±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Arwisgo
Cynnwrf y Chwedegau
  • Adolygiad Bethan Wyn o Yr Arwisgo gan Sonia Edwards. Cyfres Fy Hanes i, Gwasg Gomer. £4.99.


  • Mae 'na rywbeth am angerdd, hyfdra a diniweidrwydd cenhedlaeth y Chwedegau a chyffro'r cyfnod sydd wedi cydio yn fy nychymyg i.

    Fallai mai wedi treulio gormod o amser yng nghwmni hen rebals ydw i yn sôn am y 'dyddia da' pan oedd peint o gwrw'n costio dau swllt a Chymru'n ennill gêm rygbi bob wip stitsh.

    Neu 'fallai mai cenfigen plentyn Thatcher sy'n fy nghnoi am na ches i flasu'r don o ysbrydoliaeth a'u sbardunodd nhw i gicio yn erbyn y tresi a theimlo y gallan nhw newid y byd hefo pot o baent gwyrdd a brwsh.

    Clawr y llyfr O ganlyniad i hyn, roedd cynsail Yr Arwisgo - nofel ddiweddaraf Sonia Edwards - yn apelio ata i.

    Nofel fer yw hi ar ffurf dyddiadur merch ifanc o'r cyfnod ac mae'n rhan o gyfres Fy Hanes i Gwasg Gomer ar gyfer pobl ifanc.

    Mae'r gyfrol hon yn mynd ati i bortreadu cyfnod cythryblus y misoedd cyn seremoni arwisgo'r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon a hynny drwy lygaid Sara Harries - merch sydd â thân yn ei bol dros ei hiaith ac yn ferch i blismon.

    Tyndra dwys
    Yn y berthynas rhwng y ferch a'i thad cawn gipolwg ar y tyndra dwys oedd yn bodoli yng Nghymru'r Chwedegau a'r ffordd y cyrhaeddodd ei anterth yn 1969 cyn yr Arwisgo.

    Sara ar un pegwn yn ysu am gael torri allan o focs ei phlentyndod a chodi ei llais a'i thad ar y pegwn arall yn mynnu'n chwyrn bod ei ferch yn "rhoi gorau i'r syniadau Welsh Nash 'ma".

    Dengys y nofel gymhlethdod y sefyllfa fel mwy na gwrthdaro rhwng y cenedlaethau gan fod yma gyffwrdd â phenbleth rhai o'r genhedlaeth hŷn sy'n rhannu daliadau Sara yn ddistaw bach ond yn "ofn y canlyniadau" - ofn pechu'r mistar, ofn colli cwsmeriaeth.

    Clywn sôn am weithwyr yn ymddiswyddo am iddyn nhw gael eu gwahardd rhag ateb y ffôn yn Gymraeg a phobl Caernarfon yn rhegi protestwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith.

    Cawn gip hefyd ar y gwrthdaro rhwng carfannau eithafol a heddychlon y cenedlaetholwyr a deuoliaeth Eisteddfod yr Urdd yn cadeirio bardd am gerddi gwrth-Brydeinig ar y naill law ond yn croesawu'r Tywysog i'r maes ar y llall.

    Drwgdeimlad
    Ond efallai mai'r wers bwysicaf yma i ddarllenwyr ifainc yw nad oedd Cymru'n wlad ddwyieithog tan yn ddiweddar.

    Yn yr oes hon o ddwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg a Deddf Iaith, mae'n hawdd anghofio am wrthdaro a brwydro'r gorffennol ac yn fwy byth mai Cymry Cymraeg oedd rhai o wrthwynebwyr ffyrnicaf y frwydr dros statws y Gymraeg.

    Gwelwn yma'r drwgdeimlad oedd yn codi'i ben rhwng cymdogion, cydweithwyr a hyd yn oed o fewn yr un teulu.

    Mae cyfeiriadau at fywyd y cyfnod yn britho'r tudalennau a dim ond weithiau maen nhw'n teimlo mor fwriadol ag i amharu ar ddilysrwydd y dyddiadur.

    Ar y cyfan maen nhw'n helpu i'n tynnu ni'n gelfydd i mewn i gyffro a miri'r ychydig fisoedd cynhyrfus hyn wrth i ni ddilyn hynt Sara.

    Yn sgîl ei pherthynas â Gwil, mab y Gweinidog, caiff Sara ei thywys i fyd lliwgar y protestwyr ifanc ac yn ogystal â rhannu'r wefr, caiff hefyd weld nad yw pethau'n fêl i gyd.

    Disgrifio a chymeriadu
    Mae yma ddisgrifio a chymeriadu gwych, yn arbennig y paratoi a'r cynnwrf cyn y brotest yng Nghaernarfon.

    "Cyrraedd Caernarfon mewn môr o chwerthin a chadw reiat a chael andros o drafferth cael hyd i le parcio. Welais i erioed gymaint o bobl. Roedd y cei dan ei sang. Cannoedd o brotestwyr a baneri ac arwyddion wedi eu dal yn uchel. Roedd yr awyrgylch yn drydanol..."

    Byddwn i wedi mwynhau cael fy nhynnu'n ddyfnach i mewn i'r byd yma - y dadlau tanbaid dros beint a'r trefnu a'r paratoi yn y digs - ond wedyn mae'n debyg nad nofel drwy lygaid merch ysgol fyddai honno.

    Yn fyw
    Fel adnodd addysgol mae'r nofel yn llwyddo heb os nac oni bai, a hynny drwy ddod â holl gyffro a thensiwn y cyfnod yn fyw i fyfyrwyr ysgol sydd, o bosib, yn fwy gwerthfawr na llyfr hanes neu ddarlith.

    Mae yma ddyfyniadau o ffynonellau cynradd, lluniau o'r cyfnod a chyfeiriadau at ddigwyddiadau go iawn sy'n gosod yr hanes yn ei gyd-destun ac yn rhoi darlun cliriach, ym meddyliau'r darllenwyr, o'r digwyddiadau.

    Er hyn, rhaid cofio nad yw'r nofel yn ffynhonnell hanesyddol gynradd ac mai o safbwynt un ochr yn unig y caiff yr hanes ei adrodd. o'r digwyddiadau o'r digwyddiadau Nofel i bobl ifanc...?
    Dwi'n rhyw amau hefyd na fydd pleser i'w gael yn ei thudalennau i ambell un 'chydig bach hÅ·n hefyd, nid cymaint oherwydd dwyster y dweud neu gymhlethdod y plot, ond oherwydd y ffordd gelfydd mae hi'n llwyddo i'n tynnu ni i mewn i fyd y cymeriadau - byd y sgert fer, y polo nec, y bouffant a'r seidis.
    On'd doedden nhw'n ddyddia da?
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý