鲍鱼tv

Explore the 鲍鱼tv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

鲍鱼tv 鲍鱼tvpage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Theleri Thwp, hunangofiant Dewi Pws
Dafydd Meirion yn adolygu Theleri Thwp gan Dewi Pws Morris. Gwasg Gwynedd. 拢6.95


Dwi newydd orffen darllen Theleri Thwp, hunangofiant Dewi Pws, a dwn i'm faint ohono i'w gredu!

Mae o'n malu awyr o'r dechrau i'r diwedd. Ond mae'n rhaid bod rhywfaint ohono'n wir oherwydd ei ffrindiau sydd wedi sgwennu peth ohono a hynny ar ddiwedd pob pennod.

Clawr y llyfr Rwyf, hefyd, wedi clywed am rai o'i anturiaethau gan bobol eraill ac felly mae'n rhaid eu bod nhw'n wir, os nad y fo ddywedodd wrthyn nhw!

Etifeddu dawn
Yn rhyfeddol, mae'n dechrau yn y dechrau, a chawn wybod iddo etifeddu ei ddawn gan ei fam, Ray, a ddywedodd wrtho unwaith "fod deinosor wedi bod yn yr ardd.
"Deinosor!" medde fi. "Be gythrel oedd deinosor yn ei wneud yn yr ardd?"
"Clirio'r cwteri," medde Mam.
Ac mae yna lawer rhagor!

Mae'r llyfr yn llawn o straeon doniol, rhai'n wreiddiol, rhai ddim mor wreiddiol. Y rhan fwyaf yn driciau y mae o wedi'u chwarae ar bobol eraill.

Ac fel y dywed ei gyfaill Emyr Wyn yr actor, mae'n "dal i wneud yr un triciau nawr ag yr oedd e' ddeng mlynedd ar hugain yn 么l. Ond maen nhw'n dal yn ffresh."

Ond mae rhywun yn cael teimlad bod yna rhyw dristwch yn rhywle dan yr wyneb y clown er nad yw hynny yn amlygu ei hun yn y llyfr.

Dawn gyda geiriau
Un arall o'i deulu y mae'n tynnu ar ei 么l oedd tad ei fam, Henry, oedd yn adroddwr digri.

Mae'n debyg i Henry a'i wraig, Sarah, ennill cadair eisteddfod rhyngddyn nhw, ac felly mae'n siwr i Dewi etifeddu'r un ddawn gyda geiriau.

Dewi yw awdur geiriau caneuon fel Lleucu Llwyd a Nwy yn y Nen ac mae'n falch iawn fod un o'i gerddi, Ti, ddaeth yn ddiweddarach yn un o ganeuon Edward H Dafis wedi cael ei chynnwys yn Cerddi '73 a olygwyd gan R Geraint Gruffydd.

Gwersi ffidil
Cawn gyfeiriadau at ei ddawn gerddorol gyntaf pan fo'n s么n am ei wersi ffidil yn yr ysgol ond dyw Dewi ddim yn cymryd at yr offeryn hwn a rhaid disgwyl iddo estyn at y git芒r cyn cael ei hanes yn cymryd gwir ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

Fel pawb arall o'r un cyfnod, grwp Saesneg y mae'n ei ffurfio - y Wayfarers, ond yn nes ymlaen cawn ei hanes yng Nglan Llyn yn cyfarfod rhai fel Dafydd Iwan a Huw Jones ac yn troi at y Gymraeg a dechrau cyfansoddi yn y Gymraeg. Yma hefyd y cawn wybod pam iddo gael ei alw'n Pws.

Pibydd brith
Pennod fer gawn ni am Y Tebot Piws, y grwp a ddaeth ag o i amlygrwydd, a does fawr ddim yn newydd yma. Yr un modd gydag Edward H Dafis.

Cawn ei hanes yn athro, ac fel y dywed cyfaill iddo, "roedd yn athrylith. Fe fyddai'r plant yn ei ddilyn i bobman. Roedd e'n union fel y Pibydd Brith. Pan adawodd e'i swydd fel gollodd y byd addysg athro gwych ond fe enillodd y byd adloniant Cymraeg dalent enfawr."

Wedi gorffen dysgu, mae'n ymuno 芒 Chwmni Theatr Cymru, Pobol y Cwm ac yna'n cael ei gyfres deledu ei hun, Torri Gwynt ac unwaith eto cawn resiad o gastiau a j么cs, ac mae'n debyg na ddioddefodd neb yn fwy na gwraig Lyn Ebenezer, J锚n.

"Wrth i J锚n sgwrsio 芒'r ymwelwyr (a'r rheiny'n bobol y capel) fe gerddais i lawr y grisiau ac i mewn i'r gegin yn borcyn..."

Syndod i rai
Daeth i amlygrwydd yn ddiweddarach fel seren y cyfres deithio Byd Pws, cyfres sy'n mynd ag o i rai o lefydd anghysbell a phellennig y byd. Roedd hyn yn gryn syndod i rai gan mai'r argraff a geir yn aml yw mai dyn y dafarn yw Dewi a does fawr o awydd ymarfer corff ynddo.

Ond na, mae o'n athletwr o fri. Mae'n rhedeg dros ei ysgol, mae'n aelod o d卯m rygbi Pontypwl ac mae o'n chwaraewr p锚l-droed dawnus.

Erbyn hyn mae'n chwaraewr golff ac, o bosib, dyma'r darnau lleiaf diddorol yn y llyfr. Ond dyna fo, does gen i ddim i'w ddweud wrth na golff na golffwyr.

Ar 么l Meic
Ydy, mae'n llyfr doniol iawn, iawn ac roeddwn i'n chwerthin yn uchel ar brydiau wrth ddarllen.

Ond y camgymeriad mawr wnes i oedd ei ddarllen ar 么l hunangofiant Meic Stevens gan nad yw'r ddau yn yr un cae ac rwy'n siwr y byddai Dewi'n cytuno - wedi cwbwl mae Meic Stevens yn arwr iddo.

Diwrnod ei briodasDywed mai Meic Stevens oedd yr unig ganwr Cymraeg nad oedd ganddo gywilydd s么n amdano wrth ei gyfeillion di-Gymraeg.

Llyfr ysgafn ydy hwn; rwy'n siwr nad ydyn ni'n dod i wybod popeth am Dewi ac rwy'n siwr bod llawer mwy iddo na be gawn ni yn y llyfr hwn.

Er hynny, os ydych chi eisiau difyrrwch pur - darllenwch o - ond mi fydd raid i chi ei ddarllen bron i'r diwedd cyn darganfod o ble y daeth y teitl, Theleri Thwp - ac mae angen to bach ar yr w!


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 鲍鱼tv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy