±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Awen Anhygoel Arwel
Chydig o chwerthin - llawer o flas sur
  • Adolygiad Eiry Miles o Awen Anhygoel Arwel gan Arwel Jones. Gwasg Carreg Gwalch. Pris: £5


  • Brodor o gefn gwlad Ceredigion yw awdur y gyfrol hon o gerddi ysgafn. Mae bron pob cerdd ynddi wedi'i lleoli yng nghynefin y bardd, a'r cyfan yn gyforiog o eiriau tafodieithol difyr.

    Mari Fowr ac Elvis
    Weithiau bydd y bardd yn cyfarch cymeriadau go iawn o'i fro megis T Llew Jones.

    Dro arall, cawn straeon am gymeriadau dychmygol megis Mari Fowr, a chawn gip ar ddychymyg ffrwythlon Arwel mewn cerddi swreal megis 'Y Cymdogion Newydd', sy'n sôn am Elvis yn symud i bentref Plwmp.

    Clawr y llyfr Mae ganddo hefyd ddawn, fel y dengys ei englynion, i droi pob math o bethau dibwys - hyd yn oed siwper-gliw - yn bethau digri:
    Ond am gwd job ymhobman
    Jiw, siwper-gliw sy'n stwff glân

    Ond prif destun y cerddi yw'r bardd ei hun, a'r helyntion a'r troeon trwstan y mae'n eu profi.

    Gan amlaf, bydd yr anffawd yn ymwneud â noethni cyhoeddus anfwriadol, mynd i'r gwely gyda'r fenyw anghywir, neu rywbeth yn ymwneud â thŷ bach.

    Cawn ein hatgoffa weithiau o anturiaethau Dafydd ap Gwilym - yn wir, mae'r bardd yn honni ei fod yn perthyn iddo yn y gerdd ddireidus 'Teulu Ni':

    Bedyddiwyd 'rhen Ap Gwilym yn ffont Llanbadarn Fawr
    A thybiais a oes blewyn ar ôl i'w gael co nawr?
    Es yna i chwilota er mwyn gwneud DNA
    A pherthyn rown, dim cwestiwn, yn agos iddo fe.

    Diflasu
    Er mor rhwydd yw arddull y bardd, rhaid cyfaddef imi ddiflasu ar y llyfr erbyn y diwedd.
    Cerddi a berfformiwyd yn gyhoeddus yw'r mwyafrif, a theimlaf eu bod wedi colli'u lliw o'u rhoi ar bapur.

    Nid yw cartwnau Aneurin Jones yn llwyddo i'w bywiogi chwaith. Roedd sawl cerdd yn debyg i'w gilydd, a'r cwpledi olaf yn aml yn ddifflach. Oherwydd hyn, teimlaf y byddai'r casgliad yn gryfach o lawer o fod wedi chwynnu ambell gerdd wan.

    Nid oedd yr hiwmor bob amser at fy nant chwaith. Er nad wyf yn un sy'n credu y dylai hiwmor fod yn 'wleidyddol gywir' bob amser gadawyd blas cas yn fy ngheg gan rai cerddi.

    Blas y Saithdegau
    Ceir sawl jôc ddi-chwaeth am Affricanwyr canibalaidd a nodir bod 'Barbeciw Drws Nesa' yn gân 'a sensrwyd am ei hilyddiaeth gan gynhyrchydd 'Talwrn y Beirdd'.

    Negyddol yw'r darlun o fenywod hefyd, a'r cyfeiriadau at 'y wraig' bob amser yn ddilornus.

    Petai'r cerddi i gyd yn wirioneddol ddoniol, efallai y byddai modd esgusodi rhai o'r sylwadau, ond yn anffodus, doedden nhw ddim yn ddoniol iawn i mi. Teimlwn yn aml fel petawn yn darllen llyfr a sgwennwyd rywbryd yn Saithdegau'r ganrif ddiwethaf, gyda'r holl gyfeiriadau at flwmers a'r fam-yng-nghyfraith.

    Tro ar ôl tro
    Mae ambell gocyn hitio yn ei chael hi dro ar ôl tro, megis yr Undeb Ewropeaidd a'i reolau, hipis drewllyd a noethlymunwyr - pethau sy'n cythruddo sawl un yng nghefn gwlad Cymru, ond sy'n amherthnasol efallai i bobl drefol.

    Serch hynny, rwy'n siŵr y bydd y llyfr yn dod â gwên i wyneb sawl aelod o'r to hŷn yn ein cymunedau gwledig a hwythau'n adnabod rhai o'r teipiau a'r sefyllfaoedd a ddisgrifir.

    Ond i'r rhai sydd am farddoniaeth ddeallus sy'n bwrw golwg dreiddgar ar ein byd ni heddiw, nid dyma'r llyfr i chi!

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý