±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blaenau Ffestiniog
Priodas gair a llun
  • Adolygiad Rhian Price o Blaenau Ffestiniog gan Gwyn Thomas a Jeremy Moore. Gomer. £19.99


  • Atgof plentyn yn unig sy' gen i o Flaenau Ffestiniog wedi ymweliad teuluol â'r Gloddfa Ganol fwy na 30 mlynedd yn ôl.

    Mae'n rhaid cyfaddef na wnaeth yr ymweliad hwnnw fawr o argraff arna'i, a dydw i 'rioed wedi cael ysfa i ddychwelyd, er mae'n amlwg o wylio a gwrando ar raglenni teledu a radio Cymraeg bod y lle'n llawn cymeriad a chymeriadau difyr.

    Clawr y llyfr Braf felly oedd cael golwg newydd ar y dref trwy gyfrwng y lluniau a'r cerddi yng nghyfrol ddeniadol Blaenau Ffestiniog gan Wasg Gomer.

    Jeremy Moore, un o brif ffotograffwyr y tirlun Cymreig, sy'n gyfrifol am y delweddau a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas, yw awdur y pytiau sy'n cyd-fynd â nhw.

    Y bardd o 'Stiniog oedd y dewis amlwg ar gyfer ymarfer o'r fath ac nid yn unig am ei fod yn un o feibion amlyca'r ardal.

    Ef a fathodd y term llunyddiaeth am y grefft o briodi llun a gair ac mae 'na seiliau cadarn i'r uniad yn yr achos hwn.

    Hiraethu
    Mae lluniau Jeremy Moore yn rhagorol, ond mae'n rhaid cyfaddef mai'r delweddau hyll, ar yr olwg gyntaf, sy'n apelio ata' i fwyaf.

    Rhai am eu bod yn hiraethu am oes a fu - cymrwch y llun o'r hen adeiladau sinc ar y Stryd Fawr, er enghraifft, neu dristwch cyflwr hen waith Maenofferen 'a fu unwaith / yn befr o brysurdeb'.

    Mae lluniau eraill, wedyn, yn denu am eu bod yn cynnig gobaith yng nghanol anobaith, fel yr un o redynen unig ar lawr hen waith Llechwedd. Fel y dywed y bardd:
    'Ond o'r dinistr a fu yn y graig yn ddigrugaredd
    Y mae dalennau tyner o wyrddni
    Yn tyfu trwy rym y caledi:
    Dyma inni redyn anhydyn bywyd.'

    Er cystal eu cyfansoddiad a hudolus y golygfeydd, fe allai'r lluniau o Foel Siabod, Dyffryn Maentwrog a'r machlud haul dros Lyn y Manod, fod wedi eu tynnu yn unman.

    Mwy diddorol o lawer yw'r ddelwedd o Inclen y Graig Ddu, lle mae'r llechi porffor a goleuadau'r dref bron a diflannu'n llwyr yn nüwch y mynydd.

    Y llun o ffens llechi yn igam-ogamu ar draws Dolrhedyn fel dannedd yn pydru yng ngheg rhyw gawr neu fwystfil.

    Mawr a bygythiol
    Neu'r llun sydd ar y clawr o Domen Fawr yr Oclis, a saif yn fawr ac yn fygythiol uwchben y rhesi o dai teras, gan awgrymu'n gryf mai dros dro yn unig y mae buddugoliaeth dyn dros natur.

    Gan mai ffotograffydd tirlun yw Jeremy Moore, does dim pobol yn y lluniau ond eto mae eu holion ym mhobman a'r delweddau'n ddirdynnol ar brydiau.

    Cymrwch y pâr o fenig segur ar dop pentwr o lechi, a darllenwch geiriau'r bardd, o gofio'r newyddion diweddar fod cwmni McAlpine am ddiswyddo 104 o weithwyr ym Mlaenau.

    Mae'e menyg, meddai,
    'Yn arwyddion o ddwylo
    Nad ydyn nhw bellach yno -
    Am ryw hyd neu, o bosib, am byth.'

    Cariad ac edmygedd
    Mae cariad Gwyn Thomas at ei fro enedigol, a'i edmygedd o'r rhai a fu'n crafu bywoliaeth 'yn llymder yr ucheldir hwn', yn amlwg.

    Ac mae o am rannu rhyfeddodau'r ardal a ninnau'r darllenwyr a chadw'r cof 'am rai o'n cyd-feidrolion' yn fyw.

    Mae cynhesrwydd yn treiddio trwy'r gerdd, 'Taclus Iawn' am ddarn o dir yng Nghwmorthin ...

    'Y bu rhywrai yn falch ohono
    I gadw dafad neu ddwy,
    Moch, efallai, a ieir
    I helpu i gadw cnawd ac enaid ynghyd.'

    Edrychaf ymlaen at fynd i'r Blaenau ryw ddydd ac eistedd ar Ben Carreg Defaid wrth feini sydd ag enwau arnynt ...
    'Carreg Geffyl, Carreg Eliffant,
    Enwau sydd, i rai ohonom ni,
    Yn atgyfodi inni
    Y byd a fu, a ninnau'n blant.'

    Mae hynny'n siŵr o wneud argraff arna'i.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwyn Thomas


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý