鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hyd yn Hyn
Un o'r merched prin hynny . . .
  • Adolygiad Lowri Roberts o Hyd yn Hyn. Cofiant Gillian Elisa. Cyfres y Cewri 32. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.


  • Darllenais mewn erthygl bapur newydd yn ddiweddar cyn lleied o hunangofiannau i ferched sydd wedi gwerthu yn yr iaith Saesneg dros y misoedd diwethaf.

    Miloedd yn hytrach na'r miliynau disgwyliedig!
    Ar wah芒n i Katie Price aka. Jordan, siomedig iawn fu'r ymateb i'r genre ar y cyfan yn 么l pob s么n.

    Clawr y llyfr Yn yr iaith Gymraeg ar y llaw arall, prin iawn yw'r merched sy'n ddigon dewr i roi pin ar bapur yn y lle cyntaf a rhannu eu bywyd personol gyda ni'r darllenwyr.

    Yn hynny o beth, roedd darllen hunangofiant Gillian Elisa - y diweddara yng nghyfres y Cewri - yn chwa o awyr iach.

    Enw adnabyddus
    Nes imi ddechrau darllen y gyfrol dim ond enw adnabyddus oedd Gillian Elisa - neu Gillian Thomas i roi ei henw cywir - i mi.

    Fel actores, perfformwraig a chantores amryddawn yn unig yr oeddwn i'n ei hadnabod a wyddwn i ddim, er enghraifft, bod ganddi gysylltiadau clos iawn 芒'r ardal lle ces i nghodi - yn Nyffryn Aman.

    Yn Llambed, fodd bynnag, y cafodd ei magu ac mae'r cysylltiadau teuluol a'r gymdogaeth yno yn amlwg yn bwysig iawn iddi ac wedi bod yn ddylanwad aruthrol arni fel perfformwraig ac fel unigolyn.

    Mae hynny hefyd yn amlygu ei hun yn arddull y gyfrol - y dafodiaith naturiol sy'n llifo'n rhwydd o un dudalen i'r llall.

    Llu cymeriadau
    Yn naturiol mae na le amlwg yn y gyfrol i'w phrifiant yn actores - y bobl a'r cyfleon a'i mowldiodd.

    Cawn ein hatgoffa o'r llu cymeriadau y mae hi wedi eu chwarae ar hyd y blynyddoedd - o Sabrina ifanc Pobl y Cwm i Dorinda yn The Magnificent Evans gyda Ronnie Barker a chyfres Yr Heliwr gyda Philip Madoc.

    Prin ro'n i'n sylweddoli gymaint y mae hi wedi ei gyflawni hyd yn hyn!

    Yn ogystal 芒'r uchafbwyntiau mae hi hefyd yn cyfeirio n么l at gyfnodau llai disglair yn ei gyrfa - adegau lle bu hi o bosib yn ei gorwneud hi!

    Gyda'r gonestrwydd hwnnw y mae dyn yn cynhesu fwyfwy tuag ati.

    Dylanwad rhieni
    Ond yr hyn sy'n pefrio drwy'r gyfrol yw'r dylanwad mawr a gafodd ei rhieni arni. Collodd ei mam yn ifanc iawn ac mae hi ei hun yn cyfaddef mai yn gymharol ddiweddar y ceisiodd ddod i delerau 芒'r gwacter mawr a ddaeth yn sgil y golled anferthol honno.

    Yn gymysg 芒'r hiwmor a'r ffraethineb felly sydd i'w ddisgwyl gan alter ego Mrs OTT mae na dristwch, sensitifrwydd ac ansicrwydd. Ac yn hynny o beth mae'r darllenydd yn gweld ochr dra gwahanol i'r persona cyhoeddus hwyliog a hyderus.

    Yn beth dewr
    Fel y soniais eisoes mae rhannu profiadau personol ac ingol gyda chynulleidfa ehangach - yn fy nhyb i beth bynnag - yn gam dewr.

    I Gillian, fodd bynnag, "Mae wedi bod yn rhyw fath o ryddhad i ...gael 'gweud yr hanes'."

    Hyderaf y bydd Gwasg Gwynedd yn darbwyllo merched eraill i ddilyn yn 么l ei thraed.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwefan Pobol y Cwm

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy