysbyty...."

Heriwr twyllwyr
Go brin y byddai'r Hairy Bikers yn codi ofn ar Roger Cook, y newyddiadurwr a fentrodd ei fywyd sawl tro wrth herio twyllwyr ar eu tomen eu hunain ac ymchwilio'n gudd i weithredoedd terfysgwyr, pedoffiliaid, yr IRA a'r Maffia yn Rwsia.

Roger Cook "Rydach chi'n foi nobl - a fyddai eich gyrfa wedi dilyn yr un trywydd tasa chi wedi bod yn llai o gorffolaeth?" oedd cwestiwn cyntaf cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli, Peter Florence, iddo.
Chwarddodd y dyn sy'n enwog am roi ei droed yn y drws.

"Ydach chi erioed wedi teimlo ofn?" gofynnodd Florence wedyn.
"Os ydach chi'n gadael i chi'ch hun deimlo ofn, wnewch chi ddim byd," atebodd. Y llall.

"Rydw i wedi teimlo ofn wedi'r digwyddiad yn aml a gofyn i fi fy hun, be goblyn ydw i wedi neud rŵan?"

O edrych yn ôl ar ei yrfa, yr hyn sy'n ei foddhau fwyaf yw achosion arweiniodd at newid deddf gwlad, yn enwedig rhai'n ymwneud â masnach pornograffi plant.

"Mae'n braf gweld newid yn y ddeddf, yn enwedig ar ôl cael beirniadaeth am fod yn sensational, "meddai.

"Wedi'r rhaglenni cyntaf un, mynnodd y papurau newydd nad oedd pornograffi plant yn broblem."

Criced Major
Un arall sydd wedi ymdrin â phroblemau mawr cymdeithasol yw'r cyn Brif Weinidog Ceidwadol, John Major.

Ond rhywbeth llawer agosach at ei galon oedd testun ei sgwrs yn Y Gelli - criced.

John Major Cyhoeddodd lyfr am wreiddiau'r gamp ac fe fyddai wedi hoffi chwarae'r gêm yn broffesiynol.

"Dau beth a'm rhwystrodd. Yn gyntaf, cefais anaf mewn damwain car. Yn ail, doeddwn i ddim digon da!"

"Os nad oedd yn bosib i mi chwarae criced, waeth i mi fentro i wleidyddiaeth ..."

Does gen i ddim diddordeb mewn criced ond ro'n i am glywed ei ymatebion i gwestiynau mwy gwleidyddol o'r llawr.

Dywedodd sylfaenydd y Loteri Genedlaethol ym Mhrydain ei fod yn siomedig gyda'r bwriad i neilltuo cymaint o arian loteri at gynnal Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, a hynny ar draul prosiectau celfyddydol, treftadaeth a chwaraeon ymhob rhan o'r wlad.

Roedd 'na ganmoliaeth hefyd i Brif Weinidog Awstralia, John Howard, am ddangos arweiniad pendant yn atal tîm criced y wlad honno rhag chwarae yn Zimbabwe.

"Fe ddylen ninnau fod wedi gwneud yr un peth ddwy flynedd yn ôl," meddai.

Pla o blismyn
Ni ofynnodd neb am air o gyngor ganddo i'r darpar Brif Weinidog, Gordon Brown, oedd yn teithio i'r Gelli tua'r un adeg ag yr oedd Mr Major yn gadael.

Roedd y cŵn synhwyro'n cylchu un o'r pebyll yn arwydd pendant fod Rhywun Pwysig ar ei ffordd, ac o fewn dim roedd y lle'n bla o blismyn a swyddogion diogelwch na fyddai hyd yn oed Roger Cook yn dadlau â nhw.

Cafodd Mr Brown ei smyglo rywsut i'r babell ar gyfer rhaglen deledu Sky ond roedd yn rhaid iddo ddod allan rywsut ac roedden ni'r newyddiadurwyr yn aros amdano.

Gordon Brown Bid siŵr, fe ddaeth i'r amlwg ond doedd o ddim am dorri gair efo ni ond i gadarnhau ei fod o'n falch o ddod i'r Gelli.
Doedd dim modd ei gyfweld.

"Mae'n rhaid iddo adael yn syth. Mae ganddo gyfarfod hustings yn Sheffield fory," meddai un o'i swyddogion.

Camodd yr entourage yn benderfynol tua'r stafell werdd ac mi ffeindiais fy hun yng nghanol sgrym gyfryngol gyntaf fy ngyrfa! Rhyfeddais ar allu'r ffotograffwyr a'r dynion camera i redeg tuag at yn ôl i drio cael y lluniau gorau bosib.

Cyffro ar y maes
Erbyn hyn, roedd 'na gyffro ar y maes wedi i bobol ddeall fod olynydd Tony Blair wedi cyrraedd.

Un oedd yn aros yn eiddgar i'w weld oedd y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Edwina Currie.

Cytunodd imi dynnu ei llun ac fe fynegodd farn am y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru.

"Fydd hi'n anodd ar lywodraeth leiafrifol Rhodri," meddai - roedd hynny, wrth reswm, cyn tro pedol diweddara'r Democratiaid Rhyddfrydol!

Edwina Currie Roedd y cyn weinidog a gafodd wy ar ei hwyneb wedi'r sgandal salmonela yn hynod glên. Serch hynny, wnes i ddim meiddio gofyn a welodd hi John Major ynghynt ...

Yn annisgwyl iawn, gwta bum munud cyn cychwyn prif sesiwn y Canghellor, cefais docyn a sedd flaen, bron a bod.

Roedd Mr Brown yn Y Gelli i hyrwyddo'i lyfr Courage, sy'n cynnwys portreadau o unigolion y mae'n eu hedmygu - pobol fel Nelson Mandela, arweinydd yr ymgyrch dros ddemocratiaeth yn Burma, Aung San Suu Kiy, ac Edith Cavell, y nyrs a gafodd ei dienyddio gan y Natsïaid am helpu milwyr y gynghrair ffoi o wlad Belg.

Cafodd gymeradwyaeth hael ac mewn cyfnod o awr cyfeiriodd at y rhyfel yn Irac, dileu tlodi plant, a'r angen i'r Llywodraeth ymgynghori mwy a'r cyhoedd.

Ond roedd llawer o'r gynulleidfa yna i gael golwg agosach ar y dyn sydd ar fin rheoli Prydain, dyn sy'n ymddangos yn ddifrifol a digarisma.

Yn sicr, fe chwarddodd y gynulleidfa sawl tro, ac fe gafwyd sawl cip difyr ar ei lencyndod.

Ond a gynhesodd y gynulleidfa ato, o'i weld yn y cnawd?

"Roedd hi'n braf ei glywed yn siarad am awr gyfan, yn hytrach na chael soundbites fel ar y teledu," meddai un.
"Ond mae o'n mynd i gymryd mwy nag un perfformiad i mi benderfynu'n derfynol."



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý