±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Clywed Cynghanedd
Clywed Cynghanedd cwrs cerdd dafod gan Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.



Peth naturiol ydi'r gynghanedd, nid rhyw dric neu gêm a gafodd ei dyfeisio.

Mae cynghanedd i'w chlywed yn rhai o ddywediadau cyffredin ein sgwrs bob dydd fel cinio cynnar, gwerthu gwartheg neu un gwirion yn ei gwrw.

Clawr y llyfrYn hynny o beth mae pawb yn gynganeddwr a gall hynny fod yn galondid i bob un sy'n mynd i'r afael a gwerslyfr cynganeddu poblogaidd Myrddin ap Dafydd.

Mae'r llyfr wedi ei seilio ar gwrs cynganeddu a gynhaliwyd ganddo ar y radio rai blynyddoedd yn ôl. Mae'n amlwg iddo fod yn gwrs poblogaidd gan mai argraffiad newydd yw hwn o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf ym 1994.

Cynnwys y gyfrol 13 o wersi a phennod estynedig ar reolau cerdd dafod wedi ei hychwanegu ar gyfer yr argraffiad hwn.

Un o ryfeddodau'r iaith
Mae cyflwyniad sy'n ymdrin a a natur y gynghanedd ac yno yr eglura Myrddin ap Dafydd mai un o ryfeddodau naturiol yr iaith ydi'r gynghanedd yn hytrach na rhywbeth clyfar a ddyfeiswyd gan ddyn.

"Yn yr ysgol, mewn ymryson neu dalwrn y beirdd neu wrth drafod cerdd y gadair, mae tuedd inni weithiau sôn am y gynghanedd a'r mesurau caeth a'r rheolau . . . fel petai'r cyfan yn rhyw gyfrwng sydd wedi'i ddyfeisio. Rhyw fath o gêm gyda geiriau. Ond dydi hynny ddim yn wir nid cael ei chreu a wnaeth y gynghanedd ond cael ei chanfod. Mae'n rhan gynhenid o'r iaith Gymraeg, yn perthyn i batrymau plethiad ein geiriau."

Dyna pam y mae cynganeddion fel hwre rwan, wsti be yn ddistaw bach, diwrnod dyrnu neu hanner o lager a leim yn cynganeddu heb ymdrech o gwbwl ar ran siaradwr.

Creu rheolau
Felly nid proses o greu rheolau er mwyn sefydlu system ac i wneud i rwybeth ddigwydd fu hi ond mater o lunio rheolau i reoleiddio rhywbeth a ddigwyddai beth bynnag.

"Yr hyn ddigwyddodd oedd bod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i'r afael â hi oherwydd ei harddwch a'i hud.

"Aethan ati i wisgo pob math o ddillad drud a thlysau crand am y prydferthwch naturiol hwn oedd yn yr iaith," meddai.

"Drwy hyn i gyd, ffurfiwyd system gaeth o gynganeddu geiriau a phedwar mesur ar hugain. Mae'n unigryw drwy'r byd i gyd. A'r rhyfeddod pennaf yw bod modd canu'n llyfn a syml ar gerdd dafod," ychwanega.

Mae'n pwysleisio hefyd mai barddoniaeth i'r glust yw barddoniaeth gynganeddol.

"Os nad yw cynghanedd yn gweithio i'r glust dydi hi ddim yn gweithio o gwbwl," meddai.

Prydydd a bardd
Mae'n gwahaniaethu hefyd rhwng y gallu i gynganeddu a'r gallu i farddoni.

Prydydd, meddai, yw'r sawl sydd wedi dysgu'r grefft o greu cynganeddion ond dydi prydydd ddim o anghenraid yn fardd.

"Mae bardd ar y llaw arall . . . wedi meistroli ei grefft i'r fath raddau fel nad ydym yn sylwi arni. Mae'n ein codi i'w entrychion ei hun.

"Mae modd dysgu unrhyw un i fod yn brydydd ond mae bardd yn cael ei awen o rywle arall," eglura.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý