鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Byd a'r Betws gan Angharad Tomos
Adolygiad Gwilym Owen o Y Byd a'r Betws gan Angharad Tomos. Y Lolfa
Rydw i wedi ei ddweud o lawer gwaith o'r blaen ond mi deuda i o eto hefyd. Yn fy marn fach i, Yr Herald ydi'r papur newydd go iawn gorau sy'n cael ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.

Ac os byth y cyhoeddir papur dyddiol hir ddisgwyliedig Ned Thomas a'i griw gobeithio y bydd yna le ynddo fo i rai o'r elfennau hynny sy'n gwneud Yr Herald yn arbennig.

Ac un o hanfodion llwyddiant papur tre'r Cofis ers dros ddegawd bellach ydi'r golofn, Y Byd a'r Betws gan Angharad Tomos a dyma dudalen y bydda i yn troi ati gyntaf bob wythnos.

Sbarduno, colbio, diddanu
Tasg anferth, fel y gwn i yn bersonol, ydi cynhyrchu colofn bob saith diwrnod ond mae Angharad wedi llwyddo yn ddi-feth.

Mae wedi mynd ati i'n sbarduno, i'n colbio, i'n diddanu ac yn fwy na dim i'n sobri.

Clawr y llyfrA rwan, diolch i Wasg y Lolfa a'r ddau olygydd, Arwel Jones a Dafydd Morgan Lewis, mae'r genedl gyfan am gael cyfle i bori drwy dros hanner cant o'i hysgrifau mewn cyfrol werth chweil.

Ysgrifau sy'n cyflwyno barn a rhagfarn Angharad Tomos ar y pynciau hynny sydd agosaf at ei chalon ac fel y buasech chi'n disgwyl mae hi'n trafod gwleidyddiaeth iaith gyda chryn arddeliad - yn canmol ac yn colbio bob yn ail.

Y gwirionedd a'r goleuni
Mae hi'n gwneud yn gwbl eglur mai dim ond gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg y mae'r gwirionedd a'r goleuni a phwy all ei beio a hithau wedi rhoi'r holl flynyddoedd i sicrhau fod Tafod y Ddraig yn llosgi cydwybod y pwysigion yn San Steffan a Chaerdydd?

Mae'n amlwg hefyd ar fwy nag un achlysur iddi ei chael hi'n anodd iawn i arddangos unrhyw fath o gydymdeimlad 芒'r mudiad newydd, Cymuned.

Mae hi'n methu deall pam fod criw o Gymry tanllyd o Dalybont yng Ngheredigion wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf yn Neuadd Bentref Mynytho!

Digon miniog
Mae hi hefyd yn sgwennu'n apelgar ddiddorol am ei gwahanol deithiau ac mae ganddi bethau digon miniog i'w dweud y sin grefyddol yn enwedig felly ar raddfa leol.Do arall, mae hi hefyd yn llawer tawelach a pherl o ysgrif ydi honno am ddiwrnod Cyfarfod Pregethu yng nghapel y Wesleaid yn Nhy'n L么n ger Llanwnda.

Dyma Angharad Tomos y filltir sgw芒r go iawn.Ac mae ei bro yn hynod bwysig iddi a gwae hwnnw sy'n mentro troi ei gefn ar ei ardal enedigol.

Tystiolaeth o hynny ydi'r ffordd yr ymatebodd i ysgrif gan fachgen ifanc o Ddyffryn Nantlle a fu'n telynegu am ei fywyd newydd yng Nghaerdydd yn y cylchgrawn Tu Chwith.

Aeth y colofnydd ati i chwipio ei din mewn ffordd gwbl ddidostur a does dim ond gobeithio fod y gwr ifanc wedi dod at ei goed ar 么l y fath bobiad!

Dawn i gofio
Ond o'm rhan fy hun mae Angharad Tomos ar ei gorau pan yw'n cofio cyfeillion a gelynion. Mae yna nifer o ysgrifau coffa bendigedig yn y gyfrol hon.

Darllenwch yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am y prifardd Mathonwy Hughes, Rod Barrar, Arthur Edwards, Richard Turner, Sandra Sherwood ac mi gewch deimlo ias y golled a deimlodd Angharad o golli cyfeillion.
Dawn brin ydi honno sy'n cael arddangos ganddi yma.

Cofio'r Niwsans
Ond mae un ysgrif arall y mae'n rhaid imi gyfeirio ati a dyma em y gyfrol i gyd i mi."Mae'n chwith ar 么l y Rebel Mawr," ydi'r teitl ac ynddi dweud mae hi fod y "Niwsans" wedi mynd.

Cyfeirio mae hi wrth gwrs at Elwyn Jones, y Tori gwr y bu hi ac yntau ben ben a'i gilydd am flynyddoedd.

Ac mae ei pharagraff olaf yn dweud y cyfan.Medda hi:
"Diolch i Elwyn Jones am ein tanio o'n diymadferthedd, ein gwylltio ddigon i beri inni ymateb ac am fod yn niwsans cyson er mwyn ei gredoau."

Gellir priodoli'r un disgrifiad i Angharad Tomos ei hun wrth gwrs a phrawf o'i dawn i wneud hynny ydi cynnwys y gyfrol gyfoethog ryfeddol hon.

Parhaed i gadw golwg wythnosol unigryw ar y byd a'r betws.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy