±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Anodd Credu
Geiriau doetha difyr meddyg dinas o'r wlad
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Anodd Credu: Hunangofiant Meddyg gan Joshua Gerwyn Elias. Y Lolfa. £8.95.


  • Fe'i darllenais mewn prynhawn heb godi o'r gadair - sy'n golygu dau beth:
    Nid yw Anodd Credu yn gyfrol hir, ac y mae'n ddifyr.

    Mae yma dristwch a doniolwch, ambell bwt o athronyddu a gair neu ddau o gyngor meddygol gwerthfawr i'r rhai hynny ohonom sy'n cymryd pethau o'r fath o ddifri.

    Clawr y llyfr Mae yma lu straeon da a dywediadau bachog dyn a'i wreiddiau'n wlad er mai yng Nghaerdydd a Phenarth y bu'n gweithio.

    Dyna'r dyfyniadau o ddoethinebau arbenigwr yn Ysbyty Llandochau - "Mae'n neis bod yn bwysig, ond mae'n fwy pwysig bod yn neis!"

    Ac eto gan yr un meddyg - "Mae pensaer yn cuddio'i gamgymeriadau â iorwg, arlunydd yn eu cuddio â phaent a meddyg yn eu cuddio â phridd!"

    Bore cyntaf
    A'r stori anfarwol amdano'n feddyg ifanc ar ei fore cyntaf yn hen Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd.
    Aeth am sgwrs â dwy hen ferch drwm eu clyw, 80 oed, yn y gwelyâu nesa at ei gilydd.

    Wrth iddo gerdded i ffwrdd clywodd un yn dweud wrth y llall: "Gall hwnna roi ei slippers dan fy ngwely i unrhyw bryd!"

    Penodi yn y Cymoedd
    Stori arall sy'n taro nodyn cyfarwydd gydag unrhyw un a pheth gwybodaeth o lywodraeth leol yn y Cymoedd yw honno amdano'n cael cynnig swydd yn hen Ysbyty Dwyrain Morgannwg - un arall sydd wedi cau bellach.

    Aeth i weld yr arbenigwr ac wedi sgwrs hanner awr, dywedodd hwnnw wrtho fod y swydd ar ei gyfer os oedd e ei heisiau - ond y byddai'n rhaid mynd drwy gyfweliad gyda phwyllgor penodi'r ysbyty. Ond fyddai hynny ddim problem.

    Sut hynny, holodd Dr Elias ac eglurodd yr arbenigwr y byddai'n dewis dau ymgeisydd i'w cyfweld, y gorau a'r salaf, ond y byddai'n mynd i'r cyfweliad ei hunan - rhag ofn.

    A dywedodd stori am y tro y bu i'r pwyllgor - yn ei absenoldeb - ddewis y salaf o'r ddau ymgeisydd. Yr oedd gan y gorau radd MD, uwch radd mewn meddygaeth ond gan y salaf roedd y radd isaf bosib, LMSSA (nad yw'n bod bellach).

    Penodwyd y salaf, am fod mwy o lythrennau yn LMSSA nag yn MD!

    Plentyndod
    Yr un mor ddifyr yw hanes ei blentyndod er gwaethaf achos yr atal dweud, nam fu'n achos iddo ddewis mynd yn feddyg teulu yn hytrach na gyrfa fwy disglair yn llawfeddyg.

    Cawn ef yn trafod ewthanasia, y defnydd o hypnosis, yr effeithiau seicolegol arno ef ei hun o'r ddamwain a achosodd yr atal dweud, gorfod mynd i ysbyty'n blentyn bach a fawr o amser i'w rieni fynd i ymweld ag e.

    Hanes ei fagu ar fferm chwaer ei fam-gu ar ochr ei dad - ysgytwad seicolegol arall - a bywyd digon caled yn gorfod gwneud ei ran o waith y fferm.

    Gall llawer ohonom uniaethu â'r profiad hwnnw.

    Ond 'doedd dim yn mynd i lesteirio disgleirdeb y bachgen.

    Ystwyth a di-lol
    Diolch iddo am roi'r cyfan i ni mewn Cymraeg ystwyth, ddi-lol, yn gyforiog o dermau meddygol a garddwriaethol Cymraeg.

    Nid yw'n syndod canfod ei fod o linach teulu'r Cilie - un o hil Esther, ei fam-gu ar ochr ei fam. A chawn soned grefftus i danlinellu'r ffaith ac yn ddiweddglo hyfryd i'r llyfr.

    Ni chefais gymaint o fwynhad o unrhyw lyfr ers blynyddoedd.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý