±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Sach Winwns
Nofel gyntaf Gary Slaymaker
  • Adolygiad Angharad Llewellyn o Y Sach Winwns gan Gary Slaymaker. Gomer. £6.99.


  • Mae Gary Slaymaker wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf ac fel y byddai unrhyw un sydd wedi gweld ei raglen deledu yn disgwyl, mae hi'n nofel ddoniol, fachog a thros-ben-llestri!

    Clawr y llyfr Lleolir hi mewn ardal adnabyddus iawn i'r awdur, Llanbedr Pont Steffan, neu bentref Cwmann i fod yn fanwl gywir.

    Mae rheolwr y tîm pêl-droed, Dynamo Cwmann, yn cael ei ysbrydoli gan erthygl yn y Sunday Sport i fynd i Nigeria i ofyn am gymorth 'witch doctor'.

    Dynamo yw tîm gwaethaf y gynghrair ac mae Keith Pugh yn gobeithio y gall y dewin hwn newid y sefyllfa.

    Wedi taith ddifyr, ond ofer, i Lagos, mae'r rheolwr yn dod ar draws rhywun arall a allai fod o gymorth ac yn ystod y tymor mae Mathew Yakubu yn helpu Dynamo Cwmann o un fuddugoliaeth i'r llall.

    Gelynion
    Ond, mae'n rhaid i aelodau'r tîm a'r 'dewin' ymrafael â'u gelynion pennaf - tîm o Gaerdydd.

    Stori llawn hwyl, digonedd o dynnu coes a 'one-liners'.

    Mae campau hudol Mathew Yakubu ar adegau yn fwy o rwystr nag o help, yn enwedig pan gaiff drafferth i beidio â llosgi'r gôl yn ulw.

    Ond ar gyfer gêm ola'r tymor, mae'n wynebu her fwy nag arfer.

    Mae tîm y Ffarmers wedi cyflogi eu harbenigwr hudol eu hunain a bydd yn rhaid i Dynamo Cwmann ddod o hyd i ysbrydoliaeth o rywle os ydyn nhw am ennill y gynghrair.

    Un o uchafbwyntiau'r llyfr yw'r olygfa lle caiff y ddau ddihiryn o Gaerdydd lond pen o ofn ar ôl cael eu clymu'n noeth mewn beudy a chael dau lo yn ymosod arnynt!

    Iaith liwgar
    Mae'n siŵr na fydd synnwyr digrifwch Gary Slaymaker yn apelio at bawb ac yn yr un modd, mae'n annhebygol y bydd yr iaith 'liwgar' yn apelio at bob darllenwr.

    Wedi dweud hyn, alla i ddim dychmygu y bydd unrhyw un yn llwyddo i ddarllen y llyfr yma heb ildio i lond bol o chwerthin.

  • Adolygiad ar Gwales
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Gary Slaymaker


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý