±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Apocalups Yfory
Dal i enwi'r geiriau
  • Adolygiad Glyn Evans o Apocalups Yfory gan Gwyn Thomas. Barddas. £7.95.


  • Ai rhywbeth sydd ond dipyn bach yn fwy buddiol na loetran ar gorneli strydoedd ydi barddoni? Rhywbeth y gallai pobl fod yn dweud amdano ei fod yn well na mygio hen wragedd?

    Clawr y llyfrYng ngherdd gyntaf ei unfed casgliad ar bymtheg o gerddi daw Gwyn Thomas i'r casgliad, ar ôl gofyn iddo'i hun "Be ydi Barddoni?:
    "Wel, y mae o, welwch chi,/ Yn rhywbeth i'w wneud/ On'd ydi?"

    Tybed a fyddwn yn gwybod ar ôl darllen y gyfrol hon bod mwy iddi na hynny.? Yn gwybod bod bodolaeth bardd yn rhywbeth llawer amgenach na
    "Bod mewn cors hyd at eich gwddw/ Yno'n suddo, yno'n geirio,/ A neb o gwbwl yn gwrnado"?

    Ar fws
    Nid ar fws Crosville rhwng Croesoswallt a'r Waun y byddai rhywun yn disgwyl gwneud rhyw ddarganfyddiad newydd o bwys mewn barddoniaeth. Ond dyna lle, ar bnawn heulog yn 1973, yr agorais i gyntaf erioed gyfrol gan Gwyn Thomas a chael fy ngwefreiddio a'm cyffroi gan gerddi Enw'r Gair oedd newydd ei chyhoeddi.

    Y cyfuniad o sylwgarwch, hiwmor a'r gallu i ddadansoddi a dadberfeddu pethau mawr ein bod mewn iaith sgwrs a chyda darluniau ein pob dydd a'i gwnaeth hi.

    Yr oedd nifer o'r cerddi yn ymwneud â byd plant. Erbyn heddiw, y mae gan blant y cerddi hynny eu plant eu hunain a'r rheini nawr yn broc i awen tad sy'n daid.

    Yn dra gwahanol
    Wrth gwrs, er bod yr hen werthoedd yn parhau y mae'r ffordd y mae'r taid - sy'n 70 oed eleni - yn ymateb i bethau yn dra gwahanol i'r ffordd yr oedd y tad ifanc yn gweld y byd.

    Nid yn gymaint oherwydd bod y bardd wedi newid ond bod y byd y mae'n byw ynddo wedi newid.
    Wedi newid, wedi llwyr newid, i aralleirio bardd arall mewn cyd-destun gwahanol.

    Yn yr amserau gynt a fu
    Yr oedd ein neiniau ni -
    Greaduriaid tlawd ag oeddynt -
    Yn arfer ymlwybro'n llwydaidd
    Mewn dilladau llaes i'r cwrdd
    Yn cario dan eu ceseiliau
    Lyfrau hums.

    Ond heddiw, meddai yn y gerdd, Genod Ni:

    Y mae ein genod ni -
    Ffeministiaid y Rhyddhad -
    Yn siglo mewn nicyrs tecnicylyr
    Yn ddifraw a di-fra
    Gan gario mewn hambagiau Gucci
    Dabledi ecstasi.

    Ydi mae Gwyn Thomas Apocalups Yfory yn rhan o fyd sydd wedi newid cymaint y mae rhai o'n cenhedlaeth ni ddigon agos a theimlo'n ddieithriaid ynddo wrth weld hen werthoedd dan warchae a bwystfilod wrth y drws.

    Ei rinwedd ef yw ei fod ef yn gallu darlunio bygythiad a dyfodiad dinistr mewn ffordd mor ddarllenadwy sy'n cydio. Mae gwreiddioldeb a hiwmor chwithig Enw'r Gair yn parhau ar waith yn ein procio a'n sobreiddio. Y ffordd wreiddiol, wahanol o weld a delweddu:

    Mae 'Appy Days er enghraifft yn adlais o'i ddiddordeb mewn ffilmiau - fel ag yw teitl y gyfrol ei hun - gyda'i darlun o arswyd ystrydebol ffilmiau:
    Oddi allan i waliau ein tai
    Yr ochr arall i'n ffenestr ni,
    Reit wrth ein drysau ni,
    Yno, yn y nos,
    Y mae yna, fe wyddom ni, fwystfil tywyll
    A glywn ni, weithiau, yn s'nwyro,
    Yn crafu ac yn ysgyrnygu'n isel.
    A gwyddom, yng nghysur goleuni ein trydan,
    Y bydd o, rywbryd, yn malu ei ffordd i mewn
    Yma atom ni, i'n llarpio.

    Mae cerddi eraill yn darlunio'n gliriach natur y bwystfil hwnnw - bwystfil sydd yn fygythiad i wareiddiad yn gyffredinol ac i'n diwylliant a'n hiaith fach ninnau yn arbennig; a hwythau gymaint dan warchae ac wedi eu clwyfo wrth i safonau a gwerthoedd gael eu cleisio.

    Mae'r delweddau o'r argyfwng yn arswydo rhywun megis yn Y Stafell Hon

    Yma, yn y stafell hon, y mae
    Silffeidiau ar silffeidiau o lyfrau,
    A'r cyfan yn llyfrau Cymraeg.
    Ond y mae mudandod,
    Fel dŵr budur,
    Yn graddol godi ynddi.
    A chyn bo hir fe fydd
    Y cwbwl wedi boddi.

    Ac yn Unwaith mae'n cofio y bu gennym unwaith iaith gyda ". . . geiriau a dreiglasai/ Trwy brofiadau ein pobl/ Am oesoedd, am ganrifoedd maith.".

    Ond bod hynny " cyn i'r byd newid"

    Cyn i fydoedd eraill lifo
    Fel lafa coch drwy ein profiadau
    Ac i'w geiriau losgi'n hyngyniadau
    Yn gols yn ein geneuau.

    Rhybuddia:
    Mudion ydym, megis meirwon ydym,
    A Chymru wedi llifo allan ohonom,
    O bosib, am byth.

    Ac yn y gerdd y mae ei theitl yn deitl i'r gyfrol hefyd darlunio ei gynefin darfodedig ym Mlaenau Ffestiniog y mae - cynefin "nad ydyw heddiw'n bod" ei werthoedd a'i arferion gwâr.

    A sut yr oeddwn i, yr adeg hynny,
    I wybod y byddai hi,
    O ddisbyddu'r fath ddaioni,
    I mi
    Yn apocalups yfory.

    O gael ei ysgwyd i wynebu y fath argyfwng unfed awr ar ddeg y mae dyn yn dyheu hefyd am lygedyn o oleuni. Am wreichionen o obaith lle mae anobaith yn rhemp ac y mae Gwyn Thomas yn effro i hynny hefyd gan ofyn:

    Ond beth am y goleuadau pell
    Nad yw ffynhonnell eu gloywder ddim yn pylu,
    Beth am y disgleirdeb hwnnw
    Sy'n peri ein bod ni'n gallu amgyffred
    Rhywbeth y tu draw i dywyllwch?

    Ac i'r sawl sy'n chwilio am obaith diau mai'r gerdd ddeg llinell, Mawrth fydd un fwyaf arwyddocaol y gyfrol:

    Yr adeg hon o'r flwyddyn
    Y mae y coedydd hyn
    Yn fyw o ffiwsys,
    Ac y mae eu brigau
    Wedi'u pacio'n dynn
    Â deinameit.
    Ac, yn y man,
    Bydd y cyfan
    Yn ffrwydro'n flagur,
    Yn wyrdd godidog a gwanwyn.

    Mewn byd lle mae mwy o arwyddion anobaith nac o arwyddion gobaith yn yr elfennau hynny sy'n ein cydio wrth hen werthoedd y mae ein hachubiaeth bosibl a'n diogelwch:
    Yn "Y goleuni rhyfedd hwnnw
    Sydd y tu hwnt i gnawd
    A'r tu hwnt i fater ein bydysawd
    pe baem ni, chwedl yntau, ond wedi gweld.

    O ludw oer bodolaeth/ Daw ffenics, o farwolaeth,/ Dros gyfwng oerllyd hiraeth," meddai mewn cerdd i gofio yr Athro J E Caerwyn Williams y mae'r cof amdano yn ymrithio "trwy len mudandod".

    Ac mewn cerdd i'r Gloddfa Ganol meddai:
    Tra byddaf fi â'r pethau yma yn fy nghof
    Nid amgueddfa, ond rhyw fath o bresennol
    O hyd fydd y Gloddfa Ganol.

    Ond efallai mai'r gerdd Mari - am fam y gorfu iddi "wylio, yn ddiymadferth,/ Ei merch yn darfod" - sy'n cyfleu y syniad hwn o afael y gorffennol orau. Yn un o gerddi grymunsaf a mwyaf teimladwy y gyfrol mae hon yn delyneg ysgytwol y bydd sawl un yn uniaethu â'r profiad personol ysig sydd ynddi.

    Dewis ffefrynnau
    Ac o fynd ati i ddewis ffefrynnau - fel mae rhywun yn mynnu gwneud - byddai'n anodd iawn dod o hyd i gerdd mor ysol ei chlo nag Arglwyddes y mae ei thair llinell olaf yn gadael pang o ddychryn oer.

    Yn y gyfrol i gyd mae 96 o gerddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu cyfyngu i un ddalen.

    Efallai bod hynny'n dweud mwy am y darllenydd hwn nac am y bardd ond y cerddi byrion hynny sy'n apelio fwyaf yn hytrach na rhai hirach.
    Yn y canol y mae rhyw ffair sborion o gerddi byrion iawn - crafog, gogleisiol a llawn hiwmor lletchwith.

    Yn ysgytwol, yn wefreiddiol, yn ogleisiol ac yn ddyrchafedig ar wahanol adegau mae Apocalups Yfory yn brawf o rym a cherddoriaeth iaith.

    Hefyd yn brawf, os mai dim ond "rhywbeth i'w wneud" ydi barddoni ei fod yn rhywbeth gwerth chweil i'w wneud - o gael ei wneud yn iawn.

  • Adolygiad Iwan Llwyd ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý