±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yn Fy Lle
Meddiannu ei lle
  • Adolygiad meg Elis o Yn Fy Lle - cerddi gan Karen Owen. Cyhoeddiadau Barddas. £6.95.


  • Fûm i erioed yn or-hoff o'r disgrifiad o rywun fel un "agos at ei lle".
    Gwn mai canmol yw'r bwriad, ond i mi mae naws gwaseidd-dra ar yr ymadrodd - ac nid cyd-ddigwyddiad, chwaith, mo'r ffaith mai "ei lle" ddywedais i, gan mai i ddisgrifio merched, yn ddi-ffael, y clywais ei ddefnyddio.

    Clawr y llyfr Dyna ddaeth i'm meddwl yn syth wrth weld teitl y llyfr hwn. Ac, yn wir, petaech yn bwrw golwg sydyn dros destunau rhai o'r cerddi, hawdd fyddai neidio i'r casgliad mai canu cymdeithasol, at iws gwlad, sydd yma.

    Cerddi i nodi cau siop cigydd; cerddi cyfarch ar achlysur llwyddiannau Eisteddfodol - canu cyfforddus rhywun sy'n "agos at ei lle", felly?

    Hmm, dwn i'm.
    Mae'r canu cyfarch yn grefftus dros ben - ond craffwch fwy ar rai o linellau Cau siop Gareth Bwtsiar. Hawdd dychmygu bardd gwlad yn gwneud rhywbeth eithaf confensiynol a sentimental o hyn, ond gwrandewch:

    "Oherwydd bwtsiar arall,
    â llai o gonsyrn na'r llall
    ddaw â'r 'arch' nawr i'r
    farchnad
    a rhoi'r arch yn ei gig rhad;"

    Dyma linellau sy'n peri i rywun annifyrru, nid setlo'n gyfforddus yn ddyfnach i'w phriod le.

    Ddim yn bell
    'Daeth y bardd ddim yn ddaearyddol bell i gynhyrchu rhai o'i cherddi mwyaf ysgytwol, er i mi gael blas hefyd ar gerddi Tywod yr Aifft, a rhai o gerddi Ynysoedd.

    Ond yn y gwaith gafodd fwyaf o argraff, sef Cerddi'r Begar Bach, dengys wir allu ei dychymyg i deithio.

    Nid cyd-ddigwyddiad yw mai Gwybod fy lle yw teitl cerdd gyntaf y dilyniant grymus hwn, gyda holl gynodiadau'r ymadrodd yn rhoi rhagflas i'r darllenydd o'r creulondeb a'r realiti sydd yng ngweddill y cerddi.

    Ehangder meddwl
    Pan symudwn i Cerdd a Chrefft, a'r cerddi a ysgrifennwyd i gyd-fynd â gwaith celf Eisteddfod Eryri, cawn brawf eto o ehangder meddwl a dychymyg Karen Owen: mae testun cerdd megis Mae'r Gwynt yn Fyr wedi ei wreiddio'n solet yn "lle" a chefndir y bardd, ond y ddawn dweud yn iasol ac yn unrhyw beth ond parchus a gwasaidd.

    Nid "gwybod ei lle" y mae awdur y gyfrol hon, ond ei feddiannu.
    Ac y mae gwahaniaeth.
  • Holi Karen Owen
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Karen Owen


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý