±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Lethrau Cefn Gwyn
Hunangofiant anhunanol
  • Adolygiad Martin Williams o, O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Gwasg Carreg Gwalch


  • "Cyn eiriadurwr yn cyhoeddi ei hunangofiant," oedd pennawd Y Cymro.
    Cyfle da i mi loywi fy Nghymraeg, meddyliais innau.
    A do, mor sicr a bod Mawrth yn y Grawys, fe ddysgais dipyn go lew am gyfoeth geiriol yr heniaith wrth ddarllen hunangofiant y gŵr crefyddol, Gwilym Lloyd Edwards, O Lethrau Cefn Gwyn.

    Er enghraifft; edrydd, dyfnddysg, mwyara - gwych! Ffordd arall o ddweud 'mynd i hel mwyar duon'- "a'r goreuon allan o gyrraedd!" Heb anghofio'r defnydd da o air bach pert ac unsillafog, wiw.

    Cynnig profiad difyr
    Ond profiad tu hwnt o ddiflas - arteithiol hyd yn oed - fyddai darllen geiriadur cyffredin/idiomau neu thesawrws 168 tudalen o glawr i glawr mewn tridiau.

    Nid dyma oedd fy mwriad, ac mae Gwasg Carreg Gwalch yn cynnig profiad difyrrach i unrhyw un (wel, hÅ·n na 30 oed efallai?) sy'n ymddiddori yn y Pethe - ac mae paragraff olaf/cyntaf tudalennau 31 a 32 yn fymryn o wybodaeth eitha diddorol, chwarae teg.

    Paham, felly, fy mod wedi mwynhau'r hunangofiant anhunanol yma mewn cyfnod byr o amser?
    'Roedd darllen y rhagarweiniad a'r bennod Dwy Ardal hefo cân Mim Twm Llai, Cwmorthin, yn chwarae ar repeat ar y stereo yn brofiad gwych.

    Priodas od ac anaddas i'r diddychymyg a choes ysgolheigaidd efallai. Ond na. Brogarwch, gwreiddiau, cyfoeth diwylliannol, y syniad o berthyn. Yndi:
    Mae o'n gwneud i ti sylweddoli
    Bod mwy i'r bywyd hwn
    Na Coca Cola.

    Efallai nad oes gan O Lethrau Cefn Gwyn obaith bod yn best-seller i bobl yn eu hugeiniau ond dwi hefyd yn sicr fod canran sylweddol o ffans Mim Twm Llai yn bobl ifanc. Profiad cŵl a gwefreiddiol.

    Hiwmor
    Ond dyna ddigon o geisio cymell rhai o aelodau www.maes-e.com i'w ddarllen a'i drin a thrafod yn yr adran Llyfrau Cymraeg. Be fydd y darllenwr nodweddiadol a mymryn yn hÅ·n yn ei fwynhau?

    Hiwmor y Cymry. Mae'r stori/joc am John Williams, Sarnau, hefo'i ambarel (tud. 104) yn eitha doniol.

    Mae geiriau/ateb "My father, sir" gan Johnny (98) yn ychwanegu mymryn bach mwy o liw.

    "Byddai pethau wedi mynd yn ffliwt!"- ar dudalen 69 (tipyn bach o ddawn dweud a ffraethineb- pam lai?!)

    Athrawon ymroddedig
    Gorau ysgol yn yr hollwlad
    I ddysgu dyn yw ysgol profiad

    Nid yw'r awdur llyfrgar yma'n swil o ddyfynnu geiriau pobl eraill ac mae'n anodd meddwl am ddyfyniad gwell i'w gynnwys mewn hunangofiant na'r Hen Bennill uchod!

    Ond 10 allan o 10 ac A*** iddo am grybwyll yr "athrawon ymroddedig, ac iddynt ruddin, a osododd esiampl..."

    Dichon nad yw neb yn anghofio athro neu athrawes dda ac mae ei farn ynghylch pwysigrwydd ysgolion cynradd ar waelod tudalen 71 yn gwneud synnwyr, am wn i.

    O Teulu Bach Nant-oer, gan Moelona ymlaen- nid yw rhywun llengar fel yr awdur yma yn mynd i hepgor y stori o gael benthyg llyfr gan Bob Owen Croesor!

    Teipiais llyfrgell bob owen a croesor i mewn i beiriant chwilio lluniau www.gwgl.com - hen dro, dim llun ysblennydd o'r llyfrgell enwog!

    Er na ddywed paragraffau agoriadol Troeon Yr Yrfa unrhyw beth gwirioneddol newydd neu dreiddgar, dwi'n siŵr y bydd nifer o bensiynwyr Cymraeg yn gallu deall ail hanner y trydydd paragraff a dirywiad bywyd y capel yn berffaith: "Y fath newid!"

    A thra fy mod ar nodyn crefyddol, mae'r sylw hael a roddir i Charles H. Clements, organydd cyflogedig capel Seilo, Aberystwyth, yn annog rhywun i ddarllen mwy am ddyn a oedd yn gallu "chwarae gwaith anodd ar gyfer yr organ, a hynny gan newid cyweirnod y copi oedd o'i flaen."
    Tipyn o gamp!

    Cefais fwy o flas ar hunangofiant Gwyn Thomas, Bywyd Bach y llynedd ond mae'r brodor o blwyf Llangywer yn yr hen Sir Feirionnydd "mor gadarn raenus ei Gymraeg" (geiriau Yr Athro Hywel Teifi Edwards ar gefn y llyfr) ac mor wybodus a diwylliedig fel na allaf ddisgwyl darllen ei gyfieithiad o nofel Gunter Grass, Katz und Maus/Cath a Llygoden.

  • Adolygiad Meg Elis i Llais Llên
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Meg Elis

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý