±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dŵr Dwfn
Tyndra yn y meddwl

  • Adolygiad Carys Mair Davies o Dŵr Dwfn gan Conn Iggulden. Cyfres Stori Sydyn. Gomer. £2.99.
  • Dyma stori sydyn arall sy'n meddu ar yr un ystwythder plot a chymeriadau cryf â gweddill y storïau sydyn tebyg.

    Stori dywyll, yn llawn troeon annisgwyl yw Dŵr Dwfn am Teg yn byw yng nghysgod ei wraig brydferth a'i frawd hŷn.

    Rhaid iddo droi at ei frawd am help pan ddaw Dewi Treharne i chwarae rhan annisgwyl yn ei fywyd. All y brawd mawr ei helpu i ddianc rhag ei drafferthion cas?

    Yn y meddwl

    Stori feddyliol yw hon yn adrodd hanes brwydr fewnol Teg a chawn holl ofnau, pryderon a datgeliadau'r cyfrinachau tywyllaf sy'n gwmwl dros fywyd Teg.

    Nid oes llawer yn digwydd ac mae hanner y llyfr yn ymwneud â gorffennol diweddar Teg a'r hanner arall yn y presennol.

    Mae tro bendigedig yn y gynffon pan ddaw'r darllenydd ar draws bradwr arall. Ond sut gallodd Teg gelu ei gasineb chwerw tuag at un sydd mor agos ato?

    Apeliodd clawr Dŵr Dwfn ataf gan imi adnabod traeth fy nhref enedigol, Aberystwyth, ac mae yna hefyd sawl cyfeiriad at y dref ar ddechrau'r nofel a hynny'n gwneud imi fwynhau'r llyfryn yn fwy.

    Mae'r iaith yn bwrpasol syml a phlaen i gyd-fynd â moelni amlwg y plot. Mae ambell i reg yn yn creu tensiynau annioddefol ar adegau.

    Mae'n addas i ferched ac i fechgyn ond nid wyf yn siŵr iawn i ba oedran oherwydd er ei bod yn hawdd ei deall mae rhai geiriau cryfion a golygfeydd treisgar. Y pris yw £2.99 ac er nad yw'n rhy ddrud mae storïau sydyn eraill i'w cael am £1.99.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý