±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhwng y Cŵn a'r Brain
Nofel dditectif sy'n gafael
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Rhwng y Cŵn a'r Brain gan Elgan Philip Davies. Hughes. £4.50.


  • Mae'r hen ddywediad sy'n deitl i'r nofel hon yn un tu hwnt o addas.
    Mae Elgan Phillip Davies wedi meistroli'r grefft o ysgrifennu stori dditectif, antur a chariad ac wedi'u rhowlio'n un campwaith ysblennydd ar gyfer pleser a mwynhad y darllenwyr.

    Mae'r awdur yn medru cyfareddu person ac mae Rhwng y Cŵn a'r Brain yn enghraifft wych o sawl llinyn stori unigol yn plethu â'i gilydd i greu plot cymhleth ond credadwy.

    Ceir sawl nofel yn y gyfres hon ond Rhwng y Cŵn a'r Brain yw'r orau ohonynt.
    Nofel dditectif yw hi'n bennaf sy'n troi o amgylch marwolaeth erchyll Edward Morgan.

    Marwolaeth naturiol ar yr olwg gyntaf ond buan y gwelir fod mwy o drafferth gyda rhai pobl yn farw nag yn fyw ac y sylweddolir nad marw o achosion naturiol a wnaeth Edward Morgan.

    Y prif gymeriad yw'r Ditectif Ringyll Gareth Lloyd gyda'r stori'n dilyn ei hynt mewn swydd newydd mewn rhanbarth newydd.

    Gwelwn ei gymeriad yn datblygu wrth i bleserau bywyd (Miss Carys Huws) a threialon bywyd (yr Arolygydd Ken Roberts) gael eu taflu ato!!

    Fy hoff gymeriad yn y nofel yw'r Prif Arolygydd Clem Owen. Er nad oes iddo ran mor flaenllaw â Gareth Lloyd mae'r holl frawddegau disgrifiadol amdano yn dod â'i gymeriad yn fyw ym meddwl y darllenydd.

    Mae'n meddu ar bersonoliaeth hynaws ond yn gymeriad sy'n ymylu ar fod yn ystrydebol ac heb gael cyfle i ddatblygu llawer yn ystod y nofel gan fod mwy o sylw yn cael ei roi i symud y stori yn ei blaen.

    Clem Owen yw'r plismon 'da' yn y stori; bob amser yn sefyll dros ei gredoau ac yn fodlon dweud y drefn wrth ei weithwyr heb flewyn ar dafod. Mae hefyd yn fodlon gwrando ar syniadau'r plismyn eraill.

    Mae iaith Rhwng y Cŵn a'r Brain yn syml a'r arddull yn fendigedig gyda chyffelybiaethau, trosiadau, bratiaith a llawer iawn mwy.

    Mae'r dafodiaith ddeheuol yn eithaf cryf drwy'r nofel a hynny'n cyfleu ysbryd o gymuned glos.

    Ond i mi, mae gwahanol deitlau y plismyn yn eithaf dryslyd - Prif Arolygydd, Arolygydd, Rhingyll ac yn y blaen gan na wyddwn pa gymeriad oedd uchaf ei safle yn yr orsaf.

    Ond gair o rybudd - mae'r nofel yn hen bellach wedi ei hargraffu gyntaf yn 1991 ond wedi ei hailargraffu sawl tro a hynny'n brawf o'i phoblogrwydd.

    Buaswn yn ei hargymell ar gyfer unrhyw oedran. Nid oes iddi gynnwys nac iaith anweddus ac mae'n ddealladwy er gwaethaf cymhlethdod y plot.

    Nid yw'r clawr yn gwneud cyfiawnder â'i chynnwys felly da chi, peidiwch â chamu heibio iddi yn y siop.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Holi Elgan Philip Davies


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý