±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ychydig Is Na'r Angylion
Siop dan ei sang ar gyfer cyhoeddi nofel
Roedd Siop Eifionydd, Porthmadog, dan ei sang pan ddaeth yr awdur a'r dramodydd Aled Jones Williams, yno i gyflwyno'i gyfrol newydd, Ychydig Is Na'r Angylion.

Yn awdur toreithiog, dyma nofel gyntaf Aled Jones Williams a'r addewid yw ei bod mor ddi-flewyn-ar-dafod a beiddgar ag unrhyw un o'i weithiau blaenorol.

Clawr y llyfr Meddai Maldwyn Thomas o Wasg y Bwthyn, am y llyfr:
"Mae hon yn glamp o nofel. Mae Harri Pritchard Jones eisoes yn ei chymharu hi ochr yn ochr â neb llai na Charadog Prichard ac Un Nos Ola Leuad.

"Fel y gallwch ddychmygu gydag unrhyw waith o eiddo i Aled, mae yma chwarae ar bob synnwyr - y pum arferol yn ogystal â'r erotig a'r ysbrydol."

Llyfr y flwyddyn
Ychwanegodd: "Mi fydd hi'n ymgeisydd cryf iawn am wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, does gen i ddim amheuaeth o gwbl am hynny."

Ategodd y Parchedig John Owen, Rhuthun - oedd yn holi'r awdur ar y noson - eiriau'r cyhoeddwyr:

"Mae hi'n glamp o nofel ac, fel y gallwch ddychmygu efo Aled, mae hi'n byrlymu o syniadau a themâ."

Cafwyd cerddoriaeth gan Fiona a Gorwel Owen, gan gynnwys rhan o'r hunangofiant Oerfel Gaeaf Duw ar gân, a chân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y noson ar yr un teitl â'r nofel.

Gorwel a Fiona gydag Aled Jones Williams Meddai Gorwel, sydd wedi gweithio gyda grwpiau fel Gorky's yn y gorffennol, yn ei gyflwyniad i'r caneuon:
"Mi ddaeth Fiona a finnau i nabod Aled wedi i Maldwyn ein cyflwyno i'w gyfrol Oerfel Gaeaf Duw, ac roedden ni'n teimlo bod y geiriau mor bwerus fel inni eu gosod ar dôn."

Marw mewn damwain
Dywedodd Aled Jones Williams mai hanes un dyn sydd yn y nofel, Dulyn Parri, sy'n briod â Dwynwen ac yn dad i dri o blant.

"Mae ei fywyd yn un digon di-nod tan bod ei wraig a'i ddau blentyn hynaf yn marw mewn damwain car ac mae Dulyn yn canfod ei hun yn gofalu am ei fab ieuengaf, Rhodri, sy'n anabl.

"Mae'r nofel yn dilyn datblygiad y berthynas hon yn ogystal ag yn ein cyflwyno i lu o gymeriadau eraill megis yr arlunydd Elliw Fôn, Huan Elis sy'n rhyw lun ar therapydd a Sabina Ong, cyn-gariad i Dulyn a mam i fachgen sydd wedi troi'n Fwslim."

Dim ond nofel
Beth felly, a'i ysgogodd i fynd ati i ysgrifennu nofel y tro hwn?

"Dim ond nofel fyddai hon wedi gallu bod, ac yn sicr roedd y pwnc yn benthyca ei hun i'r cyfrwng, yn enwedig gan fod cymaint o gymeriadau ynddi. Mae hi'n anodd dweud pa un ydy'r prif gymeriad a dweud y gwir, roedd llais pob un mor gryf i mi a phob un ohonynt yn benderfynol o ddweud eu stori.

"Mi wnes i fwynhau cyfrwng y nofel, y gynfas fawr" meddai wedyn.

"Mae ysgrifennu nofel yn brofiad fwy preifat na sgwennu drama lwyfan rhywsut. Mae rhywun yn gallu mynd i rhyw gornel i sgwennu ac ar y pryd roeddwn i'n teimlo'n fwy diogel yn y fan honno."

Llenor yn cefnogi llenor, Aled gyda Wil Aam Hefyd yn bresennol ar y noson yr oedd dramodydd a llenor arall W S Jones - Wil Sam - a ddaeth i gefnogi ei hen gyfaill.

  • Mae Aled Jones Williams, sy'n wreiddiol o Lanwnda, yn ficer ym Mhorthmadog. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.

    Mae'n awdur nifer o ddramâu gan gynnwys; Wal; Fel Stafell; Ta-ra Teresa; Be Oedd Enw Ci Tin Tin? a Cnawd.

    Mae yr un mor adnabyddus am ei frwydr bersonol yn erbyn alcoholiaeth, a hynny wedi esgor ar ddramâu fel Lysh.

  • Ychydig Is Na'r Angylion. Aled Jones Williams. Gwasg y Bwthyn, £8.00.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Huw Alun


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý