±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Madarch
Y tu draw i iaith fudur
  • Adolygiad Meg Elis o Madarch gan Dewi Prysor. Y Lolfa £7.95.


  • Isod, ar ddiwedd yr adolygiad mae cyfle i wrando ar Dewi Prysor yn siarad am ei nofel ac am sgrifennu gyda Gwilym Owen.

    Mae gen i gof, flynyddoedd yn ôl, i nofel gan Twm Miall godi tipyn o stinc ym meddwl rhyw adolygydd oedd yn arswydo bod pobl ifanc yn byw bywydau fel hyn, gan ddweud fod llefydd ar gael allai ddangos amgenach ffyrdd iddynt.

    'Doedd y ffaith fod yr atyniadau hyn yn swnio yn "sych fel 'sboniad", chwedl y diweddar Wil Sam, ond yn cadarnhau'r pellter rhwng yr adolygydd (Cymraeg) a'r bobl (Gymraeg) oedd yn byw yn ardal Twm Miall.

    Clawr y llyfr A thros ugain mlynedd wedyn, dyma ail nofel Dewi Prysor, o'r un ardal â Twm Miall, a chyda phwt o froliant gan yr awdur hwnnw.

    Faswn i ddim o raid yn cymeradwyo hynny - bai rhy debyg, hwyrach? - ond tydi Dewi Prysor ddim yn debyg o gael ardystiad gan feirniad Eisteddfodol i'w ddefnyddio mewn broliant.

    (Dwn i'm, chwaith - trïa, ella y byddi di'n lwcus yn dy feirniad....)

    Ymhen ugain mlynedd
    Yr un gymdeithas a ddarlunnir gan Twm Miall a Dewi Prysor, ond bod ugain mlynedd wedi mynd heibio.
    Mae'r gymdeithas yr un mor guriedig - ond ein bod ni'n gorfod ei galw hi'n 'gymuned' bellach - ac y mae amrywiaeth y cyffuriau yn ehangach.

    Mae yna wahaniaethau eraill, hefyd.
    Mi fentrwn i ddweud fod mwy o natur parhad yng ngwaith Dewi Prysor, a bod ei straeon â mwy o afael.

    Yn sicr, mae ei ail nofel swmpus yn awgrymu hynny.

    "Swmpus," meddais - cyn dweud yn syth na fuasai'r ansoddair yn gymwys petai'r nofel yn cael ei chwynnu o bob rheg - hanner y maint fasa hi wedyn a diau y byddai hynny yn plesio'r math o ddarllenydd oedd yn ffieiddio at Cyw Haul - a byddai'n enghraifft arall o golli'r pwynt yn llwyr.

    Troi'r awyr bob lliw
    Ydi, mae iaith y cywion brith sy'n cael eu darlunio yn Madarch yn ddigon i droi'r awyr yn bob lliw ond y mae hefyd yn rhan o'u cymeriad ac o'r stori - ac y mae yma fwy na iaith fras er ei mwyn ei hun.

    Tydw i ddim yn tybio bod Dewi Prysor eto wedi symud ymlaen o atgynhyrchu iaith yn ffotograffaidd, a gwneud hynny heb golli naws - hwyrach nad yw'n bwriadu gwneud hynny.

    Mae yma ragoriaethau sy'n profi bod gan yr awdur glust amheuthun at rythmau a doniolwch sgwrs naturiol pobl. 'Does ond isio sylwi ar y tamaid sgwrs rhwng Bic a Sbanish i sylweddoli hynny:

    "'TÅ· nain Tintin 'di fancw.....',
    'Naci' meddai Bic. 'Garnedd Dirion 'di hwnna!'
    'Dyna dwi'n ddeud, 'de!'
    ''Di nain Tintin ddim yn byw'n fanna!'
    'Fana oedd hi'n byw, 'de Bic! Cyn iddi farw!'"

    Mae hyn, ac enghreifftiau eraill, yn hollol groes i'r "hiwmor" Noson Lawenaidd sy'n ein harteithio ar S4C - ond mae yn y llyfr fath arall o hiwmor, sydd yn profi fod gan yr awdur fwy na dawn i gofio a chofnodi sgwrs.

    Darllenwch y disgrifiad o Cled a'r Dybyl-Bybyls, a'u hymdrechion i drio cael y fan i gychwyn, am brawf pendant o'i ddawn i greu hiwmor grotesg a gwallgof.

    Gwir ogoniant
    Dyna wir ogoniant Madarch - y modd y mae'r darllenydd yn cael ei gipio ar daith wallgof o un trychineb i'r llall, a rhan o'r gogoniant yw'r llu cymeriadau.

    Yr efeilliaid, Gwynedd a Gwyndaf - y Dybyl Bybyls - ydi'r amlycaf: yn wir, mi fûm yn ymdrechu am hir iawn i gael y gair iawn i ddisgrifio eu stori hwy, sef craidd y llyfr.
    Cyrch? Hynt? Mabinogi?
    Pererindod, hyd yn oed?

    Mae'r elfennau hyn oll yma, a byddai'r Dybyl-Bybyls a'r cymeriadau eraill yn berffaith gartrefol yn un o chwedlau'r Canol Oesoedd.

    Dwi fy hun yn hoff iawn o Dyl Thýd, a'r motif cyson ohono yn gorwedd yn horwth llonydd, meddw tra bo'r holl wallgofrwydd yn digwydd o'i gwmpas.

    A rhaid canmol cymeriadau'r plismyn, hefyd: siŵr bod yna demtasiwn i'w gwneud yn gartwnau cardbord, ond mae Elton Jones a Wynne Pennylove yn gymeriadau crwn - hollol boncyrs, fel pawb yn y llyfr, ond crwn.

    Mae stori
    Mae yma stori, ac i'r sawl sydd eisiau dim mwy na hynny, mae Madarch yn berffaith.

    Ail nofel yw hi, dilyniant, ac mae'n pasio'r prawf o fedru cael ei darllen a'i mwynhau heb i rywun fod yn gyfarwydd â'i rhagflaenydd.

    Mae hefyd yn delynegol, ac yn wleidyddol.
    Cyfuniad od, yn enwedig o gofio'r cyfeiriad at iaith fras a'r diwylliant cyffuriau sydd yn sboncio drwy'r llyfr, ond gwir, serch hynny.

    Hanes pobl yr ymylon sydd yma, efallai, ond maen nhw'n bobl sydd yn bendant ynghlwm â'u tir ac yn ymwybodol o hanes ac o afael y tir hwnnw - a'r bygythiadau sy'n ei wynebu. - yn fwy felly nac unrhyw sylwebydd sy'n siarad drwy'i het wrth rwdlan am iaith fras.


  • Mae'n sôn am:

  • Llenwi bwlch yn y farchnad Gymraeg.
  • Cynnydd yng ngwerthiant nofelau ers cyhoeddi gwaith nofelwyr fel Dewi Prysor a Llwyd Owen.
  • Pwyslais ar fod yn blaen a'i dweud hi fel y mae hi yn onest.
  • Cymeriadau sy'n byw yn y byd go iawn.
  • Trydedd nofel o'r un anian i ddod.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý