鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yn Gymysg oll i Gyd
Adolygiad o Yn Gymysg oll i Gyd. Cyfres y Cymoedd - golygydd, Hywel Teifi Edwards. Gomer. 拢14.95.


Dyma ddiwedd y cymoedd.
O leiaf, dyma'r gyfrol olaf mewn cyfres ragorol a olygwyd gan Hywel Teifi Edwards yn bwrw golwg dros gymoedd de Cymru -y Valleys.

Gan yr epil diweddar
Cyhoeddwyd naw cyfrol cyn hon - ond does yna ddim lle yn hon, y ddegfed, i restru yr hyn a aeth heibio. Trueni am hynny.
Clawr y gyfrolI gau pen y mwdwl penderfynodd Hywel Teifi Edwards ofyn i rai o "epil diweddar" - hynny yw, pobl ifainc - y cymoedd ddarlunio eu cymoedd. Cyfrannodd 12 ac y mae yna ragymadrodd 'cyffredinol' gan M Wynn Thomas o Brifysgol Abertawe.

Y cyfranwyr eraill, a'u cymoedd, ydi: Mari Stevens Abertawe a Chwm Tawe; Owen Martell Glyn Nedd; Daniel Evans Y Rhondda; Tudur Hallam Dyffryn Aman; Dyfan Jones Cwm Cynon; Ceri Anwen James Cwm Llynfi; Mari George Bro Ogwr; Jeni Smallwood Cwm Rhymni; Gethin Rhys Cwm Gwendraeth; Iwan England Aber-fan a Chwm Taf; Eiry Miles ardal Pontypridd a Hannah Thomas sydd yn s么n am fagwraeth Cymraes nid yn y cymoedd ond yn y Brifddinas.

Mae rhai o'r awduron yn adnabyddus inni eraill ddim ac oherwydd hynny byddai nodyn bywgraffyddol am bob un ohonyn nhw wedi bod yn fuddiol.

I mi, nid cyfrol i'w darllen o'i dalen gyntaf i'w deucanfed olaf mo hon ond un i bigo drwyddi yn ysbeidiol.

Y felltith i adolygydd yw fod yn rhaid iddo ddarllen y cyfan mewn byr amser ac yn hynny o beth peryg bod Yn Gymysg oll i Gyd yn ormod o gowlaid.

Gwahanol bethau i wahanol bobl
Yn amlwg mae'r 'cymoedd' yn wahanol bethau i wahanol bobl a go brin y bydd yr un darllenydd yn agor y gyfrol heb gyn-syniadau ac hyd yn oed ragfarnau.

Mae'n destun rhywfaint o ddifyrrwch, felly, gweld ambell i ddelw yn cael ei dryllio a rhai rhagfarnau'n cael eu chwalu.

Mae rhai profiadau fel pe byddent yn uno'r cyfranwyr i gyd. Pob un, er enghraifft, yn s么n am eu profiadau ieithyddol a daw yn amlwg yn fuan iawn fod cael eich magu a'ch addysgu i siarad Cymraeg yn ddylanwad ac yn brofiad o gryn bwys yn yr ardaloedd hyn. Yn brofiad na fyddai'r rhai hynny sydd wedi eu magu mewn cymdeithas fwy lluosog ei Chymraeg yn gwybod amdano.

Mae gan Ddaniel Evans, yr actor, sylwadau dirdynnol am ei brofiadau ef yn Y Rhondda:
"Ar y cyfan, roedd bywyd yn dra sgitsoffrenig y pryd hwnnw a hynny am un prif reswm: iaith," meddai.

Mae sgitsoffrenig yn ei ystyr poblogaidd yn air cymwys ar gyfer yr amgylchiadau.

"Yn y Gymraeg y siaradem ni blant wastod 芒'n tad, yn Saesneg 芒 Mam . . . Ond yr hyn sy'n syndod imi nawr yw'r ffaith mai yn y Saesneg y siaradai Luc a mi 芒'n gilydd yn ystod dyddiau'n haddysg gynradd (Gymraeg)," meddai.

Tynnu teis
Mae'n disgrifio hefyd "griw Cwm-parc" yn tynnu eu "teis ysgol yn ochelgar fel na chaem ein hadnabod gan ddisgyblion lleol yn 'Welshies' a chael cawod o gerrig am ein pennau.

Daniel Evans "Anodd oedd peidio a theimlo'n wahanol rywsut," meddai.

Ac mae eraill yn s么n am blant yn gweiddi Welshies a Welsh cakes arnyn nhw.

Mae Iwan England, yntau, yn s么n am orfod datblygu "croen trwchus yn ifanc iawn wrth ddelio 芒 rhegfeydd real a dychmygus rhai o blant yr ardal."

Disgrifia Daniel Evans dr枚edigaeth bersonol sydd bron a bod yn grefyddol ei grym:
"Un bore, fe godais a phenderfynu na siaradwn air arall o Saesneg 芒'm brawd, nac ychwaith ar fws yr ysgol Hyd yn oed pe bai rhywun yn gofyn cwestiwn imi yn y Saesneg, fe'i hatebwn yn y Gymraeg, doed a ddelo," meddai.

O edrych yn 么l dywed ei fod yn synnu "at fy newrder penstiff" gan ychwanegu ei fod yn gorfod ystyried bellach "a fu'r fath eithafiaeth yn llesol imi neu'n ddilys i'r hyn oeddwn i."

Mae'n apelio'n daer am gyfleoedd i rai fel ef yn y ddwy iaith.
"Onid oedd yn bosib i'r naill (iaith) fwydo'r llall?" hola.

"Ond doedd y fath gynwysoldeb gwleidyddol ac ieithyddol ddim yn rhan o athroniaeth yr ysgol y cyfnod hwnnw," meddai gyda mwy nag ychydig o ofid.

Mae'n ddarlun o ysgytwol o brosesau cynnal iaith mewn cynefin lle mae dan warchae.

O gartrefi da
Mewn un arall o ysgrifau mwyaf treiddgar y gyfrol mae Owen Martell yn mynd i fwy o fanylder am rywbeth sy'n cael ei awgrymu gan Daniel Jones hefyd cwestiwn dosbarth a chyflwr cymdeithasol.

Fel hyn y mae o'n rhoi ei fys ar bethau: ". . . nid dim ond mater o Gymraeg a Saesneg oedd hi, neu o Gymraeg a di-Gymraeg . . . ac rwy'n cofio bod yn ymwybodol, hyd yn oed yn yr ysgol gynradd, o'r gwahaniaethau mewn cefndir hefyd. Roedd fy ffrindiau a oedd yn siarad Cymraeg gartref yn tueddu i ddod o'r hyn y byddech chi yn eu galw yn 'gartrefi da'," meddai.

A hynny yn lliwio agweddau a barn.

Disgyblion ysgol GymraegAiff 芒'i ddadansoddiad o'r cwm gam ymhellach gyda phwyslais ar gymdeithaseg "y berthynas rhwng dyn a gwaith ac ystyr a diwylliant sy'n newid gyda phob newid amgylchfyd".

"Allai ddim peidio meddwl bod yna bethau i'w deall a'u hamgyffred sy'n fwy sylfaenol na'r ddadl am y Gymraeg" gan gyfeirio yr hyn a eilw yn "malaise cyffredinol" sy'n nodweddu'r lle erbyn hyn.

"Mae hi'n teimlo'n union fel yr ymdeimlad rhyfedd hwnnw o wleidyddiaeth dosbarth yn yr ysgol: bod yna ddigon o bethau yn ogystal 芒'r Gymraeg i boeni amdanyn nhw . . . y mae canolbwyntio'n ormodol ar gyflwr y Gymraeg yng Nglyn-nedd, ar draul pethau eraill, yn teimlo rywsut yn chwithig a hyd yn oed fymryn yn esgeulus," meddai.

Canu clodydd
Ond mae yntau, fel cyfranwyr eraill, yn canu clodydd ymdrechion ieithyddol y cymoedd gan ddyfynnu Alun Wyn Bevan, cyn-brifathro Ysgol Gymraeg Cwm Nedd:
"Ma' cymoedd y de yn esiampl i Gymru gyfan a ddylem ni ddim anghofio am y gwaith ffantastig ma' hyd yn oed yr ysgolion cyfrwng Saesneg yn ei wneud i hybu'r iaith, ac i hybu hunaniaeth. Mae e'n hala colled arna i wrth s么n am y 'cadarnleoedd' dy'n nhw byth yn s么n ac y cynnydd sy yna mewn rhannau eraill o Gymru," meddai ef.

Nid pob un o'r cyfranwyr sydd 芒 chymaint o awydd i ddadansoddi ond yn bodloni ar beintio darlun o'r profiadau diwylliannol hynny y mae rhywun yn eu cysylltu 芒'r 'cantrefi da' bondigrybwyll.

Ac mae'n ddiddorol sylwi mai darlun diwylliannol ei dueddiadau yw eu heiddo hwy gan fwyaf a hynny mae'n siwr yn deillio o ddewis y golygydd o gyfranwyr dewis y gellid ei gyhuddo o ddioddef o fai rhy debyg gan mai cynnyrch y "cartrefi da" a'r "addysg dda" y cyfeiria Owen Martell atyn nhw yw trwch y cyfranwyr hyn ac o haen gymdeithasol ddigon cysurus hyd y gellir gweld.

Dewis nad yw rhywun yn synnu ato mewn cyfrol Gymraeg.

Cyffur brown
Mae'n wendid na chawn well golwg ar bethau fel y problemau cymdeithasol y mae Iwan England yn cyfeirio atyn nhw:

"Wrth drafod problemau economaidd a chymdeithasol yr ardal, y ffigwr sy'n peri'r braw mwyaf yw nifer y marwolaethau o achos heroin. Rhywbeth o fyd ffilmiau oedd y cyffur brown pan oeddwn i'n tyfu i fyny. . .

"Dyw'r merched ddim yn dianc rhag problemau cymdeithasol chwaith, gan fod cyfraddau beichiogrwydd yr arddegau yn frawychus o uchel. Yr un yw'r darlun . . . mewn nifer fawr o'r cymoedd eraill hefyd," meddai.

Ond y mae'r gyfrol yn ateb y cyhuddiad a wneir gan M Wynn Thomas yn ei ragarweiniad - fod Cymreictod y cymoedd wedi ei anwybyddu gan y diwylliant Cymraeg "gan nad oedd yn llwyr gydnaws 芒 gwerthoedd diledryw y cymunedau traddodiadol."

Ac y mae gosodiad ganddo yn bwnc trafod diddorol iawn: "Fod y Gymraeg a'i diwylliant, nid yn unig yn gefnlen pwysig i lenyddiaeth Eingl-Gymreig cymoedd y de, ond hefyd yn rhan annatod o wead y testunau llenyddol eu hunain."

A'r bobl hefyd yn 么l tystiolaeth y gyfrol hon.
Adolygiad gan Glyn Evans

Cliciwch i ddweud eich barn chwi.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy