±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Prifio
Portread gonest a didwyll i'w drysori
  • Adolygiad Gwenllïan Rowlinson o Prifio gan Maureen Rhys. Gomer. £7.99 - Clawr meddal. 127tt.


  • Anrheg Nadolig oedd Prifio ac anrheg yr oeddwn wedi crybwyll yr hoffwn ei chael yn fy hosan.

    Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn darllen llyfr gan actores adnabyddus - hynny oedd yn apelio, a chefais i mo fy siomi.

    Mae teitl yn ddifyr ynddo'i hun, yn awgrymu datblygiad unigolyn trwy bob agwedd o'i bywyd a hynny a gawn.

    Dysgais gryn dipyn am Maureen Rhys yn ferch fach, yn ferch ifanc, yn actores ac yn wraig. Fe'i magwyd gan ei nain ac mae ganddi dri brawd.

    Dysgais hefyd am gyfnod arbennig drwy'r llyfr - y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd gyda setiau gwahanol o ddillad i'w gwisgo ar adegau arbennig.

    Wrth gwrs, mae'r byd actio yn ganolbwynt i'w bywyd a hithau yn ei helfen ar lwyfan.

    Roedd ynddi awydd, meddai, "i blesio, i gael eich dilyn fel ffefryn" ac i fedru bod yn rhywun arall ar wahân iddi hi ei hun.

    Cyfnod y Coleg wedyn a chyfarfod â'i gŵr John Ogwen sydd hefyd yn actor.

    Ymddengys hwn yn gyfnod llawn hapusrwydd iddi gyda gwaith actio amrywiol a diddorol.

    Dyma'r byd sy'n cael ei bortreadu yn gelfydd yn y llyfr.

    Wedi ei rannu yn benodau hwylus mae'r llyfr yn ymdrin â sawl agwedd ar ei bywyd amrywiol a gwelwn mai Maureen Hughes ydi hi'n ei bywyd priodasol, ond Maureen Rhys yn actio!

    Dywed yn y bennod O Flaen y Camera mai "gwaith llwyfan ydi'r gorau gen i o bell ffordd" ac mae'r llyfr yn adlewyrchu drwyddo draw ysblander Maureen Rhys ar lwyfannau Cymru a hynny mewn ffordd dawel ac effeithiol iawn.

    Mae'r arddull yn syml ac agos atoch a'r hanes yn hawdd ei ddarllen gyda chyfoeth o iaith naturiol rhwng y cloriau.

    Hefyd, mae casgliad diddorol o luniau ardderchog ; y cyfan yn gwneud hwn yn hunangofiant a ddylai fod ar silff pob Cymro gwerth ei halen ar sail ei bortread gonest a didwyll o un o actoresau mwyaf ein cenedl.
    Yn sicr ddigon, llyfr i'w drysori a'i fwynhau yn fawr yw Prifio.
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad a sgwrs gyda Maureen Rhys


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý