鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Englynion a Cherddi T Arfon Williams.
Cyhoeddi Englynion a Cherddi T Arfon Williams. Y casgliad cyflawn. Golygydd, Alan Llwyd. Barddas. 拢12.




Clawr y llyfrMae'r gyfrol hon yn cynnwys nifer o gerddi ac englynion nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi erioed o'r blaen.

Mae'r adran Cerddi Eraill, yng nghefn y gyfrol, yn cynnwys englynion a cherddi a drosglwyddwyd i Alan Llwyd gan weddw T Arfon Williams.

Cerddi a gyhoeddwyd yn barod yn y cyfrolau Englynion Arfon (1978), Annus Mirabilis a Cherddi Eraill (1984) a Cerddi Arfon (1996) yw gweddill y gyfrol.

Medrus a dylanwadol
Mae'n gymwynas arbennig cael gyda'i gilydd gerddi gwr sy'n cael ei gyfrif yn un o feirdd caeth mwyaf medrus a dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

Nid yn unig llwyddodd yn ei waith i warchod a diogelu hen werthoedd a safonau y traddodiad barddol Cymraeg ond llwyddodd ar yr un pryd i dorri ei gwys ei hun ac ymestyn y rheolau heb eu torri.

Cymaint fu ei lwyddiant gyda'r ffurf a adnabyddir fel yr "englyn un frawddeg" y dechreuwyd galw'r math hwnnw o englyn yn "englyn Arfonaidd".

Undod oedd un o nodweddion ei englynion a'r undod hwnnw yn cael ei ddiogelu gan yr un syniad a fyddai'n cynnal englyn yn llwyr o'i ddechrau i'w ddiwedd.

'Syfrdanol o ran crefft
Mewn cyflwyniad i'r gyfrol hon mae Emyr Lewis yn s么n amdano yn creu sawl englyn "a oedd mor afaelgar neu ddwys o ran synnwyr, ag yr oedd yn syfrdanol o ran crefft."

Heb amheuaeth, y cyfuniad hwn o berffeithrwydd crefft a gwreiddioldeb syniadaeth a'i gwnaeth yn englynwr mor arbennig.

Ond er bod ganddo ei wreiddioldeb ei hun wrth edrych ar bethau o ran syniadau yr oedd ei gred sylfaenol yn un gwbl seml a chlir yn deillio o'i ffydd Gristnogol ac y mae 么l hynny yn llawer o'i gerddi.

Hynny a'i galluogai i fod, yng ngeiriau Emyr Lewis eto, yn fardd optimistaidd er gwaethaf gwaeledd personol.

Yn wir, dywed ef mai y cywair ysgafn yn hytrach na'r lleddf oedd ei gywair naturiol.

"Yr oedd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn. Dyma oedd ffynhonnell ei optimistiaeth," meddai gan ychwanegu fod yr ymadrodd "ofer pryder" yn un o'i englynion "yn crisialu agwedd Arfon at y byd. Gwastraff amser yw pryderu mae gwychder amryliw y cread yn beth rheitiach i feddwl amdano," maeddai.

Brodor o Dreherbert yn y Rhondda oedd Arfon Williams ac yn ddeintydd wrth ei alwedigaeth. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yng Nghaeathro ger Caernarfon.

Yn ystod y saithdegau y dechreuodd farddoni ac yn fuan iawn yr oedd yn un o'r s锚r disgleiriaf yn ffurfafen canu caeth Cymraeg gan wneud argraff yn syth er, mae'n deg dweud, i'w englynion un frawddeg godi gwrychyn sawl un ar y cychwyn ond buan iawn yr argyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i feistrolaeth dros y gynghanedd ac fe ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth yr englyn yn y Genedlaethol chwe gwaith i gyd gyda dau englyn ganddo yn gydradd 芒 dau englyn arall yn 1980. Enillodd deirgwaith yn olynol yn 1992/3 a 4.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy