±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Prif Weinidog Answyddogol Cymru
Cyfraniad i'r presennol wrth edrych ar un o gymeriadau ddoe

  • Adolygiad Rhys Evans o Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards gan Gwyn Jenkins. Lolfa. £14.95.
  • Dydd o lawen salm oedd y diwrnod hwnnw dro yn ôl pan glywais fod cofiant yn cael ei lunio i Huw T Edwards, un o Gymry pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif ond gŵr a syrthiodd i gors anghofrwydd hanes.

    Bellach, diolch i Gwyn Jenkins, mae'r bwlch hwnnw wedi ei lenwi yn ffurf ei gyfrol ardderchog, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards.

    Mae medru datgan hynny am un o gewri mabwysiedig Sir y Fflint adeg Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn beth amheuthun yn ei hunan ond gwychach fyth yw'r amseru.

    Clawr y llyfr

    Serch bod gan Robat Gruffudd, godfather gwasg y Lolfa enw cwbl haeddiannol am ei allu i lunio stynts llenyddol, go brin y byddai hyd yn oed yntau wedi breuddwydio y medrai ei wasg gyhoeddi cyfrol am wleidydd a adawodd y Blaid Lafur am Blaid Cymru cyn dychwelyd yn ôl i'r gorlan Lafur a hynny y dwthwn hwn pan geir llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd.

    Cryn her

    Rhwng pwysigrwydd y testun a'r amseru roedd yna gryn her yn wynebu Gwyn Jenkins ond fe lwydda'n rhyfeddol o dda i gwrdd â'r gofynion digon llym yma.

    Ar ryw ystyr, ni fedrai Gwyn Jenkins fethu; wedi'r cyfan, gwrthrychau anodd, cnotiog, sy'n gwneud cofiannau da ac roedd Huw T Edwards yn dalp o ddiawlineb egwyddorol.

    Tarddai llawer o'r tân hwnnw o'i fagwraeth neilltuol o anodd gan iddo yntau, chwedl Jim Griffiths, fod 'yn y ffwrn'.

    Fe'i ganed yn 1892 i ganol tlodi enbyd ar dyddyn diarffordd ar lethrau Tal-y-fan gyda'i fam a'i dad yn crafu byw tra'n magu Huw T a'r chwe phlentyn arall.

    Roedd hynny yn ei hunan yn ddigon o bwn ond y digwyddiad allweddol, yn ôl Gwyn Jenkins, oedd marwolaeth mam Huw T ac yntau ond yn wyth oed.

    Mae'n amheus a wnaeth fyth lawn ddygymod â'r golled - a'r gwaddol oedd y tân anniffodd hwnnw a daniodd fywyd cyhoeddus Cymru.

    Fodd bynnag, yn ei arddegau, ymateb anystywallt gafwyd ganddo i golli ei fam ac ymgysurai'n amlach na pheidio mewn diod.

    Parodd yr un anniddigrwydd iddo grwydro cryn dipyn hefyd ac aeth i'r Rhondda i weithio (a bocsio) fel colier cyn listio'n frwdfrydig yn filwr.

    Fe'i clwyfwyd yn arw cyn dychwelyd am y chwareli a'r gymdeithas unigryw Lafurol Gymraeg a geid yno.

    Bwrw angor

    Yna, dyma Huw T yn dechrau bwrw angor gan roi heibio'r allanolion anystywallt ac ymserchu yn y mudiad Llafur gan mai'r mudiad hwnnw, yn anad yr un arall, fe dybiai, a gynigiai achubiaeth i'r gweithiwr cyffredin.

    Gwelai Huw T Edwards dlodi "fel rhwd i haearn" a hyn oedd i gyfrif am yr hyn a wnaeth mor aml, mor ddygn ac mewn cynifer o ystafelloedd myglyd i wella stad y gweithiwr.

    Ond nid sosialaeth oedd yr unig feistres i hudo Huw T. Dadleua Gwyn Jenkins mai yn ystod yr Ail Ryfel Byd y dyfnhaodd cariad Huw T at Gymru ac mai yn y cyfnod hwn y dechreuodd y dilema llwythol hwnnw - bara ynteu'r genedl - frigo i'r wyneb.

    Mae ymdriniaeth Gwyn Jenkins o'r newid hwn yn wirioneddol bwysig, yn enwedig felly yng nghyd-destun Cyngor Cymru - corff a gollfarnwyd yn barhaus gydol y Pumdegau o dan gadeiryddiaeth Huw T Edwards.

    Eto i gyd, roedd methiant y corff yn allweddol yn y cam gweinyddol nesaf sef creu ysgrifenyddiaeth i Gymru. Fel mae'n digwydd, gwrthwynebai Huw T greu'r swydd honno ond mae'n amheus a fyddai'r swydd fyth wedi ei chreu oni bai am fethiant lliwgar Huw T i gael y parch y credai yr oedd ei Gyngor yn ei haeddu.

    Bom!

    Roedd ymddiswyddo mor ddramatig ag y gwnaeth yn 1958 o gadeiryddiaeth y Cyngor yn "fom", chwedl un sylwebydd, o dan wleidyddiaeth Cymru.

    Tebyg oedd yr effaith pan gyhoeddodd Huw T flwyddyn yn ddiweddarach ei fod am gefnogi Plaid Cymru. Erbyn hynny, ystyriai ei ymdrechion i Gymreigio'r Blaid Lafur yn llwch ac yn lludw.

    Mae yna elfen gref o wirionedd yn hynny ond roedd camau dramatig a datgan gwirioneddau o bennau'r tai yn rhan o reddf Huw T. Hoffai wrthdaro creadigol ac anniddig tu hwnt oedd ei orig fer yn rhengoedd Plaid Cymru.

    Yn y bôn, fe hoffai'r syniad o'i hun fel actor-wleidydd boed hynny o fewn undeb, plaid neu fel perchennog Y Faner. Bendith ar Gwyn Jenkins, felly, am danlinellu'r elfen hon o egoistiaeth a oedd yn rhan gyn bwysiced o gynhysgaeth Huw T.

    Erys un cwestiwn, fodd bynnag, i'r adolygydd hwn.
    A oedd Huw T fyth yn haeddu'r teitl carlamus, "Prif Weinidog Answyddogol Cymru"?

    Mewn gair, nac oedd - ddim hyd yn oed pan oedd yn anterth ei alluoedd gan fod yna wleidyddion Cymreig pwysicach a thipyn mwy dylanwadol, boed mewn cyd-destun Cymreig neu mewn cyd-destun Prydeinig.

    Er hynny, ni ddylai hynny dynnu yr un owns oddi ar faint ei gyfraniad. Drwy chwys ei lafur ef, sicrhaodd yntau, ynghyd â dyrnaid o gyd-fforddolion, y byddai'n rhaid i Sosialwyr Cymru gydnabod Cymreictod, costied a gostied.

    Cymwynas

    Mae nodi pwysigrwydd hyn yn gymwynas yn ei hunan ond efallai mai pennaf cyfraniad Gwyn Jenkins yw i'r presennol.

    Er eu pwysiced, bregus a simsan fu cynghreiriau coch-gwyrdd yn y gorffennol ac fel y gŵyr unrhyw beintiwr, lliw brown a geir o'u cymysgu.

    Bellach, mae gan Gymru ei Phrif Weinidiog a'i dirprwy Brif Weinidog swyddogol ei hunan, y naill yn Llafurwr a'r llall yn Blediwr.

    Yr her o flaen y ddeuawd hon fydd sicrhau nad tynged Huw T fydd eu tynged hwy ac nad brown fydd lliw y Bae.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwyn Jenkins yn sgwrsio am ei lyfr

  • Huw T Edwards ar Lleol i Mi


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý