±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gweld Sêr
Cyfrol gan un sy'n adnabod y maes
  • Adolygiad Melfyn Evans o Gweld Sêr - Pêl-droedwyr Gorau Cymru o'r 60au Hyd Heddiw gan Ian Gwyn Hughes. Gwasg Gomer. £8.99.


  • Gresyn mai dim ond un o'r sêr pêl-droed o Gymru yn y llyfr newydd hwn a gafodd y cyfle i chwarae dros eu gwlad yn ffeinals cystadlaethau mawr fel Cwpan y Byd a Phencampwriaethau Ewrop.

    Clawr y llyfr Chwaraeodd John Charles i Gymru yng ngornest Cwpan y Byd yn 1958 - y tro diwethaf i Gymru gymryd rhan yn y ffeinals er i wledydd fel Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon gymryd rhan gyda chwaraewyr digon cyffredin.

    Mae Golygydd Pêl-droed ±«Óãtv Cymru, Ian Gwyn Hughes, sy'n gyfarwydd iawn fel sylwebydd, wedi cyhoeddi llyfr diddorol am 13 o sêr i gyd - 12 ohonynt heb gael blas o gemau terfynol unrhyw gystadleuaeth fawr.

    Y 13 yw, yn y drefn yr ymddangosant yn y llyfr; John Charles, Ron Davies, Mike England, Joey Jones, Terry Yorath, John Toshack, Leighton James, Kevin Ratcliffe, Neville Southall, Ian Rush, Mark Hughes, Gary Speed a Ryan Giggs.

    Fel mae'r awdur yn dweud dydi o ddim yn ddewis a fydd wrth fodd pawb ond ni all neb ddadlau na fyddai'r chwaraewyr hyn wedi goleuo ffurfafen achlysuron o'r fath.

    Mwy na ffeithiau
    Mae'n llyfr sy'n cynnwys mwy na ffeithiau moel gan i Ian Gwyn weu i mewn dameidiau diddorol am gemau a chwaraewyr a fydd yn sicr o gadw diddordeb y darllenwyr.

    Cawn wybod pwy rwydodd bedair gôl mewn gêm yn erbyn Manchester United yn Old Trafford - a dilyn gyrfa fel arlunydd.

    Atebir cwestiynau fel:
    Pwy oedd yn methu a chofio enwau chwaraewyr?

    Gyda phwy oedd Joey Jones yn arfer teithio mewn bws o ogledd Cymru i weld Lerpwl?

    Pwy oedd yr asgellwr o Gymru a ystyriai Alaister Campbell, cyn-Swyddog y Wasg i Tony Blair, y chwaraewr gorau a welodd erioed?

    Mae'r atebion i gwestiynau o'r fath yma a chan i Ian Gwyn fod yn byw a gweithio ymhlith y chwaraewyr a'r rheolwyr am gyfnod mor faith mae na straeon eraill i'w mwynhau hefyd.

    Mae'r penodau yn agor gyda llun o'r chwaraewyr a manylion am eu safle, eu dyddiad geni a lle ganwyd hwy gan fynd ymlaen i restru'r clybiau y chwaraewyd iddynt a'r adegau y chwaraewyd i Gymru.

    Yna, ceir hanes eu gyrfaoedd gyda'u clybiau a chyda Chymru sy'n cynnwys eitemau gwir diddorol.

    Gemau pwysig
    Mae hefyd yn dwyn i gof gemau 'tyngedfennol' fel yr un yng Nghaerdydd pan fu Cymru led croesbren o gyrraedd ffeinals Cwpan y Byd yn 1993.

    Er y siom o golli'r cyfle i fynd i America i'r ffeinals 'roedd y cefnogwyr a'r wasg yn credu dylai Terry Yorath barhau yn rheolwr tîm Cymru ond Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn credu'n wahanol ac ni adnewyddwyd ei gytundeb gan Gymdeithas mor benstiff ag erioed.

    Hefyd, mae'r awdur yn cyfeirio at yr amser trist pan gollodd Yorath ei fab Daniel yn 15 oed a hefyd am Yorath yn dyst i'r tân yn Valley Parade pan oedd o'n is-reolwr Bradford City.

    Ceir sawl enghraifft o eiliadau bythgofiadwy fel y noson y cyflwynwyd John Charles i dorf o dros 70,000 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd pan oedd Cymru'n chwarae'r Eidal.

    Yn sgil Charles yn chwarae yn Yr Eidal daeth pawb i gwybod am Gymru ac mae'r parch iddo yn yr Eidal yn parhau.

    Defnyddiol
    Tybed a yw'r 13 a enwir yn y llyfr y tîm y byddai Ian Gwyn Hughes yn ei ddewis pe caffai'r cyfle? Nid yw'n dweud hynny mae ganddo obaith ar gyfer y dyfodol. Meddai:

    "Mae dyn yn teimlo rywsut, os na all Tosh lwyddo, gyda'i holl brofiad, fydd yna fawr o obaith i neb arall."

    Dyma lyfr defnyddiol addas ar gyfer y bwrdd coffi neu'r silff erchwyn gwely i bori ynddo wrth eich hamdden.

    Fe'i sgrifennwyd gan un a fu yng nghanol pêl-droed Cymru am flynyddoedd ac yr ydym yn ddyledus iddo am rannu o'i brofiad.

    Mae'n dechrau gyda arwr mawr y gorffennol yn John Charles ac yn dirwyn ei gyfrol i ben gydag un o arwyr y presennol, Ryan Giggs. Rhwng y ddau begwn mae na ddigon i gadw'n diddordeb.

    Mae ambell i frycheuyn yn y testun fel Alex Hamilton, y dyn fu bron yn gyfrifol am farwolaeth clwb pêl-droed Wrecsam, yn cael ei enwi'n Anthony Hamilton ond drwyddi draw mae hon yn gyfrol sy'n ychwanegiad gwerthfawr at llyfrgell dilynwyr pêl-droed gyda'i golwg o fywyd oddi ar y cae ac allan o olwg y cefnogwyr cyffredin.

  • Mae Melfyn Evans yn gohebu am bêl-droed yn Y Cymro.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwefan chwaraeon ±«Óãtv Cymru

  • Llyfrau chwaraeon Nadolig 2007

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý