±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Crych Dros Dro
Adolygiad Glyn Evans o Crych Dros Dro gan Gwilym Owen. Cyfres y Cewri 27. Gwasg Gwynedd. £6.95. Tud. 206.
Does dim amheuaeth fod Bethan Gwanas yn llygad ei lle pan ddywedodd, noson cyhoeddi cofiant Gwilym Owen cyn y Nadolig 2003, y byddai yna Gymry pwysig "yn gwingo" ar ôl bod yn ei ddarllen.

Clawr y llyfrWedi'r cyfan, creodd Gwilym Owen yrfa mewn darlledu ar seiliau bod yn ddi-flewyn ar dafod ac heb fod â pharch o gwbl at gyrn neb wrth ddweud beth sydd ar ei feddwl.

Fodd bynnag, yr oedd Bethan Gwanas yr un mor gywir pan ychwanegodd y byddai yna lawer o ddarllenwyr eraill yn teimlo "yn gynnes tu mewn" wrth ei ddarllen.

Agor drysau
Ar glawr cefn y gyfrol mae addewid o lyfr sy'n "agor drysau a ffenestri" fel y gall y darllenydd ddeall pam mai dyn fel ag ydio yw Gwilym Owen. Fe ddigwydd hynny.

Mabwysiadodd Gwilym Owen ddelwedd gyhoeddus o'r dyn blin. Teitl ei gyfraniad i Golwg ar un adeg oedd "Y Golofn Gas" a llun ohono heb wên ar ei wyneb sydd ar glawr Crych Dros Dro - ond mae'n amgenach person na dyn cas. Nid yn unig mae'n bryfociwr ac yn dynnwr coes cyforiog o hiwmor ond yn wr hynod o deimladwy dan y croen eliffant mae'n ei ddangos i'w gyhoedd.

Chwarae teg
Daw hyn oll i'r amlwg yn Crych Dros Dro. Hynny, a'i synnwyr digyfaddawd o degwch a chwarae teg.

Hynny'n ganlyniad uniongyrchol o'i fagwraeth a'r hyn a welodd pan yn blentyn ar aelwyd dlodaidd yn Llannerchymedd, Sir Fôn:.

Wrth sgrifennu am ei dad dywed:
"Onid oeddwn i wedi'i weld o'n dod adref ar ei liniau bron ar ôl diwrnod o lafurio i rai o'r parchusion . . . oedd ddim ond yn rhy barod i fanteisio ar ei gyni a'i dlodi i wasgu'r cyfan allan o'i gorpws gwan . . . Y fo, yn y dyddiau dreng, a'm gwnaeth yn Sosialydd ac yn gasäwr sarhad y cyfoethogion a'r snobs mewn cymdeithas," meddai.

Er iddo ef ddringo i gopaon darlledu yng Nghymru nid anghofiodd yr egwyddorion sylfaenol o gwbl. Mae pennod am yr hyn a ddigwyddodd wedi iddo weld protestiwr iaith yn cael ei gamdrin gan yr heddlu yn dweud cyfrolau.

Streic ginio
Flynyddoedd cyn hynny, bu ef ei hun yn brotestiwr yn arweinydd Streic Cinio Ysgol lwyddiannus a barodd i'w hen gyfaill, J. O. Roberts, a fu'n cyflwyno'r gyfrol noson ei chyhoeddi, ddweud, "Mae herio awdurdod yn nhorriad bogail Gwilym Owen."

Wrth gofio'r digwyddiad hwnnw yn ysgol Llangefni a chanmol teyrngarwch ei gyd-ddisgyblion mae Gwilym Owen yn gorfod gofidio, fodd bynnag, na fu mor ffodus o ffyddlondeb pobl gydol ei yrfa:
"Fe allwn i fod wedi dymuno am yr un teyrngarwch gan gyfeillion a chyd-weithwyr yn nes ymlaen yn ystod fy mywyd ond, fel y gwelir, nid felly y bu hi," meddai.

Diau y byddai'n well gan sawl un pe na byddai wedi mynd ati i ddatgelu mor ddeheuig rai o'r pethau hynny yn y gyfrol hon.

Yn gymaint a dim llyfr yw hwn gan ddyn sydd yn amlwg eisiau gosod ambell i record yn strêt - a defnyddio idiom Seisnig na fyddai ef ei hun byth yn ei chymeradwyo fel darlledwr!

Dyn floodlights
Cwbwl annheg â'r gyfrol, fodd bynnag, fyddai rhoi'r argraff mai rhyw druthio dwys a chwerw sydd yma gan ei bod yn brothio o hiwmor a ffraethineb hefyd a'r awdur heb fod yn swil o ailadrodd straeon lle mae o'n dod allan ohoni waethaf.

O'i gyfnod fel reffari pêl-droed mae'n dwyn i gof gêm yn Nyffryn Nantlle yn dilyn stori yn y papurau lleol iddo gael ei ddewis i ddyfarnu dan lifoleuadau yn Y Rhyl.

Ac yntau wedi dyfarnu cic gosb amhoblogaidd daeth llais o'r dyrfa: "Mae'n deud yn y Caernarvon and Denbigh dy fod ti'n reffio dan 'floodlights' yn Rhyl yr wsnos nesa. Dwyt ti ddim yn gweld yng ngola dydd y diawl."

Profiad mwy ymosodol i hyd yn oed gyn reffari pêl-droed oedd cael ei wthio yn erbyn pared gan un o fawrion o ran statws a chorffolaeth y sefydliad Cymraeg yn dilyn rhaglen deledu yn ymwneud â Chyngor y Celfyddydau.

Y mae hwn, gyda llaw, yn un o'r ychydig achlysuron yn y llyfr pan yw Gwilym Owen yn dewis peidio ag enwi gwrthrych y stori er y bydd yn eglur i lawer pwy ydoedd gan ei gwneud yn anodd deall pam na roddir yr enw.

Dro arall mae'n disgrifio yr ymateb syfrdanol gan Orig Williams i gwestiwn 'rhy glyfar o'r hanner' ganddo fel gohebydd ifanc.

Dwy brif swydd
Nid yn unig bu Gwilym Owen yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod cyfnod eithriadol o ddiddorol yn ein hanes ond bu'n berson o ddylanwad hefyd a'r unig un a fu'n bennaeth newyddion a materion cyfoes teledu annibynnol yng Nghymru a'r ±«Óãtv.

Yn ganolog i'w lwyddiant yr oedd ei athroniaeth ddarlledu a welai mai angen y Gymraeg oedd "darlledu mewn ffordd fywiog, ddadleugar a diddan" - a dadleuol hefyd.

: "Does dim pwrpas paratoi stwff sy'n gwneud dim ond gyrru pobl i gysgu. Dyna oedd gwendid newyddiaduraeth Gymraeg ar y pryd a phrin fod pethau wedi gwella rhyw lawer erbyn heddiw chwaith," meddai.

Ond nid yw'n ymhelaethu gymaint ag y byddai rhywun wedi'i hoffi am gyflwr newyddiaduraeth y cyfnod presennol a thebyg i sawl un o fewn y diwydiant ollwng ochenaid o ryddhad am hynny.

Ond mae yn mynegi pryder ynglyn â "safon ieithyddol y to ifanc" gan awgrymu mai yn ein hysgolion a'n colegau y mae'r bai am hynny.

Teuluoedd cyfain
Mae codi crachen elitiaeth a nepotistiaeth hefyd.
"Rydw i'n pryderu hefyd bod ein cyfryngau Cymraeg yn mynd yn eiddo i un dosbarth o bobl ac, yn wir, yn waeth na hynny, fod aelodau o deuluoedd cyfain bellach yn cael eu hunain yn y cyfryngau Cymraeg. All hynny ddim bod yn sefyllfa iach," meddai.

Ac er nad yw ef yn dweud hynny yr hyn sy'n brawychu rhywun hefyd yw ei bod yn gwbl bosib na fyddai'r Gwilym Owen a fethodd mewn coleg yn cael cyfweliad am swydd y dyddiau hyn!

Talu'r pris
Ymddengys na fu'r arddull "fywiog, diddan a dadleuol" a arddelwyd ganddo ddim heb ei phris mewn gwlad mor grintachlyd a chysetlyd â Chymru.

"Wrth gwrs roedd ambell un yn credu fy mod i'n hen ddiawl cas a rhagfarnllyd ac roedd y feirniadaeth fwyaf yn dod o gyfeiriad rhai cenedlaetholwyr, yn enwedig os byddwn i wedi holi'r Dr Gwynfor Evans. Nid ei fod o erioed wedi lleisio unrhyw feirniadaeth . . ."

Ar ddalen arall dywed; "Bu'r ymateb i amryw o'r pynciau yn ffiaidd a phersonol, ac yn waeth na hynny, roedd yna esiamplau o rai Cymry da yn bwrw 'u llid ar Eleri, fy merch," meddai.

Bu pris i'w dalu yn ei fywyd personol hefyd wrthj i'w yrfa gymryd troeon annisgwyl ac yntau'n profi'r gwaelodion a'r teyrngarwch hwnnw a brofodd yn ystod y Streic Cinio Ysgol yr holl flynyddoedd yn ôl i'w weld yn eisiau erbyn hyn.

Gellir deall pam y bydd rhai yn gwingo o ddarllen yr hanes.

Troi at y botel
Mae'n ddigon gonest i gyfaddef iddo droi at y botel am gysur.

"Ac o ganlyniad, y rhai agosaf ataf oedd yn dioddef fwyaf. Does dim pwrpas manylu, ond digon yw dweud i Eirlys (ei wraig) ac Eleri (ei ferch) gael cyfnod anodd iawn yn delio hefo sefyllfa oedd yn hynod boenus iddyn nhw, ac yn gyfnod y mae gen i fawr gywilydd ohono," meddai.

Rhwng popeth mae yma'r gymysgedd gyfrin honno o ddatgelu, o ffraethineb, o deimladrwydd, o borthi cywreinrwydd ac o ddyneiddiwch sy'n gwneud cofiant un a fu yn ei chanol hi mewn mwy nag un maes yn un gwerth ei ddarllen.

Daw'r teitl o soned Dychwelyd hoff fardd yr awdur, T. H. Parry-Williams:
"Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gwyn,
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn;
ac yn y blaen.

Bydd crych ar ambell wyneb wrth ddarllen y cofiant hefyd - ond fydd yna fudandod mwyn sy'n gwestiwn arall. Eistedded yn ôl a disgwyl - mae'r papur glas wedi'i olau!



Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý