±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gohebydd yng Ngheredigion
Newyddiadurwr wedi ei swyno gan newyddiadurwr

  • Adolygiad Glyn Evans o Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr - Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868 gan Dylan Iorwerth. Monograff 2 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. £6.99
  • "Yr oedd gwneud 'Y Gohebydd' yn enw iddo ei hun yn gamp na ennillodd neb arall yng Nghymru. Trwy ymdrech galed y coronwyd ef yn frenin yr holl ohebwyr Cymreig. Yr oedd ei arddull ddigymmhar yn ganlyniad llafur diflino a gwyliadwriaeth ddi-ball."

    Clawr y llyfr

    Felly y dywedodd y Parchedig Job Miles mewn teyrnged i John Griffith a gyhoeddwyd yn Cofiant y Gohebydd, 1906.

    Ac o'r cofiant hwnnw a'i gyflwyniad gan Thomas Gee, buan iawn y gwelir fod 'Y Gohebydd' yn gymeriad go arbennig ar sawl cyfrif.

    Cymaint o wasanaeth
    Yn fwy na newyddiadurwr yn adrodd am ddigwyddiadau o bwys yr oedd a rhan weithredol ynddyn nhw hefyd.

    Yn yr un cofiant, dywed gweinidog arall, Owen Evans, Lerpwl, y "buasai yn drueni dirfawr i gymeriad mor adnabyddus ac enwog - i lenor mor alluog a phoblogaidd - ac i un a wnaeth gymaint o wasanaeth mor werthfawr i'w wlad a'i genedl, gael ei adael heb gofiant teilwng . . ."

    Ond yr oedd hi 25 mlynedd ers ei farw cyn cyhoeddi'r cofiant hwnnw sy'n cynnwys bywgraffiad gan frawd John Griffith, 'sylwadau coffaol' a dyfyniadau o'i newyddiaduraeth - sef llythyrau a sgrifennu i'r Faner a'r rheini'n amlygu'n glir rychwant rhyfeddol ei ddiddordebau a rhywyddineb arddull - hyd yn oed yng ngolwg darllenwyr heddiw.

    Treiddgarwch a hiwmor
    Yn gohebu o Lundain yn bennaf teithiodd Gymru benbaladr hefyd - a gwledydd eraill gan gynnwys yr Unol Daleithiau ac adrodd am yr hyn a welodd gyda threiddgarwch a hiwmor nes ei wneud yn llais yr oedd pobl yn gwrando arno.

    Ar ôl cyfarfod a chusanu llaw Y Pab yn Rhufain "sylwodd ei fod yn edrych yn hen langc lled ddiniwed ac hamddenol, hynod annhebyg i un allai faddeu pechodau neb ar y ddaear hon"!

    Anghydffurfiwr, radical a Rhyddfrydwr pybyr oedd y Gohebydd a'r farn gyffredinol yw mai ei adroddiadau am lecsiwn fawr 1868 yng Ngheredigion oedd cyfraniad mawr ei fywyd a'r gweithgarwch hwnnw yw canolbwynt monograff hynod o ddifyr gan Dylan Iorwerth a gyhoeddir mewn cyfres newydd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.

    Wedi ei hargraffu'n gain Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod Y Flwyddyn Fawr yw'r ail yn y gyfres yn dilyn monograff Pwy Oedd Rhys Gethin? am gadfridog Owain Glyndŵr gan Cledwyn Fychan.

    Cyflwyniad gwiw
    Mae Dylan Iorwerth yn disgrifio John Griffith fel "newyddiadurwr proffesiynol cyntaf Cymru" ac mae ei werthfawrogiad o waith y bachgen a anwyd yn Abermaw yn 1821 ac a gychwynnodd yn groser cyn troi'n newyddiadurwr yn un hael a deallus.
    Yn gyflwyniad gwiw i un o gymeriadau lliwgar a dylanwadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru.

    Mewn byr o le - 64 o ddalennau - mae'n llwyddo'n rhyfeddol i ddarlunio'r cyfnod yn ogystal a rhoi mewn cneuen gymeriad brith trwy ddethol yn ddifyr a darbodus o'r cofiant y mae'n dibynnu'n helaeth arno.

    Etholiad bwlch yn y mur
    Fel y dywedwyd, y cyd-destun penodol ydi Etholiad Cyffredinol 1868. Nid yn unig mae deddf newydd yn rhoi pleidlais i fwy o ddynion ond hefyd mae cynnwrf radicalaidd yn y cerdded Cymru a'r Gohebydd yng nghanol y berw hwnnw yn annog ac yn cymell pleidleiswyr i ymwroli a bwrw pleidlais yn erbyn hen Doriaeth y tirfeddianwyr er gwaethaf y bygythiad i'w tenantiaeth a'u bywoliaeth mewn oes pan oedd pleidlais yn un gyfrinachol.

    Mae Dylan Iorwerth yn disgrifio yr hyn a ddigwyddodd fel "bwlch yn y mur" a oedd yn gam anferth at y Rhyddfrydwyr "yn sgubo'r Torïaid o'r neilltu yng Nghymru" yn 1906.

    Ond beth bynnag a ddywed y llyfrau hanes dywed Dylan Iorwerth fod yn rhaid troi at y Gohebydd "i gael blas go iawn" yr hyn a ddigwyddodd yn enwedig hanes "y gorthrwm" a'r dialedd a ddilynodd 1868 a rhan gwbl ymarferol John Griffith yn galw cynhadledd fawr yn Aberystwyth i drefnu cronfa i'w cynorthwyo.

    "Adrodd stori'r 'gorthrwm' oedd ei gyfraniad mawr . . . dulliau cyfathrebu newydd a dylanwad rhai fel John Griffith oedd wedi sicrhau fod y 'gorthrwm' yn stori, ac yn stori genedlaethol," meddai Dylan Iorwerth.

    Dylanwad y wasg
    "Helpu i drefnu'r gronfa ar gyfer y bobl hyn oedd cyfraniad ymarferol John Griffith, ond trwy ei adroddiadau yn y Faner y cafodd y dylanwad mwyaf," ychwanega.

    Ac fe all fod yn rhyfaint o ryfeddod i ddarllenwyr y wasg Gymraeg heddiw fod iddi, yr adeg hon, gymaint o rym a dylanwad - a darllenwyr!

    Mae Dylan Iorwerth yn gwneud cymwynas â darllenwyr heddiw yn dyfynnu o'r cofiant adroddiad teimladwy a chrefftus Y Gohebydd yn dilyn ymweliad â rhai a ddioddefodd yn dilyn y lecsiwn a hwnnw'n "enghraifft," meddai, "o ohebu modern, cynnil a theimladwy."

    Ac, ydi, y mae'n rhywfaint o syndod mor llyfn yw'r arddull hyd yn oed yn ein golwg ni heddiw.

    Ymddangos yn rhwydd
    Yn ei dydd yr oedd yn arddull a gafodd sylw Owen Evans a Job Miles yn y cofiant hefyd: Llofnod Gohebydd

    "Yr argraph gyffredin ar ei ddarllenwyr oedd fod ei erthyglau wedi eu hysgrifennu gyda'r rhwyddineb mwyaf. O herwydd ystwythder a dillynder ei frawddegau, tybid iddynt gael eu cyfansoddi yn hollol ddidrafferth, a chyda'r cyflymder mwyaf. Ond yr oedd hawsder y darllenydd yn ei waith yn gynnyrch caledwaith yr awdwr," meddai Miles gan ychwanegu fod John Griffith yn sgrifennu pob brawddeg ar lechen gyntaf a'i darllen yn uchel wedyn nes ei chael yn iawn.

    "Nid gormod ganddo fuasai ysgrifenu yr un frawddeg ddwsin o weithiau," meddai.

    Yn 'Gymeriad'
    Yn ychwanegol at ei waith amrywiol - yn gohebu o'r senedd yn Llundain, o'r Unol Daleithiau ac o'r Cyfandir yn ogystal â Chymru - yr oedd Y Gohebydd hefyd yn gymeriad difyr fel person - fel mae sawl disgrifiad o'i ymddygiad yn y cofiant yn dangos.

    Oedd, roedd y llanc a aeth o Abermaw i Langynog ac wedyn i Lundain i gadw siop yn dipyn o bryf ac heb fod yn brin o esgyn i'r llwyfan lle byddai'n gohebu.

    Yr oedd iddo fywyd llawn bwrlwm:

    "Nid oedd Llundain ei hun . . .yn faes digon eang i ysbryd llafurus, diwyd a diflino y Gohebydd . . . byddai yn bresennol ym mhob cyfarfodydd o bwys pa le bynnag, a than ba amgylchiadau bynnag . . . Yr oedd i'w gael un diwrnod yn Llundain; ac os byddai etholiad yn Sir Aberteifi dranoeth , byddai yno; drachefn, clywem ei hanes tuag Abertawe, mewn cyfarfod Cynulleidfaol; yna clywid ef yn pesychu yn Liverpool . . . y nesaf a glywem am dano fyddai ym mhwyllgor Coleg Aberystwyth yn Llundain; ac yn ddiweddarach oddi yno rhedai i eisteddfod Caernarfon, i geisio cadw beirdd mewn trefn . . . yna gwelid ef yn Aberdâr gyda Mr Henry Richards . . . ar ôl hynny . . . yng nghyfarfod mawr addysg Aberystwyth yn gofalu am y trefniadau ac yn areithio; yna disgynnai i Ddinbych, i gyfarfod politicaidd, ac yfai lasied o ddwfr, nes gwefreiddio llonaid ystafell fawr yr Assembly Room gan mor ddoniol y cyflawnai hynny o orchwyl," meddai Thomas Gee amdano yn y cofiant.

    Yr oedd mor holl bresennol y cafodd ei lysenwi'n ddwyieithog, fwys, yn "Pob man" !

    Ei besychiad
    Yn gorffilyn bach gyda barf flêr a thrwchus yr oedd y Gohebydd yr hyn hoffwn ni'r Cymry ei alw'n 'gymeriad' gyda'i besychiad mor adnabyddus a'i ohebiaeth.

    Y Gohebydd

    "Yr oedd ei ymddangosiad, ac yn enwedig ei siarad, yn rhywbeth anhawdd iawn ei ddynodi. Ond yr oedd yn character drwyddo a throsto oll. A pha beth a ddywedaf am ei besychiad? Pwy glybu y fath erioed? A chofier nid oedd yn gyflawn hebddo. Pwy bynnag a'i clywodd yn siarad heb besychu ni chlywodd y Gohebydd yn yr oll ag ydoedd," meddai Job Miles sy'n ei ddisgrifio hefyd fel "un o'r siaradwyr rhyfeddaf a welodd y byd yma erioed."

    Yn gymaint cymeriad dydi rhywun ddim yn synnu darllen iddo gael marwolaeth 'newyddiadurol' gyda 'lein' newyddiadurol iddi - yn cael ei gladdu yr un dydd o'r mis ag y ganwyd ef - 16 Rhagfyr!

    Wedi ei farw cyfansoddodd Joseph Parry anthem goffa iddo "un o'r galarganau mwyaf effeithiol, medd y cerddorion, a feddwn fel gwlad" yn ôl y Cofiant.

    Yn awr 130 o flynyddoedd ers ei farw, yn 1877, wele Dylan Iorwerth yn canu ei glodydd ac ehangu'r wybodaeth amdano. Diolch o galon iddo.

    Newyddiadurwr wedi ei swyno gan newyddiadurwr ac yn ei dro yn ein swyno ninnau i ymserchu ynddo.

    Trueni mewn gwirionedd nad yw cofiant 1906 ond ar gael bellach mewn siopau a ffeiriau llyfrau ail law.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý