鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Clermont i Nantes
Dyddiadur un sy'n gweld y bylchau
  • Adolygiad Wyn Gruffydd o, Stephen Jones - O Clermont i Nantes gan Stephen Jones a Lynn Davies. Y Lolfa. 拢8.95


  • Noswaith 'y mhen-blwydd i ar ddechrau'r flwyddyn oedd hi ac roedd yna bedwar mewn hwyliau da o gwmpas bwrdd bwyd ym mwyty'r Polyn ger Nantgaredig; Simon Wright, perchennog y bwyty oedd un ohonyn' nhw; Robert Williams perchenog cwmni adeiladu ac un o brif noddwr y Sgarlets, a haneri clwb y Strade, Dwayne Peel a Stephen Jones y tri arall.

    Tase Robert Williams ddim yn y cwmni mi fyddwn i wedi cymryd yn ganiataol mai yno fel fi i fwynhau pryd o fwyd da yn eu hoff fwyty oedd yr haneri rhyngwladol ond gan fod Robert yno hefyd synhwyrais fod yna ddatblygiad ar waith.

    Dyna lle y bum i wedyn am ddiwrnodau yn crafu pen ac yn meddwl am bob gwesty a bwyty gwag neu ar werth yn Shir G芒r a Gorllewin Morganwg.

    Clawr y llyfr Roeddwn i wedi anghofio am y peth nes i fi ddarllen dyddiadur O Clermont i Nantes, dyddiadur blwyddyn ym mywyd Stephen Jones, a chael taw datblygiad arfaethedig y T欧 Pwmp ger Doc y Gogledd yn Llanelli oedd yn cael ei drafod - mewn manylder.

    Does gen i ddim amheuaeth erbyn hyn - ac eto gan dynnu ar yr hyn a ddarllenais i - taw yn Clermont Ferrand y daeth y syniad am agor bwyty i Stephen gan ei fod e wedi cael cip ar ffordd wahanol o fywyd chwaraewr rygbi proffesiynol mas yn Ffrainc.

    Tu fas i'r g锚m
    Yn wahanol i nifer o'i gyfoedion mae'r maswr rhyngwladol wedi meithrin diddordebau y tu fas i'r g锚m gan feddwl am y cyfnod hir hwnnw wedi hongian y sgidie i fyny.

    Mae hi'n amlwg fod gan Stephen Jones lygad am fusnes yn ogystal ag am y "bwlch", ac fe wn i nawr fod Dwayne Peel yn rhannu ei weledigaeth.

    Fel mae'r broliant yn awgrymu, "Ar 么l cael ei ddewis yn faswr y flwyddyn yn Ffrainc a dod yn arwr i gefnogwyr Clermont Auvergne, roedd dod yn 么l i'r Strade a chael ei benodi'n gapten Cymru yn dipyn o newid byd i Stephen Jones."

    Blwyddyn maswr
    Yn O Clermont i Nantes cawn gipolwg ar flwyddyn ym mywyd maswr y Sgarlets a Chymru, a does dim amheuaeth ei fod e wedi addasu yn gyflym iawn i fywyd chwaraewr proffesiynol yn Clermont Auvergne ynghyd 芒'r agweddau cymdeithasol sydd yn rhan annatod o fywyd chwaraewr rygbi yn Ffrainc.

    Ond gwneud penderfyniad fu raid a dod yn 么l i Gymru ar adeg dyngedfennol yn ei yrfa. Dod yn 么l gan wybod y byddai dan y chwyddwydr gan amlaf, yn enwedig pan fo pethe'n mynd o chwith ar y cae.

    Ac yn ystod y flwyddyn a aeth heibio fe aeth pethau yn go chwith yn gyson - yn anffodus i d卯m rygbi Cymru.

    Sonnir am fanylder y paratoi a'r dadansoddi manwl cyn ac ar 么l pob g锚m - ar lefel clwb ac yn rhyngwladol, a chawn ddarlun byw o'r drefn o ddydd i ddydd wrth orfod ufuddhau i ddau feistr - y Sgarlets ac Undeb Rygbi Cymru.

    Rhannu gorfoledd
    Cawn rannu'r gorfoledd wedi buddugoliaethau'r Sgarlets yn Ewrop megis y fuddugoliaeth ryfeddol mas yn Toulouse a'r frwydr yn Ravenhill yn erbyn Ulster.

    Unwaith eto fe ellais i uniaethu gyda Stephen pan ar ymweliad 芒 Ravenhill yn gynharach yn y tymor y dywed iddo gael, "Cwmni clos dau o'u cefnogwyr nhw, yn llythrennol o dan 'y nhrwyn i, wrth i fi gerdded y deugen llath i'r stafell newid ar ddiwedd y g锚m. Ar hyd y ffordd fe nethon nhw 'yn atgoffa i pa mor anobeithiol ro'n i fel maswr a chyment gwell fase hi i bawb taswn i wedi aros yn Ffrainc".

    Fe gefais inne brofiad tebyg wrth anelu at yr un stafell newid i chwilio am gyfweliad un noson yn Ravenhill ac yn siarad Cymraeg gyda chydweithiwr.

    Anogaeth i fi siarad iaith heblaw iaith fy mam, gan ddymuno iddi hithau gyfarfod a fy nhad naturiol a phriodi rwy'n meddwl oedd sentiment y g诺r 'bonheddig' wnaeth groesi fy llwybr i!

    Rhwydd a chyflawn
    Mae O Clermont i Nantes yn darllen yn rhwydd ac i unrhyw chwareaewr ifanc sydd a'i fryd ar ddilyn gyrfa broffesiynol dyma gyfrol sy'n rhoi darlun cyflawn o fywyd dydd i ddydd chwaraewr proffesiynol ar y lefel ucha' a'r aberth a'r ymroddiad sydd ei angen os am aros ar y brig.

    Roedd hi'n dipyn o fenter i Stephen gytuno ar gadw dyddiadur o flwyddyn brysura'i yrfa.

    Wyddai e ddim flwyddyn yn 么l beth oedd yn ei aros ond mae e' yn gwbl onest ei ddadansoddiad.

    Cawn yr uchelbwyntiau a'r iselbwyntiau megis y siom o golli yn rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop yng Nghaerl欧r, ei frwydr bersonol gydag anafiadau, rhwystredigaethau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, y gapteniaeth, y brathu a'r corddi cyson yn y Wasg am bwy ddylai neu na ddylai wisgo crys 10 ei wlad, Stephen ynteu James Hook, ac wrth gwrs siom Cwpan y Byd.

    Y Wasg
    Am fod dan chwyddwydr y Wasg a'r Cyfryngau yng Nghymru, mae Stephen yn cydnabod fod hynny yn anorfod ond dyw e ddim yn dal yn 么l yn ei feirniadaeth ohonyn' nhw chwaith.

    Stephen Jones yn arwyddo copi o'i lyfr noson ei gyhoeddi "Ma beirniadaeth heb gyfiawnhad yn 'yn neud i'n grac, yn fwy na dim am fod hynny'n boen i'r teulu " meddai.

    Rhagor i'w ddweud
    Doeddwn i ddim yn disgwyl rhyw wirioneddau mawr ond rwy'n synhwyro fodd bynnag wrth ddarllen "rhwng" y llinellau y gallai Stephen Jones fod wedi dweud mwy.

    Rwy'n barod i aros am yr hunangofiant sy'n siwr o ddod wedi i Stephen orffen chwarae ond dw i ddim mewn brys i gael gwybod y cyfrinachau hynny!

  • Mae Wyn Gruffydd yn sylwebydd rygbi rhyngwladol ar S4C ac yn gohebu ar rygbi i Y Cymro.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwefan Chwaraeon 鲍鱼tv Cymru

  • Atgofion Strade

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy