±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pan ddaw'r dydd?
Adolygiad gan Catrin Jones o Pan ddaw'r dydd? gan Elfyn Pritchard.Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2003. Gwasg Gomer, £7.99.


Dyma'r nofel a gyrhaeddodd y brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod eleni. Yn eu beirniadaeth dywed Sioned Davies, Marion Eames a Gwerfyl Pierce Jones eu bod yn hollol gytn fod y nofel hon ar y blaen a'i bod yn hollol deilwng o'r wobr.

Athro Saesneg
Hanes Eirwyn, athro Saesneg mewn ysgol uwchradd, sydd yma. Cawn hanes ei berthynas â'i wraig Cissie sydd yn wraig anodd, yn mynnu ei ffordd ei hun, yn geidwadol ac yn trin ei gwr fel gwas bach. Uchafbwynt ei hwythnos yw'r sesiynau gyda'i ffrindiau yn hel straeon dros goffi mewn caffi yn y dref, gan drafod pawb a phopeth.

Mae Eirwyn wedyn yn gymeriad gwan sydd yn rhoi rhwydd hynt i'w wraig i reoli ei fywyd. Does dim rhyfedd felly mai undonog yw ei fywyd yntau. Wrth deithio adref o'r ysgol yn ei gar un noson lawog mae'n teimlo fod symudiad cyson y llafnau yn ddarlun perffaith o'i fywyd oDim cynyrfiadau mawr, dim byd i dorri ar esmwythyd arferol bywyd, ar rythmau cyson byw a bod.

Troi'n berson gwahanol
Ond yn annisgwyl mae'n cyfarfod Gwen Carter.
Daw Gwen i'r ysgol i gynghori Eirwyn a phennaeth yr adran Saesneg cyn eu harolwg hollbwysig. Wedi ei hymweliad mae byd Eirwyn yn newid yn llwyr.

Mae'n troi yn berson gwahanol hefyd, daw yn fwy hyderus yn ei waith a gartref. Gwelwn ei berthynas â Gwen yn datblygu i'r fath raddau fel na all ddychmygu byw hebddi.

A dyna a geir yn y nofel, darlun o'r berthynas rhwng y ddau, y berthynas rhwng Eirwyn a Cissie ac yna'r twyll. Ond er bod y stori ynddi ei hun yn syml mae'r nofel yn llwyddo i afael yn y darllenydd gan fod yr ysgrifennu mor gyfoethog.

Yn ei ddawn i ddisgrifio y mae Elfyn Pritchard yn llwyddo yn bennaf, ei ddawn i lunio cymeriadau, creu awyrgylch a dadlennu pob agwedd o'r berthynas rhwng Eirwyn a'r ddwy wraig yn ei fywyd.

Yn sicr, mae'r awdur wedi llwyddo i fynd o dan groen y prif gymeriad ac roeddwn i'n cydymdeimlo'n llwyr ag Eirwyn wrth iddo ddioddef gwawd Cissie, byw fel carcharor ac yna orfod brwydro yn erbyn ei gydwybod oherwydd ei berthynas odinebus.

Annheg â'i gwr
Ond er cymaint fy nghydymdeimlad ag Eirwyn roeddwn i'n dechrau cydymdeimlo â Cissie hefyd erbyn y diwedd wrth iddi sylweddoli iddi fod yn annheg iawn â'i gwr dros y blynyddoedd.

Er ei hymdrech i wneud iawn am hynny cawn yr argraff ei bod yn rhy hwyr ac mae'r ddau fel dau ddieithryn i'w gilydd.

Dyfyniadau Saesneg
Diddorol yw'r defnydd o ddyfyniadau Saesneg sy'n gwau drwy'r nofel. Er ei bod efallai yn chwithig ar y dechrau i weld dyfyniadau o weithiau llenyddol Saesneg yn britho'r nofel roedd y rhain yn fy marn i yn ychwanegu ato.

Gan mai athrawon Saesneg yw Eirwyn a Gwen mae eu hoffter o lenyddiaeth Saesneg yn elfen bwysig o'u cymeriadau ac yn un peth sy'n eu clymu.

Ni fyddai cyfieithu'r dyfyniadau wedi gweithio cystal gan na fyddai wedi gwneud synnwyr yn y cyd-destun.

Byddai hefyd wedi tarfu ar y naws gan fod y dyfyniadau yn cael eu defnyddio gan y ddau i fynegi eu cariad tuag at ei gilydd.

Wrth i'r nofel fynd yn ei blaen daw Eirwyn a Gwen yn fwy dibynnol ar ei gilydd ac mae'r twyllo yn dwysáu. Ond erbyn y diwedd mae'n amlwg nad Eirwyn yw'r unig un sydd yn twyllo a gwelwn fod ochr arall i gymeriadau Gwen a Cissie hefyd.

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý