±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
I Ddeffro Ysbryd y Wlad
Llyfr am 'Gymro enwocaf America'

Mae Cymro a dreuliodd ddeugain mlynedd yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau yn cael ei gofio mewn llyfr newydd gan Jerry Hunter.

Dywed fod Robert Everett ym narn llawer yn "Gymro enwocaf America".

"Llafuriai dros nifer syfrdanol o achosion," meddai.

Clawr y llyfr Ond yn fwyaf arbennig mae'n cael ei gofio am ei ymgyrch ddi-baid yn erbyn caethwasanaeth Americanaidd.

Traddodwyd darlith ar y pwnc gan Jerry Hunter dan nawdd Undeb Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn ol.

"Am dros 40 mlynedd bu Robert Everett yn taflu'i bwysau moesol a deallus y tu ôl i'r ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth gan ddefnyddio'r pulpud, yr ysgrifbin, y wasg argraffu a'r blaid wleidyddol er mwyn radicaleiddio Cymry America a'u byddino yn erbyn y drefn anfoesol honno," meddai.

Dyma ail gyfrol Jerry Hunter yn ymwneud â hanes yr Unol Daleithiau yn y cyfnod hwn - dewiswyd Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America yn Llyfr y Flwyddyn yn 2004 ac fel ei gyfrol ddiweddaraf, I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Ameicanaidd cyhoeddwyd honno hefyd gan Wasg Carreg Gwalch.

Ond yn ogystal a'i frwydr yn erbyn y drefn oedd yn caniatáu cadw pedair miliwn o bobl dduon yn eiddo i Americanwyr eraill yr oedd y Cymro hwn yn brwydro hefyd "i greu a chynnal traddodiad llenyddol Cymraeg yn yr Unol Daleithiau; achos crefydd ymysg y Cymry, dirwest a hawliau merched."

Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ydi Jerry Hunter ac yn Americanwr o dras. Yn ogystal a'i ddau lyfr 'Americanaidd' cyhoeddodd hefyd Soffestri'r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac a ymddangosodd hefyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn - yn 2001.

  • Bydd noson i ddathlu cyhoeddi ei gyfrol yn yr Ystafell Gynhadledd, Yr Hen Goleg, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor, 10 Hydref 2007 am 7.00 o'r gloch gyda gwrs am Robert Everett gan yr awdur a darlleniadau o gerddi o'i deithiau yn America gan Iwan Llwyd.

    Pris y gyfrol yw £9.95.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý