±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pryfeta
Gormod o gatalogio - ond newydd-deb i'w groesawu

  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Pryfeta gan Tony Bianchi. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2007. Y Lolfa. £8.95. 251 tud.
  • Fel y dywed Harri Pritchard Jones yn ei feirniadaeth eleni, "stori sy'n gafael ac yn cadw diddordeb" yw hanfod nofel dda ac yn ôl yr hyn a nodwyd yn y testunau roedd disgwyl i'r gwaith buddugol fod a "llinyn storïol cryf".

    Sut mae Pryfeta yn ffitio i'r patrwm yna tybed ?

    Clawr y llyfr Yn bendant mae yma stori hunangofiannol ddiddorol am Jim yr entomolegydd sydd hefyd a diddordeb mewn darllen llenyddiaeth, ond sydd braidd yn aflwyddiannus yn ei berthynas a merched, heblaw am ei fam.

    Yn ei ganol oed mae'n ymuno a chwmni eithriadol o od sy'n ymwneud â chymwynasgarwch ac arbrofi ar feddyliau, ac o fewn y gwmnïaeth yma mae'n gallu yn rhannol guddio'i orffennol tryblys.

    Dyna fframwaith y stori, stori sydd felly'n ffitio'n daclus i ofynion y gystadleuaeth eleni ac yn sicr yn faes newydd i'r nofel yng Nghymru. Ond a yw'n cadw diddordeb ?

    Llesteirio diddordeb
    Rhaid cyfaddef i fy niddordeb gael ei lesteirio yn amlach na pheidio gan y rhestru manwl a diddiwedd o bryfetach, ac er y gwneir hynny mewn iaith wyddonol gywir, tybed faint o ddiddordeb sydd gan ddarllenwyr yn y pentwr o enwau a welir yma ?

    Rwy'n sylweddoli mai dianc i fyd y pryfetach mae Jim er mwyn dianc oddi wrth ei fyd cythryblus ac yn yr obsesiwn yna y cawn gyfle i adnabod a cheisio deall cymhlethdod ei gymeriad.

    Defnyddio obsesiwn Jim i geisio profi nad yw popeth fel mae'n ymddangos yw'r bwriad mae'n debyg ond mae'r gorddefnyddio'r manylder am sawl rhywogaeth o bryfetach yn arafu taith y stori mewn sawl man, yn enwedig felly ar ddiwedd y rhan gyntaf..

    Cymeriadu lliwgar
    Cryfder amlwg y gwaith yw'r cymeriadu lliwgar sydd yma, ac mae'r dafodiaith yn cryfhau sawl sefyllfa - yn wir, yn achub ambell un.

    Mae Cerys yr eneth ddall yn gymeriad cryf a phendant ac yn ei dallineb yn gweld a deall mwy na llawer, ac yn sicr mae mam Jim ynghanol ei gwendid atgofus yn dangos cryfder tu hwnt i'w sefyllfa fregus.

    Y defnydd cyfrwys o'r cymeriadau sy'n ein galluogi i ddeall peth ar gymeriad cymhleth Jim, ac yn y fan yna mae crefft y nofelydd yn cael ei amlygu.

    Bywiocach
    Fe gefais ail ran y gyfrol yn llawer iawn bywiocach ac fe lwyddwyd i greu sawl sefyllfa sy'n creu awydd am ddarllen ymlaen, ac mae'n rhaid edmygu coethder y dweud yn y cyfanwaith.

    Methais a gweld pwrpas y lluniau sydd ar sawl tudalen gan nad ydynt yn ychwanegu dim at y cymeriadau na chwaith at rediad y stori gref yma, ond mae'r diweddglo fel y dywed Annes Glyn yn ei beirniadaeth, yn iasol.

    Y gor gatalogeiddio sydd wedi arafu peth ar rediad y nofel i mi, ond mae ei newydd-deb i'w groesawu'n fawr.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Pryfed yn drysu'r beirniaid

  • Adolygiad o Esgyrn Bach, Tony Bianchi

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý