±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cynghorion sgrifennu
Bod yn llenor - cynghorion buddiol i sgrifenwyr
Darllen bob dydd yw un o'r cynghorion i ddarpar sgrifenwyr gan gyfarwyddwr cynorthwyol Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.

Yr oedd Sian Northey yn cynnig ei "chynghorion sgrifennu" ar raglen Siân Thomas ar ±«Óãtv Radio Cymru ddydd Mawrth 11 Medi 2007 ar drothwy cynnal cwrs i sgrifenwyr newydd yn y ganolfan yn NhÅ· Newydd, Llanystumdwy:


  • Darllenwch hynny allwch chi - yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith yr ydych yn ei deall.
    Darllenwch bob math o bethau.

  • Darllenwch gerdd y diwrnod hyd yn oed os nad ydych chi'n barddoni. Wrth ochr y lle chwech ydi un o'r lleoedd gorau i gadw llyfr o gerddi.

  • Trïwch ddarllen stwff na fyddech chi'n ei ddarllen fel arfer. Cymryd llyfr o lyfrgell ar hap a damwain neu brynu llyfr am hanner can ceiniog o siop lyfrau ail law neu siop elusen.

  • Sgwennwch bob dydd. Dywedodd bod ganddi hi lun gartref o gwydryn efo beiro ynddo fo i'w hatgoffa y dylai sgrifennu fod mor naturiol a rheolaidd a brwsio dannedd!

  • Gyrrwch waith i eisteddfodau. "Da ni'n eithriadol o lwcus o steddfodau yng Nghymru gyda chyfle i anfon gwaith i mewn a chael barn rhywun fel Mei Mac, Annes Glynn neu Myrddin ap Dafydd yn rhad ac am ddim - heblaw am y Genedlaethol, ac mae honno'n rhad. Cysylltwch efo Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am fanylion a rhestr testunau.

  • Peidio poeni am sillfau - "Nid dyblu'r 'N' ydi'r peth pwysig ond dychymyg a'r gallu i ddweud stori ac i glywed sŵn iaith. Ond trïwch ffeindio rhyw ffordd o gywiro gwallau cyn gyrru'r stwff allan i'r byd mawr.

    Dwi'n lwcus fod gen i ffrind sy'n fodlon darllen pethau a chywiro sillafu heb fusnesu gormod yn y cynnwys. [Fel arall] rhaid defnyddio geiriadur ac mae angen ei wneud o ran parch at iaith a hefyd, pan ydych chi'n dechrau sgrifennu, dydych chi ddim eisiau pobl yn difetha'ch hyder chi trwy feirniadu sillafu a gramadeg.

    Awgrymodd hefyd, yn naturiol, gwrs yn NhÅ· Newydd.

    Mae Sian Northey yn olygydd casgliad o straeon meicro, Corachod Digartref ac yn awdur casgliad o 13 o straeon byr; Ar y Daith.

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý