±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gweinidog
Atrhrylith hen bont Pontypridd
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gweinidog. Cyhoeddir gan Gyngor Tref Pontypridd. Pris £6.50.


  • "Adeiladydd i'r ddeufyd," - dyna'r geiriau ar gofeb William Edwards yng Nghapel yr Annibynwyr, y Groeswen, y capel lle bu adeiladwr pont enwog Pontypridd yn weinidog am bum mlynedd a deugain.

    Clawr y llyfr Mae pont yn symbol arwyddocaol ym mhob oes - yn sylfaenol yn cysylltu dau ddarn o wlad dros afon, neu gulfor neu gwm cul.

    Ond gall gyfeirio at ddod â phobl o wahanol oed, cenedl neu iaith at ei gilydd.

    Yn ei hanfod roedd pont William Edwards yn cysylltu plwyfi Eglwysilan, Llanwynno a Llantrisant dros afon wyllt a pheryglus.

    Ond roedd ei fywyd yn pontio llawer mwy na'r syniad o uno dyrnaid o blwyfi yn yr hen Sir Forgannwg.

    Ei dad yn boddi
    Gŵyr llawer y stori am dad William Edwards yn boddi wrth geisio croesi afon Tâf a hithau mewn llif ffyrnig a hynny, fe gredir, sy'n egluro'i frwdfrydedd pan gafodd gais i adeiladu pont fyddai'n meistroli'r afon gipiodd fywyd ei dad ac yntau yn blentyn deim ond seithmlwydd oed.

    Mae llawer yn gyfarwydd â'r ffaith mai hon, am ddeugain mlynedd, oedd y bont un bwa mwyaf ei rhychwant yn Ewrop - 140 troedfedd.

    Hwyrach mai hi oedd y bont un bwa fwyaf yn y byd ar y pryd, oni bai bod rhywbeth draw, draw, yn China na wyddom ni ddim amdani.

    Portread o William Edwards gan Thomas Hill yn y llyfr Y gwir yw bod William Edwards yn glamp o athrylith, aml ei ddoniau.

    Ceir hanes rhyfeddol y gŵr o lechweddau mynydd Eglwysilan yn y gyfrol William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gwenidog, cyfieithiad o gyfrol a gyhoeddwyd gan H. P. Richards, Caerffili, ugain mlynedd union yn ôl.

    Nid y bont enwog ym Mhontypridd oedd ei unig bont - cododd tua dwsin o bontydd i gyd, dros afonydd Wysg, Tawe, Afan, Tywi ac Aman.

    Ac mae'n debyg mai ef a gododd y bont reilffordd gyntaf yng Nghymru - Pont Pwll y Llygod dros Gwendraeth Fawr ar gyfer tramffordd geffyl i gludo glo.

    Os yw hynny'n gywir hon fyddai'r drydedd bont reilffordd i'w hadeiladu yn y byd.

    Sawl agwedd
    Yr hyn a'm swynodd yn y gyfrol yw'r nifer o agweddau o hanes Cymru a adlewyrchir ym mherson William Edwards.

    Cawn ddarllen amdano, ac yntau ond plentyn, yn atgyweirio muriau cerrig sychion ar y ffermydd ar ochrau Mynydd Eglwysilan - hen grefft sy'n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd.

    Llun o'r bont gan S Alken oddeutu 1796 yn y llyfr Cawn ei hanes yn cerdded i Gaerffili i astudio adeiladwaith y castell Normanaidd.

    Darllenwn amdano'n astudio ffwrnais Caerffili a chyn hir yn adeiladu ffwrneisi ei hun.

    Adeiladodd efail ar gyfer gwaith haearn Caerdydd ym 1840, dros bymtheg mlynedd cyn codi pont Pontypridd.

    Bryd hynny y dysgodd siarad Saesneg.

    Mae ei fywyd, felly, yn cwmpasu'r hen draddodiad Cymraeg, hen hanes adeiladwaith o oes y cerrig drwy gyfnod y Normaniaid i'r Chwyldro Diwydiannol.

    Cynllunio tref
    Wedi adeiladu'r bont ym Mhontypridd, cafodd gomisiwn gan y diwydiannwr John Morris, i gynllunio tref ar gyfer ei weithwyr ar lan afon Tawe a dyma Dreforys (Morriston) lle mae cynllun William Edwards gyda'i strydoedd llydain braf yn un a edmygir fel patrwm o gynllunio tref ddiwydiannol hyd heddiw.

    Ond ei gofeb enwocaf yw'r hen bont ym Mhontypridd.

    Denodd arlunwyr ledled Ewrop i'w hedmygu a'i phaentio mewn cyfnod pan safai yng nghanol gwlad wyrddlas heb dai ar ei chyfyl.

    Ymhlith yr arlunwyr hynny oedd y Cymro Richard Wilson o Benegoes.

    Caead dysgl gawl gan gwmni Wedgewood Cafwyd darlun o'r bont ar gaead dysgl gawl gan gwmni Wedgewood ar gyfer Catherine Fawr o Rwsia.

    Do, cafodd William Edwards ei anrhydeddu yn ei oes ei hun - er ein bod ni heddiw, hwyrach, yn euog o anghofio'i athrylith.

    Digwyddiad o bwys
    Bu cyfieithu'r llyfryn a sgrifennodd ac a gyhoeddodd y diweddar H. P. Richards yn ddigwyddiad o bwys a da gweld Cyngor Tref Pontypridd yn cymryd y cam ac fe fuasai H P Richards yn falch o'r gyfrol liwgar ac o gyfieithiad rhwydd a deallus Gareth Wort - yntau'n un o blant Pontypridd.

    Yr oedd Lili, gwraig H. P. Richards, yn un o'r criw bach o athrawon a sefydlodd Ysgol Gyfun Rhydfelen.

    Dylid llongyfarch Curadur Amgueddfa Pontypridd, Brian Davies, am ei ychwanegiadau i'r gwaith.

    Lle gynt yr oedd y lluniau i gyd yn ddu a gwyn, yn awr mae'r mwyafrif mewn lliw ac mewn ôl-nodyn diddorol ceir sawl darn o wybodaeth newydd - yn arbennig am y bont reilffordd ger fferm Pwll y llygod.

    Yr ydym ar fai am esgeuluso Cymry a wnaeth gyfraniad arbennig ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianyddiaeth. Dylai Cymru gyfan ymfalchïo yng nghyfraniad y gweinidog a'r adeiladwr o'r Groeswen ac Eglwysilan.
  • Gellir cael copïau o'r llyfryn o Amgueddfa Pontypridd, Stryd y Bont, Pontypridd, CF37 4PE. Ychwaneger £1 am gludiant.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Pontypridd yn Lleol i Mi

  • Lluniau diwrnod cyhoeddi'r gyfrol


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý