±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhaid i Bopeth Newid
Hanes dau fywyd
  • Adolygiad Glyn Jones o Rhaid i Bopeth Newid gan Grahame Davies. Gomer. £7.99


  • "Dychanwr heb ei ail," meddai John Gruffudd Jones am Grahame Davies - ac ni ddywedodd neb hi gystal.

    Clawr y llyfr Hon yw ei nofel gyntaf ac nid hen grachach ddi-hid Caerdydd yn unig sy'n ei chael hi yma ond pawb.

    Y cyfryngis, y gwleidyddion, yr ymgyrchwyr iaith, y Cristnogion, y Ffasgwyr, y Sosialwyr a phawb dan haul.

    Dadrith yw'r thema fawr.
    Dadrithiad dwy ferch yn y ddynoliaeth, yn eu cymunedau ac ynddynt eu hunain a'u hysfa i newid y byd er gwell.

    Dwy stori sydd yma - sypreis, sypreis - wedi eu gweu yn grefftus drwy'i gilydd. Y gyntaf yn stori wir yn seiliedig ar waith ymchwil a wnaeth yr awdur gogyfer ei ddoethuriaeth.
    Waeth lladd dau aderyn efo'r un garreg ddim!

    Simone Weil, yr ymgyrchwraig eiconig, yw'r prif gymeriad, ac mae'n amlwg bod gan yr awdur gryn edmygedd ohoni, a llun neu ddau ohoni tan ei obennydd synnwn i ddim.

    Sosialaeth a brawdoliaeth
    Iddewes ddisglair ydyw yn byw yn y Ffrainc ansefydlog honno rhwng y ddau ryfel byd ac fel pob arwres mae hi geiniog yn fyr o bunt.

    Yn casáu ei hun am fod yn Iddewes ac yn ferch mae'n cyfnewid ei gyrfa academaidd am waith ffatri er mwyn uniaethu â'r tlodion ac yn mynd i'r Almaen, de Ffrainc, Sbaen a Llundain i ymladd dros sosialaeth a brawdoliaeth.

    Pe na bai'r stori'n wir fe'i condemniwn fel talp o afrealaeth; ond mae yn wir a hynny sy'n anhygoel.

    Mae'n werth darllen y nofel yn unswydd er mwyn clywed beth ddywed y ferch ryfeddol hon nesaf.

    Stori ddychmygol
    Dychmygol yw'r ail stori; hanes Meinwen Jones, 'Iesu Grist Cymru' sy'n uchel ei chloch dros yr iaith, y wlad, heddwch a chymuned.

    Mynycha bob cyfarfod, protest a chyfweliad ac mae'n fodlon aberthu unrhyw beth dros 'Yr Achos'.

    Mae hi wedi darllen gwaith Simone Weil ac yn benderfynol o ddilyn ei harwres mewn cam a gweithred - tan ddiwedd y nofel hynny ydi.

    Dibynnu'n llwyr ar wleidyddiaeth
    Mae'r nofel yn drewi o wleidyddiaeth a'r naratif, gwaetha'r modd yn dibynnu'n llwyr ar ddaliadau gwleidyddol y cymeriadau.

    Perffaith os ymddiddorwch yn y byd gwleidyddol ond os nad, peidiwch â thrafferthu i ddiffodd y teledu.

    Ond nid dau fwnci o'r Cynulliad yn dadlau pa liw i beintio wal y neuadd sir sydd yma. I'r gwrthwyneb, mae'r sylwadau yn rhai treiddgar a chwyldroadol am y gwerthoedd sydd gennym fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.

    Mae'r nofel yn gwneud ichi feddwl. Dyma ei phennaf ragoriaeth.

    Fawr o ddigwyddiadau
    Prin yw'r digwyddiadau gwirioneddol gyffrous yn y nofel gan fod yn well gan Grahame Davies gyhoeddi ei efengyl o bulpud ei stydi.

    Wn i ddim sawl gwaith yn y nofel y mae Meinwen ar ryw banel neu raglen yn dadwrdd am argyfwng y Gymraeg - ond pan eir a hi i'r carchar am falu ffenestri arwerthwyr tai wrth alw am ddeddf eiddo i Gymru, cwta baragraff a neilltuir.

    Gallesid fod wedi sôn am galedi bywyd carchar ond y cyfan a glywn yw Meinwen eistedd ar ei gwely a chael gweledigaeth fawr.

    Anodd credu sut y gall awdur fod mor ddi-chwaeth gyda golygfa mor greadigol o'i flaen.

    Dau ddimensiwn sydd i'r cymeriadau, bron bob un, yn enwedig Meinwen.

    Nid oes ganddi na theulu, gwaith na chefndir. Mae fel petai wedi dod o Afallon bell yn unswydd er mwyn rhyddhau'r Gymraeg o ormes Lloegr.

    Ond er y gwawdio, mwynheais y nofel hon a hynny'n bennaf am ei bod yn cynnig rhywbeth gwahanol.

    Nid ein llusgo'n ddyfnach i gwteri'r Gymru gyfoes fel cymaint o'n nofelau diweddar a wnaiff hon ond mynd â ni ar daith ysgytwol drwy Ewrop gythryblus y Tridegau, a synnwn i fawr na ddysgid mwy am hanes, athroniaeth a gwleidyddiaeth o'i darllen nac a ddysgir mewn unrhyw ysgol.

    Ein gorfodi
    Dyma'r unig nofel Gymraeg i mi ei darllen sy'n ein gorfodi i edrych ar ein sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun Ewropeaidd.

    Mae'r iaith yn syml, yr arddull yn blaen diaddurn a'r cyfan yn codi mewn crescendo tua'r diwedd.

    Marw'n ifanc
    Bu farw Simone Weil yn ddynes ifanc yn yr ysbyty am iddi osod helpu eraill gyfuwch a'i bywyd ei hun.
    Ar y funud olaf mae Meinwen hithau yn tynnu'n groes i'w harwres gan weld mewn fflach o weledigaeth nad dewr yw aberthu bywyd tros unrhyw achos ond, yn hytrach, twpdra a ffolineb.

    Gorffen y nofel ar nodyn gobeithiol. Am y tro cyntaf erioed mae Meinwen yn ennill dadl deledu gan adael hyder ei gelynion yn deilchion.

    Mae deddf eiddo ar fin cael ei chyflwyno a hynny, credwch neu beidio, o ganlyniad i ymdrechion Tori cefnog - nid yr ymgyrchwyr iaith!

    Ac fel yr olygfa olaf un ar ddiwedd ffilm dda, mae Meinwen a Dewi, ei chyd- brotestiwr, yn cusanu.
    Am wreiddiol!

    Mae'r neges yn gwbl amlwg:
    Mae gennym ddau ddewis, bod fel Meinwen a byw a phrofi cariad a hapusrwydd neu ynteu bod fel Simone Weil yn aberthu a marw a chael nofelau, traethodau doethuriaeth ac astudiaethau academaidd wedi eu hysgrifennu amdanom.
    Dewis anodd, onid yw?

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Gwyn Griffiths


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý