±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Nabod y Teip
Detholiad o grefft y meistr
  • Adolygiad Gwilym Owen o Nabod y Teip gan Dylan Iorwerth. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50.


  • Does yna bellach ddim prinder pobl yn y Gymru Gymraeg sy'n barod i honni eu bod yn 'newyddiadurwyr'.

    Mae'r teitl yn cael ei ddefnyddio gan bob Tom, Dic a Harri bach - a'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi treulio blynyddoedd yn dilyn cyrsiau ceiniog a dimai yn un o'r tyrau ifori a elwir yn Goleg.

    Clawr y llyfr Ond y gwir plaen amdani yw; mae gwir newyddiadurwyr yn dal mor brin ag aur pur Meirionnydd yn yr hen wlad fach yma.

    Ond un o'r bobl hynny yn sicr yw Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr y cylchgrawn Golwg, ac mae ei gyfrol newydd, Nabod y Teip yn brawf pendant o hynny.

    Casgliad yw o'i golofnau dros yr ugain mlynedd diwethaf i'r Western Mail, y papur bro, Clonc ac Yr Ymofynnydd, papur newydd yr Undodiaid.
    Ac mae'n gynhaeaf ardderchog.

    Wrth fynd ati i gribinio drwy'r wasg Gymraeg yn wythnosol ers bron i bymtheng mlynedd ar gyfer Radio Cymru mae'n destun syndod parhaus i mi sut y mae Dylan Iorwerth yn llwyddo i daro deuddeg bron bob tro y mae'n rhoi pin ar bapur - neu sut bynnag y mae o'n mynd ati i saernïo ei golofnau.

    Wrth gwrs, mae ganddo fantais fawr ar y mwyafrif ohonom ac yntau wedi ei ddonio â thalentau y llenor a'r bardd yn ogystal â dawn y newyddiadurwr sy'n adnabod stori a sut i'w chyflwyno i'w ddarllenwyr.

    Mae darllen y gyfrol hon yn arddangos pob agwedd o'i gyfoeth gan fod yma gymysgedd o'r trist a'r llawen, cefnogaeth a beirniadaeth, sinigiaeth a chydymdeimlad. Y mae yma dystiolaeth o'i allu i ddadansoddi'n gadarn, annibynnol, ac o ymgolli'n llwyr mewn emosiwn teimladwy.

    Dyna sy'n rhoi inni gasgliad o gynnyrch sy'n llwyddo i roi darlun byw o fywyd drwy lygad newyddiadurol dros gyfnod o ddau ddegawd.

    Afraid fyddai mynd ati i ddewis a dethol o blith yr holl golofnau hyn ac wrth gwrs mae yna ambell un ble mae hyd yn oed yr arbenigwr hwn yn ei faes wedi methu â tharo deuddeg - ond achlysuron prin iawn yw y rheini.

    Mae Nabod y Teip yn gyhoeddiad y byddwn i yn ei gorfodi ar fyfyrwyr pob cwrs newyddiadurol yn yr iaith Gymraeg gan y byddai darllen gwaith y meistr hwn yn agoriad llygad i bob darpar newyddiadurwr ac yn gwneud iddyn nhw ystyried o ddifrif a oes ganddyn nhw y cymwysterau i'w paratoi eu hunain ar gyfer y proffesiwn.

    Yn y gyfrol mae Dylan Iorwerth yn gosod y safon uchaf bosibl ac yn profi'n glir nad rhywbeth ffwrdd a hi ydi dawn ysgrifennu yr hac go iawn.

    Mae'r awdur yn unigolyn unigryw sydd wedi dewis aredig ei gŵys ei hun mewn maes dieithr i ddeallusion y Gymru Gymraeg.

    Wrth gwrs, mae llawer o'r rheini wedi credu dros y blynyddoedd eu bod nhw â'r hawl i'w galw eu hunain yn 'newyddiadurwyr' am eu bod wedi cyfrannu colofnau i'r wasg Gymraeg.

    Ond propagandwyr yw y rheini, heb enwi neb.

    Mae colofnau newyddiadurol yn bethau cwbl wahanol ac mi fentrwn i awgrymu mai awdur Nabod y Teip ydi'r arweinydd yn y maes. Ewch, prynwch a mwynhewch a mawrygwch y welir rhwng y cloriau.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý