±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Merched Gwyllt Cymru
Dod a thebyg ac annhebyg at ei gilydd
  • Adolygiad Lowri Roberts o Merched Gwyllt Cymru / Wild Welsh Women gan Beryl H. Griffiths. Gwasg Gwynedd. £7.95.


  • Yn draddodiadol, hyd y gwelaf i, rhywbeth gwrywaidd a macho yw ein gorffennol.
    Dynion yn cofnodi gorchestion, gwrhydri a dewrder eu cyd-ddynion.

    Clawr y llyfr Gerallt Gymro, Sieffre o Fynwy, Aneurin, Taliesin, enwau sydd mor gyfarwydd i ni heddiw â'r gwŷr a gafodd eu hanfarwoli ganddynt.

    Ond beth am y merched?

    Ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn y mae'r gyfrol Merched Gwyllt Cymru a braf iawn oedd cael darllen cyfrol sydd wedi ei neilltuo yn llwyr i ferched Cymru.

    Ond nid unrhyw ferched mo'r rhain, cofiwch. Fel y tystia Bethan Gwanas yn ei rhagair, merched yw'r rhain "sydd â thipyn o dân yn perthyn iddyn nhw".

    Sadlau yn dilyn
    Wrth gyhoeddi cyfrol fel hon mae'n anorfod y bydd yna drafod a dadlau yn dilyn.

    Beirniadaeth o du rhai carfannau am beidio â chynnwys ambell i wraig. Ac anghrediniaeth ymysg eraill fod unigolion llai amlwg wedi eu hystyried.

    Yn hynny o beth mae Bethan Gwanas yn achub cam yr awdur cyn cychwyn trwy esbonio'r canllawiau ar gyfer dewis.

  • Rhaid oedd i'r gwragedd fod yn farw.
  • Roedd cysylltiadau cryf â Chymru yn hanfodol.
  • A'r maen prawf olaf oedd eu bod nhw, yn eu ffyrdd dihafal eu hunain, wedi herio trefn cymdeithas ar y pryd.
    Fyddech chi'n sicr ddim am ddadlau â'r criw yma!

    Cymraeg a Saesneg
    Cyfrol ddwyieithog yw hi - y Gymraeg yn dilyn y Saesneg. Yn bersonol byddai argraffu'r hanesion gefn wrth gefn yn hytrach na fesul tudalen wedi hwyluso'r darllen.

    Dan y drefn bresennol mae i gymharu'r straeon wrth fynd ymlaen. Ond efallai bod hynny yn fai arnaf i yn hytrach nag ar y diwyg.

    Lladron ac emynwyr
    Ceir yma ystod eang o gymeriadau - yn wrachod a breninesau, beirdd a reslwyr, lladron ac emynwyr!

    Rhaid cyfaddef nad oedd enwau pob un o'r merched yn gyfarwydd imi.
    Mae pawb decini wedi clywed am Blodeuwedd, Siwan ac Ann Griffiths - ond beth am Alabina Wood, Eleanor Butler neu Sarah Ponsonby?

    Credwch chi fi, mae yna lawer i'w ddysgu rhwng y cloriau lliwgar yma!

    Paris Hilton ei dydd
    Un o'r enwau anghyfarwydd imi oedd Catrin o Ferain a ddisgrifir gan Beryl Griffiths fel Paris Hilton neu Liz Taylor ei dydd.

    Yn ddisgynnydd uniongyrchol Brenin Harri VII roedd meibion prif deuluoedd y gogledd yn ymladd am yr hawl i'w phriodi.

    Yn wir, cymaint oedd ei hanlwc fel y bu iddi briodi bedair gwaith i gyd - sy'n esbonio'r gymhariaeth â Liz Taylor.

    Beryl H Griffiths Mae un hanesyn yn sôn am y modd y bu i Morus Wynn o Wydir ei gofyn i'w briodi wrth iddi ddychwelyd adref o angladd ei gŵr cyntaf - gweithred braidd yn ansensitif ynddo'i hun fel y mae Beryl Griffiths yn cyfaddef.

    Ond mae'n debyg iddi hithau ei ateb trwy ddweud ei fod yn rhy hwyr am ei bod wedi cytuno i briodi Richard Clwch ar y ffordd i'r angladd!

    Llyfr hanes yw Merched Gwyllt Cymru yn y bôn sydd wedi ei gyflwyno mewn arddull storïol, hawdd iawn ei ddarllen.

    Mae'n ffynhonnell addysgol werthfawr i athrawon, rhieni a disgyblion sydd am ddysgu mwy am eu cyn-neiniau!
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý