±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bywyd Bach
Cawr diymhongar
  • Adolygiad Martin Llewelyn Williams o Bywyd Bach gan Gwyn Thomas. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. £7.95.


  • Anaml y bydda i'n prynu llyfr Cymraeg newydd sbon. Gwell gen i fenthyca ambell i lyfr hen neu un eithaf newydd o'r llyfrgell, a hynny am ddim!

    Wedi'r cyfan, os nad oedd y profiad o'i ddarllen yn un pleserus a difyr yna, o leiaf, gellid dweud na wastraffwyd yr un geiniog.

    Gwybod yn iawn
    Ond fe wyddwn yn iawn na fyddai Bywyd Bach Gwyn Thomas yn gambl o gwbl.
    O ddifrif?

    Hunangofiant sych, cul, hirwyntog a diflas gan Athro Cymraeg sy'n defnyddio llaweroedd o eiriau mawr crand anodd eu deall, a hynny heb unrhyw beth i'w ddweud o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain?
    Dim o gwbl...

    Fel, er enghraifft, T H Parry-Williams a D Tecwyn Lloyd, nid yw'n cyfyngu ei ddiddordebau i ddysg llyfrau yn unig.

    Clawr y llyfr Faint ohonom fyddai wedi hoffi cael tynnu ein llun gyda'r diweddar Gawr Addfwyn?!

    Llên a llun yddiaeth
    Yn ogystal â llenyddiaeth (afraid dweud!) mae hefyd yn ffan o lunyddiaeth (gair da).

    Mae digrifwch Laurel a Hardy wedi sefyll prawf heneiddio ac amser. Cawn wybod ei fod yn edmygydd mawr o Robert Mitchum (yn hollol- nid oes terfyn ar y math o bynciau y gall y Gymraeg eu trin rhwng dau glawr), Richard Burton a John Ogwen - hunangofiant rhif 16 yng Nghyfres y Cewri - a Bywyd Bach GT yw'r degfed ar hugain yn y gyfres boblogaidd yma.

    Y mae ei sylwadau craff am ambell i ffilm Saesneg yn fy atgoffa o ddarnau difyr yn Dirgel Ddyn gan Mihangel Morgan. Trueni nad yw'n dewis ein goleuo gyda sylwadau difyr am hufen yr hufen o ffilmiau Cymraeg - er ei fod yn crybwyll Y Chwarelwr er mwyn adrodd stori fach ddigon diddorol tua'r diwedd, ond dyna i gyd.

    Tician dadlennol
    Troi'r cloc yn ôl a gadael iddo dician mewn rhythm ddadlennol a llesmeiriol- dyma beth yw hunangofiant da.
    A chyn i mi anghofio am fyd y ffilm, dwi'n siwr y bydd rhai o'n darllenwyr hynaf yn mwynhau cofio am oes aur (?) y pictjwrs. Oes a ysbrydolodd filoedd o Gymry ifanc i chwarae cowbois.

    Ac roedd yna nifer o gemau eraill yn difyrru plant ardal y Blaena; chwarae marblis, concyrs, bachyn a phowl, ceffyl bach, cyrcs poteli llefrith, gwaith corcyn a hyd yn oed gwneud tjips!

    Nid yw GT yn dweud hyn mewn ffordd blwmp a phlaen (cynildeb y bardd efallai?) ond rhyw amau ydw i fod nifer o bobl mewn oed yn teimlo'n gryf nad yw plant yn chwarae go iawn bellach.

    Oes y blincin gemau cyfrifiadur yw hi bellach- oes ryfedd iawn.

    Sonia GT am ei hoffter o chwarae pêl-droed, a "rhoi dwy got neu ddwy garreg ym mhob pen i'r llain ac yna'n dechrau cicio pêl, gan wthio trwy ambell dyfiant o frwyn".

    Sgin i ddim tystiolaeth gadarn, ond credaf fod e.e. cyrraedd lefel 17 ar y gêm gyfrifiadur ddiweddara yn bwysicach i blant yr oes hon na sgorio hatric yn erbyn rhai o'ch ffrindiau!

    Disgrifia'r gemau a grybwyllwyd yn gynharach mewn modd manwl a, wel, byw. Ia, "byw" rhwng dau glawr yn unig, gwaetha'r modd.

    Cyfareddol a diffuant
    Rhyw Ddyddiau Rhyfel Oeddynt yw pennod feraf yr hunangofiant.
    Cyfareddol a diffuant.
    Cynildeb i'w ganmol.
    Ond nid wyf yn synnu chwaith, canys bod yn gynnil yw un o brif gryfderau bardd da.

    Enghraifft arall o gynildeb rhagorol: "Pwy fuasai'n meddwl ynte!" ar dudalen 193. Cic fach slei, bositif, ym mhen ôl cymdeithasau Cymraeg y tu allan i Gymru?

    Cymru Fu
    Sonia'r awdur am Cymru Fu, llyfr yr oedd yn mwynhau darllen darnau ohono "drosodd a throsodd" pan yn iau.

    Mae gen innau gopi hefyd yn y tÅ· 'cw ( diolch i haelioni'r Carnarvonshire Education Committe yn 1909!)

    Sylw personol: chwiliais am y llyfr yma ar www.gwales.com -dim lwc. Tybed ym mha flwyddyn y cafodd y campwaith yma ei argraffu ddiwethaf? Os na chafwyd argraffiad newydd rhywbryd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf (gyda chlawr hynod o ddeniadol- o'r un safon ag e.e. Y Mabinog i- Gwyn Thomas, Y Lolfa, 2006) yna mae'n biti garw. Cof cenedl (?)

    Y Beibl oedd y llyfr arall "a fu'n gyson wrth ochr" ei wely "am flynyddoedd".

    Yn wir, ceir ambell i sylw hynod o dreiddgar ynglyn a ffydd, a'r Pwnc Mawr.

    Cymdeithas glos: diweddglo hyfryd i bennod ar dudalen 199. Difyr hefyd yw ei sylw ar dud. 49: Annibynwyr v Methodistiaid. Fel mae'r oes (a Chymru) wedi newid!

    Hiwmor a ffraethinrb
    Pa hunangofiant Cymraeg fyddai'n gyflawn heb hiwmor a ffraethineb?

    Doniol iawn ydyw'r sgetjs ar dudalen. 192 - 'Tjips i Dri', hefyd sgwrs rhwng dwy wraig ym Methesda ar dudalen 195!

    Ceir hefyd ambell i frawddeg ysgubol a chofiadwy gan fawrion eraill e.e. Gwenallt a Bob Owen.

    Oes, mae angen mymryn o sbeis ar gyfer hunangofiant da. Dwi wedi darllen ambell i hunangofiant yn yr iaith fain yn lled ddiweddar (wnai ddim mo'u henwi) - rhyw hen bethau sych.

    Diflewyn ar dafod
    Sbeis o fath gwahanol: gall hefyd fod yn ddiflewyn ar dafod e.e. pwysigrwydd disgyblaeth dda yn ein hysgolion, ei farn gref o blaid cadw Ysbyty Blaena ar agor a bod "Cymru'n werth ei hachub".
    Achub?
    Gair eithafol?

    Mae ei fyfyrdodau ychydig cyn cloi yn haeddu sawl darlleniad. Ond rhaid cyfaddef nad wyf yn siwr iawn os ydwyf yn hoffi ei ddewis o'r gair tswnami ar dudalen 208.

    Fel Athro Cymraeg, mae'n anochel efallai y bydd yn rhoi "gwers Gymraeg" inni.
    Ond stwffio fo i lawr ein cyrn gyddfau?
    Bws ynteu bys?
    Pwy ar y ddaear sy'n dweud bws?
    Cynnwys diflas ar hanner isaf tudalen 151 a'r rhan fwyaf o dudalen 152?
    Na - dim o gwbl (mae'r peth yn llifo mor naturiol).

    Diymhongar
    Hunangofiant "sbiwch arna i", egoistaidd a hunanbwysig?
    Cyfle i frolio ei weithiau barddonol ac ysgolheigaidd ei hun?
    Na- mae'r teitl yn dweud y cyfan - ia, diymhongar, dyma yw'r gair dwi'n chwilio amdano.

    Y Dyn 'i Hun (Hywel Gwynfryn), Fi Dai sy' 'ma (Dai Jones, Llanilar) - mae Bywyd Bach yn haeddu ffigwr gwerthiant tebyg.

    Mae un peth cyn sicred a bod bara mewn torth - ia, na chi, pobydd, sef becar oedd ei dad - os y byddwch yn ddigon ffodus i dderbyn y llyfr hwn yn eich hosan Dolig, yna byddwch wedi ei ddarllen o gâs i gâs cyn y flwyddyn newydd!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Bywyd Bach gan Gwyn Thomas - gan gynnwys sgwrs gyda Gwilym Owen


  • cyfannwch

    steph o llangefni
    tudalen da :D



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý