±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dygwyl Eneidiau
Hanes goludog ac ysgrifennu cain
  • Adolygiad Hafina Clwyd o Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones. Gwasg Gwynedd. £9.95.
    Cyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Abertawe a'r Fro 2006.


  • O gofio bod gennym fel cenedl hanes hynod o liwgar a goludog y mae'n syndod bod cyn lleied o nofelwyr wedi mynd ati i greu nofel hanesyddol swmpus.

    Medrir eu cyfrif ar un law yn wir - Marion Eames wedi canolbwyntio ar gyfnod y Crynwyr; Rhiannon Davies Jones (oes Llywelyn) ac R Cyril Hughes (Catrin o Ferain) - dyna'r rhai sydd yn dod i'r cof.

    Clawr y llyfr Mae yna sgôp i rywun fynd ati i greu nofel fawr swmpus am Owain Glyndŵr neu Ryfel y Rhosynnau neu Iolo Morganwg hyd yn oed.

    Ond rhaid ychwanegu fy mod yn sylweddoli bod hyn yn gofyn llawer oherwydd y mae angen dyfalbarhad eithriadol a gwaith ymchwil llafurus.

    Er hynny, y mae ambell un dewr a diwyd yn barod i fentro ac eleni cawsom glamp o nofel hanes yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen - dros bum cant o dudalennau. Maint bricsen.

    Rhywbeth anarferol iawn yn y Gymraeg y dyddiau hyn a diolch byth amdani oherwydd rwyf wedi alaru ar nofelau bach tenau ffwrdd-a- hi.

    Credwch fi mae yna waith darllen ar hon ond y mae'n bleser pur i'r rhai sydd yn mwynhau nofelau hanesyddol.
    Ac mi rydw i.

    Llofruddiaeth a charwriaeth
    Mae hi wedi 'i lleoli ym Mhen LlÅ·n yn y misoedd yn arwain at y Rhyfel Cartref ac fe geir ynddi arwyddion o'r tyndra oedd yna rhwng pobl y brenin, Siarl I, a'r Seneddwyr.

    Ond wedi'u gweu o fewn i'r awyrgylch gythryblus honno y mae yma hefyd lofruddiaeth a charwriaeth a dirgelwch.

    Drwy gydol y nofel ceir y byrdwn:
    Pwy laddodd y ficer - a hynny mewn modd annynol a phaganaidd bron?

    Ac y mae yma dipyn o baganiaeth yn gymysg â'r crefydda. Yr oedd pobl yn credu mewn ellyllon a'r Diafol a Chŵn Annwn a cheir cryn dipyn o ofergoeliaeth.

    Yr wyf i yn digwydd credu bod paganiaeth yn medru bod yn llawer mwy diddorol a lliwgar na chrefydd uniongred megis Calfiniaeth!

    Disgrifiadau hyfryd
    Soniais am y gwaith ymchwil sydd ei angen cyn cychwyn ar nofel fel hon ac un o'r pethau hyfryd a geir gan Gwen Pritchard-Jones yw ei disgrifiadau o ddillad a bwydydd a meddyginiaethau.

    Ceir hefyd bwyslais ar y gwahaniaeth rhwng safon byw'r uchelwyr ym Modwrda a Chefamwlch a Bodfel a'u cymdogion tlawd yn eu bythynnod.

    Cymysgedd o gymeriadau
    Fel ym mhob nofel hanes ceir cymysgedd o gymeriadau hanesyddol a'r rhai sydd wedi deillio o ddychymyg yr awdur.

    Y mae Gwen Pritchard-Jones wedi llwyddo i'w hasio'n wych.

    Y ddau brif gymeriad (i mi beth bynnag) yw Catrin Williams a Sion Rhisiart.

    Yr oedd Catrin yn gymeriad go-iawn, yn ferch i Griffith a Gwen y Penrhyn ac yn nith i'r Archesgob John Williams (a elwid yn John Iorc).
    Bu hi farw yn 1704.

    Priododd ei chefnder, John Bodwrda, er nad oedd yn ei garu.

    Y mae Catrin yn gymeriad llawn a thrist: ei ffawd oedd priodi John sydd yn cael ei bortreadu fel cymeriad digon annymunol.

    "Nid eiddo merch mo'i hewyllys," meddai'r gân ac yr oedd hynny'n sicr yn wir yn yr oes honno.

    "Merch i frenin wyf," meddai Siwan onide. Hynny yw, nid oedd ganddi hawl i briodi'r sawl a fynnai.

    Ac yr oedd Catrin mewn cariad a Sion Rhisiart, cymeriad nad oedd yn bod ond a seiliwyd ar Walter Leslie, milwr o'r Alban.

    Ond er ei fod yn gymeriad ffug y mae'n sylfaenol i'r stori.

    Golud yr iaith
    Mae golud yr iaith a'r disgrifiadau'n heintus a'r ddeialog yn oludog hefyd - e.e. Ifan yn dweud ei fod wedi gweld Cŵn Annwn;
    "Mi welais i'r cŵn...Cŵn Arawn. Cŵn Annwn. Roeddan nhw'n anferth, wir i chi, yn gewri uwch fy mhen i, a'u llygaid yn llosgi'n goch a'u genau'n glafoerio tân, a'u dannadd yn hirach na mraich i".

    Yr oedd Ifan yn credu ac mewn gwewyr. Dyna'r math o ofergoeliaeth sydd yn treiddio drwy'r gyfrol, yn gymysg â disgrifiadau o fywyd syber yr uchelwyr.

    Gorfod darllen
    Yng nghanol yr ofergoeliaeth, yn gymysg â Christnogaeth y mae'n amlwg nad oedd i ficeriaid lawer o barch ac y mae'r bennod gyntaf sydd yn disgrifio'r llofruddiaeth yn profi hynny ac wrth gwrs yn ein gorfodi i ddarllen ymhellach.

    Sonnir hefyd am y ficeriaid fel tinceriaid meddw ac wrth gwrs, yn ddiweddarach, yn 1754, pasiwyd Deddf Hardwick yn bwrpasol i atal ficeriaid meddw rhag gweinyddu priodasau tin y gwrych am bris peint o gwrw.

    Nofel swmpus, grefftus, ddifyr.

    Gwelais un camgymeriad.
    Ar dud 277 dywedir "Dechreuodd yr anghydfod rhwng Bodwrda a Bodfel yn oes Edward y Seithfed."
    Go brin. Daeth Edward VII yn frenin yn 1901.

    Un peth arall. Buasai'n well gen i pe bai'r cart achau wedi'i osod ar ddechrau'r llyfr yn hytrach na gorfod troi i'r cefn bob hyn a hyn i weld sut oedd pawb yn perthyn ac yn cysylltu.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwen Pritchard Jones

  • Ennill Gwobr Goffa Daniel Owen


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý