±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hen Garolau Cymru
Casgliad o 60 o garolau plygain
  • Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain. Golygwyd gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. £8.50.


  • Gellir gwrando Arfon Gwilym yn siarad am ei lyfr ar ddiwedd yr erthygl hon.


  • Un o lyfrau mwyaf amserol Nadolig 2006 yw casgliad Arfon Gwilym a Sioned Webb o hen garolau Cymraeg.

    Cyhoeddir Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn ac y mae yr unig gasgliad o'r fath sydd ar gael.

    Fe'i golygwyd gan Arfon a'i briod, Sioned Webb ond dywedodd Arfon iddo fod mewn cryn gyfyng gyngor cyn cymryd y cam o gyhoeddi'r llyfr.

    Clawr y llyfr "Roeddwn i'n gweld yr angen i gyhoeddi cyfrol eithaf cynhwysfawr - ac rwy'n credu bod 60 o garolau yn eithaf cynhwysfawr - ac hefyd gyfrol oedd yn hwylus," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg.

    "Mae yna lawer iawn o garolau wedi cael eu cyhoeddi ar hyd y blynyddoedd ond maen nhw mewn gwahanol lyfrau - rhyw ddwsin fan hyn a rhyw bymtheg fan acw - a llyfrau allan o brint ac yn y blaen; felly roeddwn i'n gweld yr angen yna," meddai.

    "Ond ar y llaw arall roeddwn i'n ymwybodol iawn fod yna deuluoedd a phartïon plygain yn ardaloedd Sir Drefaldwyn lle mae'r traddodiad yn dal yn fyw a lle mae rhai o'r carolau yma yn cael eu gwarchod yn ofalus iawn, iawn.

    "Ac roeddwn i'n gyndyn braidd - neu roeddwn i'n nerfus - o fynd i amharu ar y rhan yna o'r peth. Y busnes yma o agor y drysau yn llydan i'r byd i gyd.

    "Ond yn y diwedd y penderfyniad oedd cyhoeddi am y rheswm fod y traddodiad canu plygain yn perthyn i Gymru gyfan nid ond i un rhan o Gymru - a honno oedd y ddadl wnaeth ennill yn y diwedd."

    Traddodiad llafar
    Pwysleisiodd mai traddodiad llafar yw hwn ac un - fel canu gwerin - amhosib ei gofnodi'n llwyr ar bapur.

    "Rwy'n mynegi yn y rhagair, Dyma'r geiriau, dyma'r nodau ichi ond os ydy ch chi eisiau gwybod sut mae eu canu nhw go iawn wel gwrandwch ar hen recordiadau fel yr un wnaeth Roy Saer o Sain Ffagan yn y Saithdegau. Hwnna ydi'r arweiniad gorau o ddigon," meddai.

    "Wrth gwrs y gallwch chi roi nodau ar bapur ond allwch chi byth ddisgrifio yn union beth ydi'r y mân bwysleisiadau.

    "Un peth a sylwais i pan ddechreuais i fynd i blygeiniau oedd bod y carolau yn cael eu canu yn yr un ysbryd a chân werin efo'r rhyddid yna a'r dal ar ambell i nodyn, dal ar ambell i air. Y geiriau oedd yn bwysig wrth gwrs ond nid y nodau," meddai.

    "Ond mae'n rhaid yn rhywle gofnodi beth ydi'r nodau a beth ydi'r geiriau er mwyn i bobl eraill eu dysgu nhw," ychwanegodd.

    Gwasanaeth nid cyngerdd
    Pwysleisiodd hefyd mai rhan o addoliad a defosiwn yw'r carolau.

    "Rydw i'n pwysleisio fwy nag unwaith yn y llyfr mai gwasanaeth ydi'r Plygain ac nid cyngerdd," meddai.

    Yn ystod y drafodaeth gwahaniaethodd hefyd rhwng carolau ac emynau o ran eu natur.

    "Mae emynau yn ffitio i rhyw batrwm mwy taclus rhywsut ond fe gewch chi rai carolau tua phymtheg llinell yr un a llawer iawn ohonyn nhw yn faledi - alawon baled wedi dod i mewn o Loegr - ac mae hanes y rheini yn hynod ddiddorol," meddai.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Bwrw Golwg

  • Cyhoeddi Cydymaith Caneuon Ffydd

  • Lleol i Mi - Canolbarth Cymru


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý