±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Helygen Gam
Gwaredu at iaith plant
  • Adolygiad Meg Elis o Yr Helygen Gam gan John Roberts. Gwasg y Bwthyn. £6.00.


  • Bu ymateb i'r adolygiad hwn ar Taro'r Post, ±«Óãtv Radio Cymru, Mehefin 29, 2007. Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd yr adolygiad.

    Dau brif bryder oedd gen i wrth ddod at y llyfr hwn o storiâu byrion.
    Yn gyntaf, doedd arna'i ddim eisiau bod yn gas, hyd yn oed pe na bai'r storiâu at fy nant: mae gwahaniaeth rhwng gonestrwydd a sbeit, wedi'r cyfan.

    Yn nes ymlaen y cododd yr ail bryder: fyddwn i'n gor-ganmol?

    Clawr y llyfr Mae cysylltiad rhwng y ddau, coeliwch neu beidio. Does dim cyfrinach am oedran yr awdur - mae dros ei ddeg a phedwar ugain. Roedd arna'i felly dipyn o ofn dod wyneb yn wyneb ag ysgrifennu na fyddai'n siarad â 'nghenhedlaeth i, heb sôn am genedlaethau iau.

    Ac ni wnaeth dechrau gyda'r stori gyntaf, a darllen am "was bach", "posal llaeth", a lleoliad amaethyddol fawr ddim i liniaru'r pryder.

    Gwaith gwahanol iawn
    Pam y perygl i mi or-ganmol, felly?
    Digwydd gorfod darllen gwaith gwahanol iawn, gan ysgrifenwyr o genhedlaeth hollol wahanol, dyna beth wnaeth o.

    Heb fanylu gormod, papurau arholiad safon AS oedd y deunydd darllen, felly sôn yr ydan ni am bobl ifanc dwy ar bymtheg oed yn fras. Os bu unrhyw beth mwy tebygol i 'ngyrru ffwl-pelt at sgwennwr hŷn, dyma fo.

    Ar ôl treulio oriau yn darllen gwaith pobl yr oedd elfennau symlaf gramadeg a threiglo yn ddirgelion annirnadwy iddynt, roedd Yr Helygen Gam yn chwa o awyr iach.

    Cawn ddianc o ymgodymu â thruth ar ôl truth na ddangosai eu hawduron unrhyw ymwybyddiaeth o amseroedd berfau, heb sôn am allu i'w defnyddio, at waith llenor oedd yn meddu ar y crebwyll hwnnw.

    Yr oeddwn yn dal yn weddol sicr y deuwn ar draws pethau i'w beirniadu yn storiâu John Roberts - ond o leiaf gall yr awdur lunio brawddeg ddealladwy.

    Mater o gyfleu neges
    Cyn i neb ddadlau fy mod yn cymharu dau beth na ddylid eu cymharu, ga'i daro'r ddadl honno ar ei phen?
    Mater yw hyn o gyfleu eich neges - boed hynny yn waith creadigol, yn daflen o gyfarwyddiadau, neu yn gwestiwn arholiad. Ac y mae John Roberts yn gallu cyfleu neges.

    Daw o genhedlaeth sicr ei gafael ar iaith, debyg iawn - ond nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i greu llenor. Mae'n gallu trin geiriau - peth oedd yn druenus o absennol yng ngwaith y disgyblion a welais i ( ac, ymhlyg yn hynny, eu hathrawon).

    Ac fe all yr awdur hwn hefyd ddweud stori, a deall y ddynol natur. Nid mater o oed nac addysg mo hyn o gwbl: dawn ydyw, ac y mae'r doniau hyn gan John Roberts.

    Troadau dirgel natur dyn
    Adnabyddiaeth o droadau dirgel natur dyn sydd, i mi, yn achub stori Yr Helygen gam.

    Fel y dywedais eisoes, doedd y cefndir ddim yn apelio ond mae'r themâu yn oesol, a'r ymdriniaeth yn sensitif tu hwnt.

    Mae'r un sensitifrwydd i'w weld mewn storiâu megis Bill a'r Cortyn Beindar - yn ogystal â'r elfen iasoer yr ymddengys bod John Roberts yn gryn feistr arni. Os am batrwm o'r elfen hon, darllenwch Yn y Stafell Frown - campwaith o stori.

    Cychwyn da
    Pethau eithaf syml, felly.
    Dawn dweud, deall mecanwaith sylfaenol iaith, clust at y rhythmau.
    Y man cychwyn - ac o gychwyn da, cerddodd yr awdur ymhell ar y daith tuag at roi pleser llenyddol.

    Ond am y genhedlaeth iau?
    Rydw i'n cyffredinoli, mi wn - ond nid yn ormodol. O dystiolaeth lethol y dyddiau hyn, nid yn unig y mae ein pobl sydd yn eu harddegau a'u hugeiniau (cynnyrch y Shambo cyfoes, addysg Gymraeg) heb gyrraedd y man cychwyn - tydyn nhw ddim hyd yn oed yn wynebu i'r cyfeiriad iawn.


  • Pwnc trafod
    Bu'r adolygiad hwn yn bwnc trafod ar y rhaglen radio Taro'r Post gyda Dylan Jones ddydd Gwener, Mehefin 29, 2007 lle cafodd Meg Elis gyfle i ymhelaethu gyda Rhys Williams o NUT Cymru a Heather Gregory, mam a chyn athrawes, yn ymateb.

    Cafwyd cyfrnaiad dros y teleffon gan Geraint Roberts o Ddinbych a Geraint Roberts, arall, prifathro Ysgol y Strade yn Llanelli.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý