±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffenestri Tua'r Gwyll
Cael cam gan y beirniaid

  • Adolygiad Carys Mair Davies o Ffenestri Tua'r Gwyll gan Islwyn Ffowc Elis. Gomer. £8.95
  • Yn fy marn i mae Ffenestri Tua'r Gwyll gan Islwyn Ffowc Elis yw un o gampweithiau llenyddol yr iaith Gymraeg.

    Mae'r stori yn troi o amgylch gwraig weddw, Ceridwen Morgan, sydd wedi ei gorfodi gan ei gŵr marw i fyw ar ei gyfoeth ef yn y tŷ mawr a gododd iddi ac i beidio ag ailbriodi na gwneud dim yn gyhoeddus byth mwy.

    Ond mae tipyn o genfigen rhwng ei chyfeillion a'i gilydd, a hwnnw'n gwaethygu pan fo Ceridwen yn cwympo dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'r bardd ifanc Alfan Ellis.

    Barn yr awdur
    "Fy nofel aflwyddiannus," oedd disgrifiad Islwyn Ffowc Elis o'r nofel hon ac, yn wir, pan y'i chyhoeddwyd ym 1955 fe'i beirniadwyd yn hallt am ei chymeriadau oeraidd a'i stori artiffisial.

    Ond nid bai'r awdur mo hynny gan na chredaf i gynulleidfa'r cyfnod werthfawrogi newydd-deb y nofel na gweld ei rhinweddau.

    Dewisodd yr awdur droi ei gefn ar y gymdeithas draddodiadol Gymraeg a sôn yn hytrach am gymdeithas drahaus o artistiaid a llenorion.

    A dyma'r cryfder sy'n gwneud Ffenestri Tua'r Gwyll yn unigryw - y ffaith i Islwyn Ffowc Elis ysgrifennu am gymdeithas wahanol i'r hyn mae'r rhan fwyaf o ddarllenwyr yn gyfarwydd a hi.

    Colled i lenyddiaeth
    Achosodd y condemnio a fu ar yn nofel golled i'n llenyddiaeth gan i Islwyn Ffowc Elis ddychwelyd at 'y nofel boblogaidd' yn lle mynd rhagddo i arbrofi a gwthio'r ffiniau ymhellach.

    Sylwer yn arbennig ar deitl y nofel. Ni chododd Alfan Ellis y tŷ gyda'i 'ffenestri tua'r wawr' ond 'tua'r gwyll' a chyda'i ddefnydd celfydd o iaith a delweddau llwydda'r awdur i ddangos mai tywyllu mae hanes Ceridwen, a hynny o ganlyniad i'w gŵr.

    O safbwynt Ceridwen yr adroddir y stori - er taw yn y trydydd person ei hadroddir a hynny mewn iaith safonol iawn.

    Mae'r cymeriadau yn rhai cofiadwy oherwydd eu hoerni a'u hanhapusrwydd.

    Wedi darllen Cysgod y Cryman gan yr un awdur roeddwn yn disgwyl i gymeriadau Ffenestri Tua'r Gwyll fod yn rhai tebyg, yn hapus, heini a hoenus, ond buan y cefais i ail!

    Wedi dweud hyn, mae'r cymeriadau yn dal i fod yn gymeriadau gwych ac edmygaf Islwyn Ffowc Ellis yn fawr o'u herwydd.

    Buaswn yn ei hargymell i'r darllenwyr hynny sy'n mwynhau'r Gymraeg ac wedi darllen clasuron eraill fel Cysgod y Cryman ond gan rybuddio ei bod yn nofel drom a dwys iawn.

    Ond hefyd yn un o berlau'r iaith Gymraeg.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall o Ffenestri Tua'r Gwyll

  • Islwyn Ffowc Elis


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý