| |
|
|
|
|
|
|
|
Pili Pala Gweld pethau fel y maen nhw
Adolygiad Catrin Jones o Pili Pala gan Catrin Dafydd. Gomer. £7.99.
"Nofel am gariad, gwyliau a gwallgofrwydd, am farfalle, ffrindiau a ffawd," - dyna'r disgrifiad ar glawr Pili Pala, nofel gyntaf Catrin Dafydd.
Yn wir mae'r frawddeg hon yn cyfleu'r nofel yn berffaith wrth inni gael ein tywys o strydoedd diflas Caerdydd i brydferthwch Toscana gan gwrdd â sawl cymeriad lliwgar yn ystod y daith.
Mae'r stori'n troi o amgylch Anest Gwyn sydd wedi llwyr ddiflasu ar undonedd bywyd yng Nghaerdydd.
Ar ddechrau'r nofel mae'n holi, "Beth yn union yw'r holl ffys 'na ynglyn â dod i Gaerdydd ar ôl graddio? Gradd têc-awê Prifysgol Cymru cyn neidio ar y trên grêfi i'r ddinas fawr? Y ddinas fawr lle mae 'pawb' yn byw. Llond lle o freuddwydion a dim yn digwydd."
Ydi mae Anest wedi cael llond bol a'r unig ddigwyddiad lliwgar yn ei bywyd yw'r dosbarthiadau celf ar nos Fawrth lle mae'n dychmygu ei bod yn gymeriad mewn ffilm.
Yno hefyd mae'n cyfarfod Mrs Blanche. gwraig gyfoethog 70 oed sy'n dod yn gysur i Anest ac yn ei hudo ar wyliau i'r Eidal ac i'w thŷ godidog ger pentref Buon Torrentóri.
Cymeriadau hynod
Yn ystod ymweliad y ddwy â'r pentref cawn ein cyflwyno i gymeriadau hynod Buon Torrentóri.
Dyna Piccolomini y plismon anobeithiol ond busneslyd ac Isolde y lanhawraig yn ei dillad du sy'n diolch i Dduw a'r Forwyn Fair am bopeth ac wedi ymgolli yn ei galar ar ôl marwolaeth ei gŵr a foddodd mewn bwced o laeth gafr.
Hefyd rydyn ni'n dod i adnabod ei merch, Mariella, sydd dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â Marco, mab y tŷ bwyta lleol. Mae yntau mewn cariad â hithau ond yn gorfod dewis rhyngddi hi â'r busnes teuluol a chefnogaeth ei dad.
Llu o gyfrinachau Yn y nofel mae hanes Marco a Mariella yn rhedeg ochr yn ochr â hanes Anest a Mrs Blanche yn Nhoscana.
Fel y gellir disgwyl dyw bywyd na'r gwyliau ddim yn fêl i gyd ac o'r dechrau mae'n amlwg fod llu o gyfrinachau yn llechu yn Buon Torrentóri.
Ceir sawl awgrym fod yno, "ymhlith yr holl dalpiau o hanes a aeth yn angof...ambell gyfrinach dywyll yn ddigon i ddanfon un o'i go'..."
Er imi deimlo fod y stori'n araf yn cydio ar y dechrau mae pethau'n cyflymu rhyw hanner ffordd trwy'r llyfr.
Er mai fel bardd a dramodydd mae'r awdur wedi gwneud ei henw hyd yma mae'n amlwg ei bod hefyd yn gwbl gyfforddus â chyfrwng y nofel.
Mae yma ddisgrifiadau byw fel y darlun o'r tÅ· mawreddog, Casa Toscana, "yn eistedd fel brenin ymhlith y coed pinwydd" ond sydd er hyn yn "dÅ· digon unig ... ro'dd e'n lot o bethe i bawb ac ar y llaw arall do'dd e'n ddim byd i neb."
Ysgrifennu gonest Ond yr hyn yr oeddwn i'n ei hoffi'n fwy na dim oedd yr ysgrifennu gonest a di-flewyn-ar-dafod.
Nid ceisio darlunio byd ffug , perffaith, mae'r awdur ond disgrifio pethau fel maen nhw mewn bywyd go iawn.
Mae sawl enghraifft, megis Anest yn dweud ei bod "yn teimlo fel petai mewn rhyw fideo artistig (du a gwyn wrth gwrs) am gyfeillgarwch hen fenyw a merch ifanc bert ym Mharis, ond mai yng Nghaerdydd oedden nhw, a'i bod hi'n piso bwrw".
A dywed Anest mai'r "gwir plaen oedd, mewn realiti bob dydd 'dim papur-tŷ-bach-ar-ôl', doedd dim fel y ffilmiau."
Difyr hefyd yw'r sylwadau a geir mewn cromfachau wrth fynd heibio gyda'r awdur yn amlwg â'i thafod yn ei boch.
Nofel ffres Yn sicr mae Pili Pala yn nofel ffres gan nofelydd ifanc a'r ysgrifennu gonest yn chwa o awyr iach.
Wrth i'r gaeaf nesáu a'r nosweithiau tynnu atynt beth well felly na diflannu i haul crasboeth Toscana am gyfnod a chanfod beth yw'r cyfrinachau tywyll hynny sy'n llechu yng nghanol y bryniau...
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Catrin Dafydd
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|