±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tân yn fy Nghalon
Gormod o ddisgwyl am y sbarcs
Adolygiad Gwyn Griffiths o Tân yn fy Nghalon, hunangofiant Hywel Heulyn. Gomer. £7.99.

Wn i ddim ai arnaf i mae'r bai ond fel gyda sawl llyfr Cymraeg y dyddiau hyn yr oeddwn wedi mynd drwy sawl pennod cyn cynhesu at hunangofiant Hywel Heulyn Roberts, Tân yn fy Nghalon.

Yn ddiamau y mae yma dân ond rhaid aros cyn dod at sbarcs!

Clawr y llyfr Un broblem, rwy'n meddwl, yw fod cyfrol o lai na 200 o dudalennau yn annigonol i ddyn a wnaeth gyfraniad mor fawr yn ystod bywyd mor amrywiol, mentrus a diddorol.

Rwy'n amau y bu yna docio di-drugaredd ar adegau er mwyn cadw'r gyfrol o fewn rhyw derfynau neu'i gilydd.

Cawn lu o ffeithiau'n gynnar, a hwyrach i'r ysgafnder fynd ar goll wrth geisio cyfyngu hyd y gyfrol ac rwy'n rhyw amau nad Hywel Heulyn, na Ioan Roberts - a fu'n cynorthwyo i sgrifennu'r gyfrol - na'r cyhoeddwr sydd ar fai am hyn ond y gyfundrefn sy'n cyfyngu ar hyd llyfrau Cymraeg.

Eisiau gwybod mwy
Droeon cefais y teimlad yr hoffwn wybod mwy am rai digwyddiadau. Mae'n sôn am gael ei ryddhau o'r fyddin cyn diwedd ei gyfnod er mwyn mynd yn asiant etholiadol i Ambrose Bebb yng Nghaernarfon. Yna, wedi pum wythnos o weithio etholiadol mae'n dychwelyd i'r fyddin i orffen ei dymor.

Chafodd e ddim bod yn asiant, gyda llaw, am iddo gyrraedd Caernarfon ddeuddydd yn rhy hwyr!

Ond yr hyn garwn i wybod yw beth fu ymateb y fyddin i'r cais am ei ryddhau? Go brin bod y swyddogion y bu'n ymwneud â hwy yn edrych yn garedig iawn ar genedlaetholdeb Cymreig!
Eto, pwy ŵyr?

Magu yn Lerpwl
Mae Hywel Heulyn yn ddyn o hyder a dewrder arbennig ac yn ddiau mae a wnelo'i fagwraeth yn un o Gymry Lerpwl lawer â hyn.

Yn sicr, pan ddaw maes o law i fyw i fro enedigol ei wraig - Synod Inn - fe'i cawn yn feirniadol o ddiffyg asgwrn cefn ei genedl.

Beth bynnag, daw i Sir Aberteifi lle mae'n derbyn swydd gyda Silcocks yn gwerthu bwyd anifeiliaid ar gomisiwn, ond er yn yrfa hytrach yn ansicr mae'n llwyddo'n iawn.

Mae'n cynnig am sedd ar Gyngor Sir Aberteifi a chael ei ethol - wedi sefyll fel yn annibynnol er ei fod yn aelod amlwg o Blaid Cymru.

Fan yma mae'r gyfrol yn tanio, gyda'i ddisgrifiadau o rai o'i gyd-aelodau yn ddifyr a diddorol - heb sôn am y swyddogion.

Y Cynghorydd Josiah Jones yn cynghori rhyw Saeson nad oeddynt yn cytuno â dull y Cymry brodorol o drin pethau i'w baglu hi nôl dros Glawdd Offa.
Beth pe byddai cynghorydd yn dweud hynny heddiw?

Y Cynghorydd Morgan Davies, Pont Llanio, hen lanc, yn ymbil dros gadw'r ysgol gynradd leol yn agored. "Keep it open for another two years and I guarantee to double the school population," meddai, a phawb yn eu dyblau.

Yn gadeirydd
Mae Hywel Heulyn yn dringo ysgol llywodraeth leol a phan ddaw ad-drefnu 1974 ef sy'n cael ei ethol yn gadeirydd Cyngor Dyfed - clamp o anrhydedd ac yntau'n un o gynghorwyr y lleiaf o'r tair hen sir a unwyd i greu y sir newydd.

Bu'n ffermio a threuliodd gyfnod yn gweithio'n amser llawn i Blaid Cymru ac yn sgil hynny cawn hanes cynnwrf rhai o'r is-etholiadau hanesyddol - mwy nag un yng Nghaerfyrddin gan gynnwys un 1966 wrth reswm. A'r Rhondda wedyn.

Ymladdodd etholiadau ei hun dros y Blaid, hefyd ond mewn llywodraeth leol y gwnaeth ei farc ac y mae ei hanesion yn ymwneud â'r theatr, Opera Genedlaethol Cymru, y Cyngor Chwaraeon, Cymdeithas Cynghorau Sir Cymru a Lloegr a Phwyllgor Cynghorau Sir Cymru yn wirioneddol ddiddorol.

Cafodd ergydion personol caled, colli Rhian, un o'i ferched a hithau'n dal yn gymharol ifanc, a cholli wyres, Gwen, yn 16 oed. Wedyn colli ei wraig yn 2004.

'Tân yn Llŷn'
At y 'Tân yn Llŷn' y cyfeiria'r teitl ac yntau'n sôn am yr iâs a'r cynnwrf o fod ar ei wyliau gyda'i Nain ym Mhwllheli pan losgwyd yr ysgol fomio ddiwedd haf 1936 gan Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine.

A'r tân hwnnw, meddai, a daniodd ei genedlaetholdeb a'i ysbrydoli i ddod i fyw yng Nghymru ryw ddydd a gweithio trosti.

Fel yr awgrymais, teimlaf fod yma ormod i'w wasgu i un gyfrol fer ond serch hynny; diolch amdani gan fod yma lwyth o ddeunydd hanesyddol diddorol a gwerthfawr - ond buasai wedi bod ar ei hennill o roi mwy o raff i'r awdur a'i gynorthwywr.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý